Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad tŵr oeri

Mae tyrau oeri'n darparu dŵr wedi'i oeri ar gyfer aerdymheru, cynhyrchu, a generadu pŵer trydan.

Gallant gael gwared ar wres naill ai drwy ddull uniongyrchol (cylched agored) neu anuniongyrchol (cylched caeedig).

Mae tŵr oeri cylched agored yn adeiledd amgaeedig a chanddo system fewnol ar gyfer dosbarthu'r dŵr poeth sy'n dod i mewn iddo ar draws deunydd pecynnu megis labyrinth neu 'lenwad'. Gall y llenwad gynnwys nifer mawr o arwynebau wedi'u gwlychu (sy'n fertigol yn bennaf) y mae haenen tenau o ddŵr yn ymledu drostynt.

Gyda thŵr oeri anuniongyrchol neu gylched caeedig, nid oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng yr aer a'r hylif - dŵr neu gymysgedd glycol fel arfer -  sy'n cael ei oeri. Mewn tŵr oeri gwrthlif, mae aer yn codi i fyny drwy'r llenwad neu'r bwndeli o diwbiau yn y cyfeiriad croes i'r dŵr sy'n llifo i lawr. Mewn tŵr oeri trawslif, mae aer yn symud yn llorweddol drwy'r llenwad wrth i'r dŵr symud i lawr.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Hysbysu am dyrau oeri/cyddwysyddion anweddu ar-lein Hysbysu am dyrau oeri/cyddwysyddion anweddu ar-lein

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd rhaid i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.

Caniatâd dealledig

Mae gennym 2 ddiwrnod fel targed i gwblhau'r hysbysiad hwn. Rydym yn bwriadu cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu yn y cyfnod hwn. Os na fyddwch wedi clywed gennym erbyn diwedd y 2 ddiwrnod, gallwch weithredu fel bod y cais wedi'i gymeradwyo.

Sylwer na fydd y cyfnod targed hwn yn dechrau nes y derbynnir cais gorffenedig, gan gynnwys unrhyw ddogfennau cefnogi a thaliad.

 

Rydym yn cadw cofrestr gyhoeddus o'r holl dyrrau oeri sydd wedi'u cofrestru gyda ni.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.

Cofrestru Tyrau Oeri

Rydym yn trwyddedu tyrrau oeri a chyddwysyddion anweddol ar draws y sir. Mae ein cofrestr yn cynnwys lleoliad a manylion yr hyn sy'n cael ei drwyddedu.
Close Dewis iaith