Toglo gwelededd dewislen symudol

Uned Cefnogi Cymdogaethau

Mae'r Uned Cefnogi Cymdogaethau yn darparu gwasanaeth landlordiaid 24 awr ar ein stadau.

Maent yn:

  • cefnogi'r swyddfeydd tai ardal wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • darparu diogelwch i eiddo gwag y cyngor drwy osod, monitro ac ymateb i larymau sy'n cael eu hactifadu
  • monitro CCTV ar nifer o stadau tai'r cyngor
  • ymateb i ddigwyddiadau ac yn cynnal patrolau ar droed a theithiol o ddigwyddiadau newydd
  • cyflenwi, cynnal ac ymateb i larymau byrgleriaeth sy'n cael eu hactifadu - mae'r rhain ar gael i denantiaid os ydynt wedi dioddef byrgleriaeth, trais domestig, aflonyddwch neu os ydynt yn rhan o'r cynllun cefnogaeth i dystion. Nifer cyfyngedig o larymau sydd ar gael, ond asesir pob cais.
  • cael gwared ar graffiti sarhaus 

Cysylltwch â'r Uned Cymorth Cymdogaeth ar 01792 648507 os oes angen ymateb ar frys (24 awr). Am gyngor anffurfiol, ffoniwch y swyddfa ar 01792 513940 yn ystod oriau swyddfa.

Nid yw'r Uned Cefnogi Cymdogaethau yno i ddisodli'r heddlu - os ydych chi'n gweld rhywun yn cyflawni trosedd, dylech gysylltu â'ch heddlu lleol neu ffonio 999 os yw'n argyfwng.

Mae gan Crimestoppers rif ffon am ddim hefyd, sef 0800 555 111 os oes gennych unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â throsedd.

Enw
Uned Cefnogi Cymdogaethau
Rhif ffôn
01792 648507
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mai 2024