Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad i'r sawl sy'n gwneud cais am drwydded bersonol

Gwybodaeth i'r sawl sy'n gwneud cais am drwydded bersonol. Darllenwch y canllawiau hyn cyn gwneud cais am drwydded bersonol.

1. Manylion personol

Rhaid i chi gwblhau'r adrannau enw, enwau blaenorol neu forwynol, cyfeiriad presennol, cyfeiriad blaenorol a dyddiad geni. Eich cyfeiriad presennol yw'r cyfeiriad rydych fel arfer yn byw ynddo.

Mae llenwi'r adrannau rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost yn ddewisol ond gallai helpu'r Awdurdod Trwyddedu yn y broses gwneud cais am drwydded.

2. Cwmwysterau trwyddedu

Er mwyn bod yn gymwys am drwydded bersonol, rhaid i chi naill ai:

i)   feddu ar gymhwyster trwyddedu achrededig a ddyfarnwyd gan gorff achrededig

ii)  meddu ar gymhwyster ardystiedig neu gyfatebol

iii) bod yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig

Nodwch ar y ffurflen pa ddatganiad sy'n berthnasol i chi.

Rhaid i chi amgáu copi ardystiedig o unrhyw gymhwyster trwyddedu sydd gennych gyda'r cais hwn. Os ydych wedi nodi eich bod yn meddu ar gymhwyster ardystiedig neu gyfatebol, nodwch unrhyw fanylion ynghylch enw a chyfeiriad y corff cyhoeddi, y dyddiad cyhoeddi ac unrhyw fanylion eraill nad ydynt wedi'u cynnwys ar y copi o'ch cymhwyster.

Y bobl o ddisgrifiad rhagnodedig ar hyn o bryd yw Meistr y Gwinwyr, y rheini sydd wedi'u trwyddedu gan Fwrdd y Lliain Gwyrdd a'r rheini sydd wedi'u trwyddedu gan Brifysgol Caergrawnt. Os ydych yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig rhaid i chi gynnwys tystiolaeth gyda'ch cais.

3. Ceisiadau blaenorol  heb eu cwblhau am drwydded bersonol

Gallwch feddu ar un drwydded bersonol ar y tro yn unig. Os ydych yn gwneud cais ar gyfer trwydded bersonol, ni allwch wneud cais arall nes bod yr awdurdod trwyddedu y gwnaed y cais iddo wedi penderfynu ar y cais, neu nes ei fod wedi ei dynnu'n ôl. Mae trwydded bersonol yn ddirym os yw'r ymgeisydd, ar yr adeg y'i rhoddir, eisoes yn meddu ar drwydded bersonol.

4. Fforffedu trwydded bersonol yn y 5 mlynedd diwethaf

Rhaid i'r awdurdod trwyddedu wrthod unrhyw gais a wnaed lle bo'r ymgeisydd wedi fforffedu trwydded bersonol yn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben ar y diwrnod y gwnaed y cais. Rhaid datgelu unrhyw fanylion am fforffedu yn ystod y pum mlynedd diwethaf ar y ffurflen hon.

5. Troseddau perthnasol neu dramor

Mae troseddau perthnasol yn cynnwys troseddau o dan atodlen 4 o Ddeddf Trwyddedu 2003, y mae rhestr ohonynt i'w gweld isod.

Troseddau o dan Ddeddf Dwyn 1968 (c.60) gan gynnwys:

1)   Dwyn

2)   Lladrad

3)   Bwrgleriaeth

4)   Bwrgleriaeth ddwys

5)   Dwysgipio moduron

6)   Tynnu trydan

7)   Cael trosglwyddiad arian trwy ddichell

8)   Cael eiddo trwy ddichell

9)   Cyfrifyddu anwir

10) Datganiad anwir gan gyfarwyddwyr cwmni

11) Troseddau eraill o dan Ddeddf Dwyn 1968

12) Troseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971

13) Adran (7)2 o Ddeddf Hapchwarae 1968

14) Deddf Drylliau (Diwygiad) 1988 (1997)

15) Trosedd rywiol o fewn ystyr adran 161(2) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (c.6)

16) Trosedd o dan ddarpariaethau Deddf Traffig Ffyrdd 1988

a) Adran 3A (achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad diod neu gyffuriau)

b) Adran 4 (gyrru etc. cerbyd dan ddylanwad diod neu gyffuriau)

17) Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Disgrifiadau Masnach 1968 (pennod 29) (disgrifiad masnach ffug o nwyddau) mewn amgylchiadau lle mae'r nwyddau dan sylw yn alcohol neu'n cynnwys alcohol.

18) Trosedd o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p.7)

19) Trosedd o dan Ddeddf Tollau ar Gynhyrchion Tybaco 1979 (p.7)

20) Trosedd o dan Ddeddf Ffugiadau a Drwgfathu 1981 (p.45)

21) Trosedd o dan ddarpariaethau Deddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 (p.48)

22) Trosedd o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16) mewn amgylchiadau lle mae'r bwyd dan sylw yn cynnwys alcohol.

23) Trosedd o dan adran 92(1) neu (2) o Ddeddf Nodau Masnach 1994 (p.26)

24) Trosedd dreisgar o fewn ystyr adran 161(3) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.

25) Trosedd o dan adran (3) o Ddeddf Diwydiant Diogelwch Preifat 2001 (p.12)

Mae trosedd dramor yn drosedd (ac eithrio trosedd berthnasol) o dan gyfraith unrhyw le y tu allan i Gymru a Lloegr, gan gynnwys rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig megis yr Alban. Nid oes angen i chi ddarparu manylion collfarnau am droseddau perthnasol neu droseddau tramor a dreuliwyd at ddibenion Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

Ar gyfer troseddau tramor rhaid i chi lenwi'r adran trosedd dramor ar y ffurflen. Rhaid cynnwys datgeliad CRB sylfaenol (cyfredol/presennol) gyda phob cais am roi trwydded bersonol. Gellir gwneud cais am y Datgeliad Sylfaenol ar y wefan CRB - www.disclosure.gov.uk.

Cofiwch gynnwys taflenni ar wahân gyda'r cais hwn os oes angen rhagor o le arnoch i ddarparu gwybodaeth ynghylch troseddau perthnasol neu dramor.

Os cewch eich collfarnu o unrhyw drosedd berthnasol neu dramor yn ystod y cyfnod rhwng pryd y gwneir eich cais a phan benderfynir ar eich cais neu pan gaiff ei dynnu'n ôl, rhaid i chi hysbysu'r awdurdod y gwnaed eich cais iddo. Gall peidio â gwneud hynny heb esgus rhesymol arwain at erlyniad a dirwy o hyd at £2,500.

6. Rhestr wirio

Rhaid i geisiadau am Drwydded Bersonol gynnwys:

1. ffurflen gais wedi'i llenwi, gan gynnwys datgeliad o gollfarnau a ffurflen datganiadau;

2. y ffi o £37.00 (sieciau  wedi'u gwneud yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe');

3. 2 ffotograff arddull 'pasbort' lliw - rhaid i un ohonynt gael ei gymeradwyo fel portread gwir ohonoch gan berson o ddisgrifiad penodedig - e.e. cyfreithiwr neu notari, athro neu ddarlithydd neu berson proffesiynol arall megis Meddyg;

4. Datgeliad Cofnod Troseddol 'lefel sylfaenol', NEU ganlyniadau chwiliad mynediad at ddata gan y testun o gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu

Gellir cael y rhain mewn un o ddwy ffordd:

Gellir cael y Datgeliad Cofnod Troseddol o wefan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd www.gov.uk/government/organisations/disclosure-and-barring-service (Yn agor ffenestr newydd) neu drwy e-bostio customerservices@dbs.gsi.gov.uk neu fel arall gallwch ffonio 0300 020 0190, neu

Y Chwiliad Mynediad at Ddata gan y Testun o'r National Identification Service, Room 350, New Scotland Yard, Broadway, Lond, rhif ffôn 020 7161 3500

SYLWER BOD YN RHAID I'CH CAIS AM DRWYDDED BERSONOL GAEIL EI WNEUD O FEWN UN MIS CALENDAR I'R DYDDIAD Y CYHOEDDWYD EICH DATGELIAD TROSEDDOL / CHWILIAD MYNEDIAD.

Darparwyr cymwysterau trwydded bersonol archrededig

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi achredu cymwysterau'r drwydded bersonol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, gan ddechrau ar 1 Ebrill 2011:

Am restr gyflawn o'r cyrsiau achrededig ewch i www.gov.uk/government/publications/accredited-personal-licence-qualification-providers (Yn agor ffenestr newydd)

Mae darparwyr achrededig blaenorol hefyd yn cael eu cynnwys fel rhan o'r rhestr hon.

Cysylltwch â'r cyrff hyn yn uniongyrchol i gael gwybodaeth am gyrsiau, costau ac argaeledd yn eich ardal chi.

 

Mae'r nodiadau hyn a'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ynddynt wedi'u llunio at ddibenion arweiniad yn unig a gallant newid. Diweddarwyd 21.05.2018

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mai 2023