Apelio yn erbyn eich Treth y Cyngor
Os nad ydych yn hapus gyda'r swm a godwyd ar gyfer eich Treth y Cyngor, gallwch apelio.
Mae'n rhaid i apeliadau yn erbyn y band mae'ch eiddo wedi'i roi ynddo gael eu hanfon at Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Yn agor ffenestr newydd) gan mai dyna pwy wnaeth y penderfyniad hwnnw.
Mae'n rhaid i apeliadau am pwy sy'n atebol am Dreth y Cyngor, gostyngiadau, eithriadau neu ostyngiadau i'r anabl gael eu hanfon at y cyngor gan ein bod ni'n gwneud y penderfyniadau hynny.
Pwy gaiff apelio?
Fel arfer, cewch apelio os mai chi yw'r:
- sawl sy'n atebol am dalu Treth y Cyngor ar gyfer yr annedd
- sawl a fyddai'n atebol am Dreth y Cyngor pe na bai'r eiddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor
- sawl sy'n berchen ar yr adeilad
Yn erbyn beth caf apelio?
Cewch apelio os ydych yn anghytuno ag unrhyw benderfyniad ynglŷn ag atebolrwydd, gostyngiadau, gostyngiadau i'r anabl, neu eithriadau.
Ble ddylwn i anfon f'apêl?
Anfonwch eich apêl ysgrifenedig at: Treth y Cyngor, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN os ydych yn credu:
- bod bil Treth y Cyngor wedi'i anfon atoch ond nid chi sy'n atebol
- y dylai'ch cartref fod yn annedd wedi'i heithrio
- bod swm y bil yn anghywir, er enghraifft os ydych yn credu y dylai gostyngiad, eithriad neu ostyngiad i'r anabl fod yn berthnasol.
NEU
Anfonwch eich apêl at Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Yn agor ffenestr newydd) os ydych yn credu:
- bod eich eiddo wedi'i roi yn y band anghywir.
- na ddylai'ch eiddo fod ar y rhestr brisio o gwbl.
- nad yw'r cofnod yn y rhestr brisio'n adlewyrchu natur eich eiddo.
Ni ellir gwneud apeliadau ar y swm a osodwyd ar gyfer Treth y Cyngor nac oherwydd na allwch dalu'r dreth.
Mae'n rhaid talu Treth y Cyngor cyn cael canlyniad unrhyw apêl.
Ar ôl i chi anfon apêl at y cyngor
Mae gennym ddau fis i ystyried eich apêl.
Os nad ymatebwn i'ch apêl o fewn dau fis, cewch apelio'n uniongyrchol i'r Tribiwnlys Prisio. (Mae hwn yn gorff gwahanol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.) Dylech wneud cais i'r tribiwnlys o fewn pedwar mis i'ch apêl gwreiddiol aton ni.
Os anghytunwch â'n hymateb i'ch apêl, cewch apelio i'r Tribiwnlys Prisio o fewn dau fis i gael gwybod am ein penderfyniad.
Tribiwnlysoedd prisio
Mae tribiwnlysoedd prisio'n gyrff annibynnol a sefydlir i wrando apeliadau Treth y Cyngor, Gostyngiad Treth y Cyngor a Sgorio. Fel arfer, ymdrinnir â'r apeliadau mewn gwrandawiad anffurfiol ym mhresenoldeb y sawl sy'n gwneud yr apêl a swyddog Dinas a Sir Abertawe neu swyddog rhestru'r Swyddfa Brisio.
Cyfeiriad y Tribiwnlys Prisio yw: Tribiwnlys Prisio Cymru, 22 Gold Tops, Casnewydd NP20 4PG
Rhif ffôn: 01633 255 003
Ewch i Tribiwnlys Prisio Cymru (Yn agor ffenestr newydd) am ragor o wybodaeth.