Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth gwastraff cartrefi newydd yn anelu at gyflawni targedau'r llywodraeth ar gyfer y dyfodol

Mae Cyngor Abertawe yn gwneud cynlluniau i gynyddu cyfraddau ailgylchu'r ddinas a helpu dinasyddion i ailgylchu hyd yn oed mwy o'u gwastraff cartrefi.

recycling door knocking

Mae'r Cyngor wedi datblygu strategaeth gwastraff ddrafft y bwriedir ei mabwysiadu yn ddiweddarach yn 2024 a bydd yn nodi cynlluniau'r Cyngor i gynyddu cyfraddau ailgylchu rhwng 2025 a 2030.

Er mwyn helpu'r Cyngor i gytuno ar y strategaeth gwastraff newydd a'i mabwysiadu, mae ymgynghoriad cyhoeddus ar fin cael ei gynnal er mwyn ceisio barn preswylwyr am y cynlluniau newydd.

Bydd rhan o'r strategaeth yn edrych ar gynigion i gyflwyno rhagor o opsiynau ailgylchu ar gyfer deunyddiau y gall preswylwyr eu hailgylchu a'u cadw mas o sachau du - gan gynnwys tecstilau, ffilmiau plastig ac eitemau trydanol.

Mae opsiynau hefyd wedi'u hystyried fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer casglu gwastraff sachau du yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor wedi dweud nad yw'n bwriadu gwneud newidiadau i'w gasgliadau gwastraff sachau du drwy eu casglu bob tair wythnos, sef rhywbeth y mae nifer o gynghorau yng Nghymru eisoes wedi'i wneud.

Yr opsiwn a ffefrir gan y Cyngor yw parhau i gasglu gwastraff sachau du bob pythefnos, gan leihau nifer y sachau du o dair i ddwy.

Mae arolygon a gynhaliwyd yn dangos bod mwyafrif yr aelwydydd yn Abertawe eisoes yn rhoi dwy sach neu lai allan i'w casglu bob pythefnos.

Cyflwynwyd cyfyngiadau ar sachau gwastraff du am y tro cyntaf yn y ddinas yn 2014, a oedd yn caniatáu i aelwydydd roi 3 sach ddu allan bob pythefnos yn unig. Cyflwynwyd eithriadau i'r cyfyngiad hwn i gynorthwyo teuluoedd sy'n cael gwared ar wastraff na ellir ei ailgylchu fel cewynnau a gwastraff anifeiliaid (gwasarn cathod).

 Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae Abertawe eisoes yn gwneud gwaith da iawn o ran ailgylchu ond fel pob ardal rydym yn wynebu targedu ailgylchu uwch felly mae angen i ni helpu aelwydydd i ailgylchu mwy o'u gwastraff.

"Rydym wedi edrych ar yr hyn y mae Cynghorau eraill yn ei wneud ac mae rhai yn casglu sachau du bob tair wythnos ac eraill yn casglu dwy sach ddu yn unig.

"Nid yw mwyafrif yr aelwydydd yn Abertawe'n rhoi mwy na dwy sach ddu allan i'w casglu felly rydym yn meddwl mai dyma'r opsiwn gorau gan fod y rhan fwyaf ohonom yn gwneud hyn beth bynnag.

"Drwy gynyddu'r amrywiaeth o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu bydd hyn yn helpu i leihau faint o wastraff sy'n mynd yn y sachau du, a fydd yn helpu aelwydydd i leihau swm y gwastraff yn eu sachau du.

"Rydym hefyd o'r farn y byddai'r rhan fwyaf o breswylwyr yn dal i fod eisiau casgliadau sachau du bob pythefnos, felly dyma'r opsiwn a ffefrir gennym."

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2024