Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd angen ID ar bleidleiswyr i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fis nesaf.

Atgoffir preswylwyr Abertawe y bydd angen iddynt ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar 2 Mai.

ballot box

Mae'r Comisiwn Etholiadol, sy'n goruchwylio sut y caiff etholiadau yn y DU eu rheoli, yn annog pleidleiswyr i sicrhau eu bod yn barod i bleidleisio drwy wirio bod ganddynt ID a dderbynnir, y gallant fynd ag ef gyda nhw i'r orsaf bleidleisio ar 2 Mai.

Dyma'r tro cyntaf y bydd rheolau newydd y Comisiwn Etholiadol o ran dangos ID pleidleisiwr mewn gorsaf bleidleisio yn cael eu rhoi ar waith yn Abertawe, ac atgoffir preswylwyr na fyddant yn gallu pleidleisio hebddo.

Meddai Martin Nicholls, swyddog canlyniadau gweithredol Abertawe, "Gydag etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu'n cael eu cynnal yng Nghymru fis nesaf, mae'n bwysig bod y rheini sydd eisiau pleidleisio yn gwneud yn siŵr bod ganddynt fath o ID a dderbynnir. Gall ymddangos yn gynnar ond mae gwirio nawr yn golygu y byddwch yn barod i bleidleisio ym mis Mai.  

"Gall preswylwyr nad oes ganddynt fath o ID a dderbynnir wneud cais am ID am ddim naill ai ar-lein neu drwy lenwi ffurflen gais bapur a'i hanfon at dîm gwasanaethau etholiadol Cyngor Abertawe. 

Mae mathau o ID a dderbynnir yn cynnwys pasbort neu drwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Gymanwlad; a rhai pasys teithio rhatach megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID nad yw'n gyfredol os oes modd eu hadnabod o'u ffotograff o hyd.

Bydd unrhyw un nad oes ganddo un o'r mathau o ID a dderbynnir yn gallu gwneud cais am ID am ddim ar-lein yn https://www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyrcymraeg.voter-authority-certificate.service.gov.uk neu drwy lenwi ffurflen bapur.

Mae'r rhestr lawn o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd a manylion am sut i wneud cais am yr ID am ddim, yn https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau/id-pleidleisiwr/mathau-o-id-ffotograffig-a-dderbynnirelectoralcommission.org.uk/id-pleidleisiwr.

Meddai Jackie Killeen, Cyfarwyddwr y Weinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau,  "Bydd angen i unrhyw un sy'n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID ffotograffig cyn y gellir rhoi ei bapur pleidleisio iddo.

"Mae'n bwysig bod pawb yn deall pa fathau o ID y gallant eu defnyddio, a sut i wneud cais am ID am ddim os oes ei angen arnynt. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gofyniad newydd a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol."

Rhaid i unrhyw un sydd eisiau dweud ei ddweud yn etholiadau fis Mai eleni hefyd gofrestru i bleidleisio.   Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dylai pleidleiswyr sy'n dymuno gwneud cais i'w cyngor am ID am ddim sicrhau yn gyntaf eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Cyflwynwyd y gofyniad i ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU a ddaeth i rym am y tro cyntaf ym mis Mai 2023.