Dewiswch enwau ungyrn newydd Abertawe!
Bydd unrhyw un sy'n ymweld â Llyn Cychod Singleton yn gallu gweld dau bedalo hudol ychwanegol y penwythnos hwn.
Ychwanegwyd dau bedalo ungorn newydd at yr elyrch sydd eisoes ar y llyn, a nawr mae gan bobl ifanc a'u rhieni y cyfle i enwi'r aelodau newydd dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Prynwyd yr ungyrn gan ddefnyddio cymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cynhelir y gystadleuaeth dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Mai, rhwng dydd Sadwrn 4 Mai a dydd Llun 6 Mai. Bydd yr enillwyr yn gallu gweld yr enwau a ddewiswyd ganddynt ar y pedalos, a gallant hefyd deithio arnynt am 30 munud am ddim.
I gofrestru, ewch i lyn cychod Parc Singleton a llenwch ffurflen tra bo chi yno. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yng nghanol mis Mai.