Toglo gwelededd dewislen symudol

'Unig breswylfa' neu 'prif breswylfa' ar gyfer Treth y Cyngor

At ddibenion Treth y Cyngor, ystyrir eich bod yn byw yn eich 'unig neu brif breswylfa'.

Gan mai dim ond un breswylfa sydd gan y rhan fwyaf o bobl, nid oes problem yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, gall cwestiynau godi pan fo pobl yn defnyddio mwy nag un breswylfa neu pan fo pobl yn treulio cyfnodau hir oddi cartref oherwydd gwaith neu wyliau estynedig. Hyd yn oed os ydych yn treulio amser hir i ffwrdd o'ch cartref arferol oherwydd gwaith neu wyliau, byddwn fel arfer yn ei drin fel eich prif breswylfa ar gyfer Treth y Cyngor. Byddwn fel arfer yn ystyried bod gan barau un brif breswylfa hyd yn oed os yw'r ddau'n meddu neu'n rhentu eiddo gwahanol. Nid oes diffiniad o 'unig neu brif breswylfa' mewn cyfraith statud.

Er mwyn penderfynu ar achosion mewn perthynas â phreswylfa unigol neu brif breswylfa, mae'n rhaid i ni ganfod y ffeithiau cyn belled ag y bo modd a gwneud penderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir a chyfeirio at y gyfraith achos. Gallai hyn gynnwys gofyn cwestiynau personol am eich perthnasoedd a'ch ffordd o fyw ac mae'n ddrwg gennym os yw hyn yn eich digio. Gellir gofyn am dystiolaeth ddogfennol hefyd.

Parau

Yn achos parau priod a di-briod, hyd yn oed os yw'r ddau ohonoch yn berchen ar eiddo neu'n ei rentu, cewch eich trin fel bod gennych un 'brif' breswylfa y byddwch yn talu pris safonol Treth y Cyngor ar ei chyfer. Mae'r rhan fwyaf o achosion yn weddol syml ac rydym yn fodlon i chi benderfynu beth yw'ch 'prif breswylfa'.   

Fodd bynnag, ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu ar y fath gwestiynau a gall anawsterau godi, yn enwedig o ran gostyngiadau/eithriadau. Mae gan yr awdurdod gyfrifoldeb i wneud penderfyniad mewn achosion o'r fath, a gofynnwn i chi gysylltu ag Adran Treth y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Absenoldebau hir oherwydd gwaith

Efallai y bydd gennych brif breswylfa ac rydych yn meddu neu'n rhentu eiddo arall agosach at eich gwaith yr ydych yn ei ddefnyddio yn ystod yr wythnos, gan ddychwelyd at eich prif breswylfa ar y penwythnos. Os ydych yn werthwr, yn aelod o'r lluoedd arfog neu'n fasnachlongwr etc. efallai y treuliwch lawer o'r flwyddyn i ffwrdd o'ch 'prif breswylfa'.

Yn y fath sefyllfaoedd, mae'r llysoedd wedi penderfynu bod yr amser a dreulir i ffwrdd o'ch prif breswylfa'n amherthnasol i raddau helaeth ac mai'ch prif breswylfa yw lle rydych yn 'bwriadu dychwelyd' a 'lle byddech yn byw heblaw am ofynion eich gwaith'. Yn gyffredinol, dyma lle mae'ch partner a'ch plant (os oes rhai) yn byw.

Gwyliau Estynedig

Os oes gennych brif breswylfa ac yn mynd ar wyliau estynedig, ac yn bwriadu dychwelyd, byddwn yn cymryd eich prif breswylfa fel yr eiddo rydych yn ei adael.

Sefyllfa gyffredin yw pan fo mab neu ferch sy'n oedolyn yn gadael cyfeiriad ei rieni i deithio am tua blwyddyn cyn mynd ymlaen i'r brifysgol. Yn y fath achosion, oni bai bod tystiolaeth o'i fwriad i beidio â dychwelyd ar ddiwedd ei wyliau, ystyrir mai ei brif breswylfa yw gyda'i rieni.

Ambell waith mae teuluoedd cyfan yn mynd ar wyliau estynedig ond, os ydynt yn cadw eiddo er mwyn dychwelyd ato, mae'n parhau i fod eu prif breswylfa.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Medi 2021