Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth ynni annisgwyl i 3,000 o aelwydydd yn Abertawe

Gallai tua 3,000 o aelwydydd yn Abertawe gael arian grant annisgwyl gwerth £400 dan gynllun grantiau newydd Llywodraeth y DU.

warm energy swansea space generic

Mae'r grant untro'n cael ei dargedu i'r rheini nad ydynt eisoes wedi derbyn help drwy'r cynllun a sefydlwyd y llynedd lle talwyd gostyngiadau gan Lywodraeth y DU yn syth i gyflenwyr ynni deiliaid tai.

Mae'r rhaid i'r bobl sy'n gymwys i gael y grantiau wneud cais yn uniongyrchol i wefan Llywodraeth y DU a weinyddir yn lleol gan Gyngor Abertawe.

Ers dechrau 2022, mae 145,500 o grantiau gwerth £21m wedi'u talu drwy'r cyngor i aelwydydd sy'n wynebu'r argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol. Mae'r grant diweddaraf yn werth £1.2m posib.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Bydd y grant diweddaraf hwn yn darparu rhywfaint o gymorth i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd nad ydynt eto wedi elwa o gynlluniau gostyngiadau costau ynni Llywodraeth y DU.

"Daw hyn ar ben camau a gymerodd y cyngor fis diwethaf i neilltuo bron £720,000 yn rhagor i ddeiliaid tai nad oeddent efallai wedi manteisio ar gyfleoedd blaenorol i gael help gyda biliau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw."

Ychwanegodd, "Yr unig ffordd i elwa o'r cynnig grant diweddaraf gan Lywodraeth y DU yw gwneud cais drwy'r wefan. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n credu y gallant elwa i gael cip arni.

Gelwir y grant diweddaraf gan Lywodraeth y DU yn Gynllun Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (Cyllid Amgen EBSS) ac mae dim ond ar gael i'r rheini nad oeddent wedi derbyn cymorth drwy'r cynllun gostyngiadau a dalwyd i gyflenwyr ynni a adwaenid fel y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS).

Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais drwy wefan GOV.UK yn unig ac unwaith bydd tîm y llywodraeth ganolog wedi gwneud gwiriadau cychwynnol, caiff y cais ei drosglwyddo i'r cyngor am wiriadau pellach a bydd yn gyfrifol am roi taliadau i'r rheini sy'n gymwys.

Ewch i'n gwedudalen newydd i gael gwybodaeth lawn, gan gynnwys y ddolen i dudalen GOV.UK ar gyfer ceisiadau i'w gwneud, ynghyd â manylion cymhwyster.

Gellir dod o hyd iddi ar dudalen Costau Byw y cyngor yma: Cynlluniau Cymorth Ynni Amgen - Abertawe

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mai 2023