Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedu a chofrestru tân gwyllt a ffrwydron

Os ydych yn gwerthu neu'n storio tân gwyllt, rhaid i chi gael trwydded gennym. Dylech hefyd storio tân gwyllt yn ddiogel, gwybod eich ymarfer tân ac arddangos arwydd lle caiff tân gwyllt eu cyflenwi neu eu dangos i'w cyflenwi.

Mae gan yr HSE ganllawiau ar storio a gwerthu tân gwyllt (Yn agor ffenestr newydd) ar ei wefan.

Mae'n anghyfreithlon:

  1. Gwerthu tân gwyllt oedolion* i unrhyw un dan 18 oed
  2. Brosesu tân gwyllt oedolion* mewn man cyhoeddus
  3. Cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am ac eithrio noson tân gwyllt, pan fyddwch yn cael gwneud tan hanner nos, Nos Galan, Diwali a Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, pan fyddwch yn cael gwneud tan 1am.

*Unrhyw dân gwyllt ac eithrio cap, cnap cracyr, matsis doniol, popwyr parti, seirff a chlecwyr. Ni ellir gwerthu'r rhain i unrhyw un dan 16 oed.

Oni bai fod gennych drwydded flwyddyn gyfan, yna gallwch gyflenwi tân gwyllt yn unig:

  • o 15 Hydref tan 10 Tachwedd
  • o 26 tan 31 Rhagfyr
  • ar ddiwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a'r tridiau cyn hynny
  • neu ar ddiwrnod cyntaf Diwali a'r tridiau cyn hynny

Sut mae gwneud cais

Gwneud cais am drwydded i storio ffrwydron (gan gynnwys tan gwyllt) Gwneud cais am drwydded i storio ffrwydron (gan gynnwys tan gwyllt)

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd rhaid i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.

Dylech hefyd ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch cais. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun lleoliad o'r safle i raddfa mewn perthynas â'i leoliad, ac os ydych yn bwriadu storio neu arddangos mwy na 2.5kg o dân gwyllt ar lawr siop, gynllun llawr o'r ardal werthu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am werthu tân gwyllt i bobl dan oed ar wefan Business Companion (Yn agor ffenestr newydd).

Ffioedd

Ffïoedd ar gyfer trwydded tân gwyllt a ffrwydron Ffïoedd ar gyfer trwydded tân gwyllt a ffrwydron

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais. 

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i anfon ynghyd â'r ffurflen.

Gwneud cais am drwydded i storio ffrwydron (gan gynnwys tan gwyllt)

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded storio newydd neu i adnewyddu trwydded gyfredol i storio tân gwyllt a ffrwydron.

Ffïoedd ar gyfer trwydded tân gwyllt a ffrwydron

Mae ffioedd ar gyfer trwyddedau'n seiliedig ar y pellter gwahanu lleiaf ar gyfer storio'r tân gwyllt a'r ffrwydron.

Nodiadau arweiniol ar gyfer gwneud cais am drwydded i storio ffrwydron (gan gynnwys tân gwyllt)

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o Reoliadau Ffrwydron 2014, ac yn cydymffurfio â nhw. Mae gan yr awdurdod trwyddedu'r gallu i wahardd cadw ffrwydron ar y safle os yw'n credu nad yw'r safle bellach yn addas.

Cyflwynwch gais am drwydded flwyddyn gyfan i ddarparu tân gwyllt y tu allan i'r cyfnod tân gwyllt arferol

I allu gwerthu tân gwyllt drwy'r flwyddyn, mae angen i chi gael trwydded cyflenwi tân gwyllt yn ogystal â thrwydded storio ffrwydron.
Close Dewis iaith