Toglo gwelededd dewislen symudol

Pentref Cyn-filwyr yn barod ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Bydd rhai o arddangosiadau awyr gorau Prydain yn diddanu'r torfeydd yn Sioe Awyr Cymru ar 6 a 7 Gorffennaf.

Wales Airshow

Gall ymwelwyr eu gwylio o draethlin Abertawe a bydd hefyd ychwanegiad newydd i'r sioe awyr - Pentref Cyn-filwyr - i anrhydeddu'r holl gyn-filwyr.

Bydd diwrnod cyntaf y sioe ar 6 Gorffennaf hefyd yn cynnwys dathliadau ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog. Bydd y Pentref Cyn-filwyr, a gefnogir gan Y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cynnwys amrywiaeth o elusennau sy'n ymwneud â gwasanaethu sy'n helpu'n cymuned y lluoedd arfog, ac anogir y cyhoedd i ymweld â nhw a'u cefnogi.

Bydd pabell fawr lle gall milwyr sgwrsio, ymlacio a cheisio cyngor arbenigol yn breifat dros baned o de neu goffi.

Yn yr wythnosau diwethaf cyhoeddwyd y bydd y Red Arrows a Thîm Arddangos Typhoon yr RAF yn ymddangos yn y sioe awyr flynyddol enwog a drefnir gan Gyngor Abertawe.

Bydd hefyd nifer o awyrennau poblogaidd eraill ac amrywiaeth eang o hwyl i'r teulu ar y ddaear, gan gynnwys arddangosiadau, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw, gyda rhagor o wybodaeth i ddod yn fuan. Meddai Tracey McNulty, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, "Mae'n anrhydedd i ni groesawu Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru fel rhan o Sioe Awyr Cymru eleni, mae'n gyfle gwych i anrhydeddu'r rheini sydd wedi gwasanaethu'n cenedl yn anhunanol. Rydym yn diolch i'r holl fasnachwyr a'n noddwyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe awyr. Ymhlith sêr y sioe mae'r degau ar filoedd o bobl sy'n mwynhau diwrnod mas neu benwythnos yn Abertawe. Mae'r sioe bob amser yn creu awyrgylch teuluol go iawn sy'n arwain at benwythnos gwych i bawb sy'n rhan ohoni."

Meddai Lance Higgon-Young, Swyddog Ymgysylltu'r Lluoedd Arfog yn Y Lleng Brydeinig Frenhinol, "Rydym yn falch iawn o gefnogi'r Pentref Cyn-filwyr yn Sioe Awyr Cymru. Mae'r LlBF yn gweithio gyda phobl ar draws cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru - y rheini sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, yn rheolaidd neu fel milwyr wrth gefn, eu teuluoedd, a chyn-filwyr sy'n parhau i gyfrannu at gymdeithas ymhell ar ôl iddynt wasanaethu.

"Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru'n gyfle i ni ddathlu a diolch i'n cymuned y Lluoedd Arfog am bopeth maent yn ei wneud i ni. Mae'r LlBF wedi bod yn eu cefnogi ers 1921 a byddwn yn parhau i'w cefnogi am gyhyd ag y mae angen i ni wneud."

 

Meddai Tracey McNulty, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, "Mae'n anrhydedd i ni groesawu Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru fel rhan o Sioe Awyr Cymru eleni - mae'n gyfle gwych i anrhydeddu'r rheini sydd wedi gwasanaethu'n cenedl yn anhunanol. Rydym yn diolch i'r holl fasnachwyr a'n noddwyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe. Ymhlith sêr y sioe mae'r degau ar filoedd o bobl sy'n mwynhau diwrnod mas neu benwythnos yn Abertawe. Mae'r sioe bob amser yn creu awyrgylch teuluol go iawn sy'n arwain at benwythnos gwych i bawb sy'n rhan ohoni."

Mae Lleng Brydeinig Frenhinol Cyngor Abertawe'n trefnu digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog arall. Cynhelir digwyddiad blynyddol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn rotwnda Neuadd y Ddinas ddydd Sadwrn 29 Mehefin o 10.30am i 12.30pm. Mae croeso i bawb.

Mwy: