Gofalwyr di-dâl yn cael eu hannog i beidio â cholli cyfle am grant gwerth £500
Mae gofalwyr di-dâl a allai fod yn gymwys am grant untro o £500 ond sydd wedi colli dyddiad cau'r mis diwethaf ar gyfer cofrestru wedi derbyn ail gyfle.
Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi talu £1,676,000 i dros 3,300 o ofalwyr di-dâl.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ailagor cofrestriadau ar gyfer y grant ac mae hynny'n golygu y gall unrhyw un nad ydyw wedi gwneud cais eto wneud hynny erbyn 2 Medi.
Nid yw'n grant newydd ac nid oes angen i unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais wneud hynny eto. Yn Abertawe amcangyfrifir bod tua 950 o ofalwyr di-dâl pellach nad ydynt wedi achub ar y cyfle eto i wneud cais am grant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei weinyddu gan y cyngor.
Rhaid i unrhyw un sy'n meddwl ei fod efallai'n gymwys ar gyfer y taliad gyflwyno cais am y grant ar-lein ar wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk/grantiofalwyrdidal
Ailagorodd y dudalen cyflwyno ceisiadau, sy'n cynnwys gwybodaeth am y sawl sy'n gymwys ai peidio, ar 15 Awst. Rhaid cwblhau cofrestriadau ar gyfer y grant erbyn 5pm ar 2 Medi.
Meddai Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, ei fod yn newyddion da bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ailagor y cynnig grant i geisio sicrhau nad oes unrhyw un sy'n gymwys yn colli'i gyfle.
Meddai, "Mewn cyfnod lle'r ydym yn wynebu argyfwng costau byw, rwyf am ddiolch i ofalwyr di-dâl am eu rôl werthfawr nad yw'n cael ei chydnabod yn aml. Mae eu gwaith yn awr ac yn ystod y pandemig yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rheini maen nhw'n eu cefnogi ac i'r gwasanaethau iechyd a gofal hefyd.
"Rydym yn ei wneud mor syml â phosib i bobl gofrestru a gallwn ddarparu cymorth i unrhyw un na all lenwi'r ffurflen ei hun ac nad oes neb ganddo i'w helpu i wneud hynny. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau a sefydliadau cymorth lleol yn ymwybodol y gallant lenwi'r ffurflen ar ran y bobl maent yn eu cefnogi."
Rhaid i unrhyw un sy'n meddwl ei fod efallai'n gymwys ar gyfer grant gofrestru amdano. Yna caiff ei asesu a gwneir taliad os yw'n gymwys ar ei gyfer.
Ni ddylai unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais ar gyfer taliad gofalwyr di-dâl neu unrhyw un sydd eisoes wedi derbyn y taliad wneud cais eto.
Nid cynllun newydd yw hwn, mae'n ail gyfle i unrhyw un na chyflwynodd gais mewn pryd cyn i'r cynllun gau am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.