Adfywio Tudno Place a Heol Emrys
Nod y prosiect hwn yw adfywio'r stad ym Mhen-lan drwy foderneiddio ac adnewyddu eiddo presennol y cyngor, ac adeiladu rhagor o dai rhentu cymdeithasol a chreu cymuned fwy diogel i bawb sy'n byw yno.
Diweddariad - Mehefin 2024
Rydym ar y safle ar hyn o bryd yn gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn eiddo presennol y Cyngor. Os oes gan denantiaid unrhyw ymholiadau, mae croeso iddynt ffonio'r Tîm Gwelliannau Tai ar 01792 635117 neu e-bostio TCGTai@abertawe.gov.uk
Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r ymgynghorwyr Powell Dobson Architects i greu'r uwchgynllun ar gyfer y safle. Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan ym mis Hydref 2022, a roddodd gyfle i breswylwyr roi sylwadau ar y cynlluniau arfaethedig. Mae'r dyluniad presennol wedi'i ddatblygu gan ystyried sylwadau a wnaed gan breswylwyr.
Bydd y cynllun yn cynnwys adnewyddu'r tu mewn a'r tu allan i holl eiddo'r cyngor, gan gynnwys gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a thirlunio'r ardal a chreu ardal chwarae newydd. Gall gwelliannau i eiddo hefyd gynnwys creu agoriadau newydd ar gyfer ffenestri neu ddrysau lle bo hynny'n ymarferol.
Mae'r cynigion adnewyddu ar gyfer y stad yn rhai sylweddol ac mae cwmpas y gwaith yn golygu y bydd y prosiect yn cael ei rannu fesul cam dros nifer o flynyddoedd.
Mae cynigion yn cynnwys ychwanegu rhagor o gartrefi i'r safle er mwyn cynyddu lefelau tai cyngor yn ardal Pen-lan. Bydd y gwaith i adeiladu adeiladau newydd yn cael ei gwblhau yng nghamau diweddarach y cynllun, gan y bydd gwaith i adnewyddu'r cartrefi presennol yn cael blaenoriaeth.
Fideo o'r awyr o Tudno Place a Heol Emrys gan Asbri Planning
Dyluniad arfaethedig Tudno Place a Heol Emrys
Cliciwch ar y lluniau i weld fersiynau mwy
Byddwn yn darparu cynllun manylach o sut y bydd yr holl waith yn cael ei gyflawni ac amserlenni bras ar gyfer gwneud y gwaith ar ôl i bob cynllun adnewyddu gael ei gwblhau.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr drwy gydol y broses.