1100 - 1200 - Tywysogion Cymru ac Arglwyddi'r Mers
Pan gipiodd Gwilym Goncwerwr goron Lloegr yn 1066, ni wnaeth gymryd rheolaeth dros Gymru.
Henry de Beaumont oedd y Norman cyntaf i ddod yn Arglwydd Gŵyr yn 1106, gan sefydlu troedle Normanaidd yn Ne-orllewin Cymru. Adeiladu castell oedd ffordd de Beaumont o ddangos ei reolaeth dros yr ardal. Gwyddom fod y castell pren yn ei le erbyn 1116 gan fod Brut y Tywysogion (llawysgrif Cymraeg ganoloesol sy'n croniclo hanes Tywysogion Cymru) yn cofnodi ymosodiad y Cymry ar y castell y flwyddyn honno, a lwyddodd i ddinistrio'r amddiffynfeydd allanol.
Bu farw Henry de Beaumont yn 1119 a throsglwyddodd Arglwyddiaeth Gŵyr i dri Arglwydd arall o deulu de Beaumont. Yn dilyn marwolaeth y Brenin Harri I, cafwyd gwrthryfel mawr y Cymry yn 1136: dywedwyd bod y Cymry wedi lladd mwy na 500 o'u gwrthwynebwr Eingl-Normanaidd mewn brwydr rhwng Casllwchwr ac Abertawe. Does dim tystiolaeth o unrhyw ymosodiadau ar Gastell Abertawe yn y cyfnod hwnnw ac o 1140 ymlaen roedd rhai o ddarnau arian y Brenin Steffan yn cael eu bathu yma, sy'n awgrymu bod y dref dan reolaeth y Normaniaid. Parhaodd Abertawe i ddatblygu fel canolfan masnachol llewyrchus - a gyflëwyd gan William de Newburgh, Iarll Warwick, yn cyflwyno'r Siarter Freintiau gyntaf rhwng 1158 a'i farw yn 1184.
Abertawe - Tref mewn Rhyfel
Wnaeth y castell gwreiddiol o bren ddim goroesi'n hir. Yn 1189, daeth y Brenin Rhisiart i rym. Nid oedd ganddo sgiliau diplomyddol ei dad Harri II (yr oedd ganddo 'ddealltwriaeth' gyda'r Arglwydd Rhys, Tywysog Deheubarth). Yn 1192, rhoddodd yr Arglwydd Rhys, Tywysog Deheubarth, warchae ar y castell am 10 wythnos gan lwgu pobl yn y castell i farwolaeth. Achubwyd y castell yn y diwedd.
Dilynwch hanes Tywysogion Deheubarth drwy ymweld â Chastell Talacharn - y fan lle llofnododd yr Arglwydd Rhys gytundeb heddwch gyda'r Brenin Harri II, medden nhw.
Dilynwch hanes arglwyddi'r mers drwy ymweld â Chastell Oxwich, a ddaliwyd gan Robert de Penres, marchog i Arglwyddiaeth Gŵyr, oedd yn amau pwerau tad William, a Castell Weble, a adeiladwyd gan stiward i deulu de Breos, ond a gollwyd i Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel y Cymry yn 1403-5.