Toglo gwelededd dewislen symudol

Amser yn dod i ben ar gyfer defnyddio'r talebau costau byw

Mae preswylwyr Abertawe nad ydynt wedi defnyddio'u talebau costau byw gwerth £200 eto yn cael eu hannog i wneud hynny cyn gynted â phosib

Cost Of Living

Anfonwyd y talebau at oddeutu 1,400 o aelwydydd cymwys yn Abertawe nad oeddent wedi gwneud cais am daliad cymorth tanwydd pan roedd y cynllun yn rhedeg rhwng Medi 2022 a diwedd Chwefror 2023.

Mae'r talebau, sy'n cael eu hanfon gan y Post Brenhinol, yn dod i ben ddydd Sul 16 Ebrill a rhaid eu newid am arian parod mewn Swyddfa Bost. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am newid taleb fynd â dull adnabod gydag ef fel trwydded yrru, pasbort, bil Treth y Cyngor/cyfleustod sy'n dangos ei enw a'i gyfeiriad.

Mae tua 500 o aelwydydd yr anfonwyd y talebau iddynt heb eu newid eto, felly mae Cyngor Abertawe hefyd yn anfon llythyrau atgoffa at y preswylwyr hyn.

Mae'r talebau hyn yn dilyn ymlaen o'r taliadau cymorth tanwydd a wnaed gan y cyngor a oedd yn werth £555,000 ar y cyd i bron 29,000 o breswylwyr fel rhan o gynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru dros y gaeaf.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae ein staff wedi bod yn rhoi pob gewyn ar waith ers i'r cynllun cymorth tanwydd fynd yn fyw i nodi'r holl aelwydydd cymwys, prosesu ceisiadau a chael arian i gyfrifon banc pobl mor gyflym â phosib.

"Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r miloedd lawer o breswylwyr a theuluoedd lleol yn ystod yr argyfwng costau byw.

"Mae ein gwaith hefyd yn golygu y gallwn nodi llawer o bobl gymwys na wnaeth gais am daliad cymorth tanwydd pan oedd y cynllun ar agor, a dyna pam y mae talebau gwerth £200 wedi cael eu hanfon at y preswylwyr hyn yn awr.

"Mae tua 900 o'r 1,400 o dalebau bellach wedi cael eu newid, ond rydym yn annog yr holl breswylwyr nad ydynt wedi newid eu talebau eto i wneud hynny cyn gynted â phosib.

"Mae'r talebau'n dod i ben ddydd Sul 16 Ebrill ac nid ydym am i neb golli'r cyfle i gael arian y mae ganddynt hawl iddo, felly dyna pam rydym yn anfon y llythyrau atgoffa hyn."

Gall unrhyw un ag ymholiad naill ai e-bostio'r cyngor yn tanwyddgaeaf@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 636311, gyda llinellau ffôn ar agor o 10am i 3pm ar ddiwrnodau'r wythnos.

 

 

Close Dewis iaith