Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n dathlu cyflawniadau'r Genhedlaeth 'Windrush@75'

Bydd cymunedau ar draws Abertawe a De Cymru'n dod ynghyd yr wythnos nesaf i ddathlu cyflawniadau'r Genhedlaeth Windrush.

guildhall lit in rainbow colours

Mae Neuadd Brangwyn yn cynnal darllediad arbennig o 'Windrush Cymru@75' ar 20 Tachwedd am 4pm o flaen cynulleidfa wadd mewn digwyddiad a fydd yn cynnwys dathliadau o gerddoriaeth, dawns a bwyd Caribïaidd a'r Gymanwlad, a lansiad Hanes Pobl Dduon Abertawe 365.

Ymhlith y rheini sy'n siarad fydd Sylfaenydd Hynafiaid Windrush Cymru, Mrs Roma Taylor, Dr Mahaboob Basha o Brifysgol Abertawe, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru, Y Barnwr Ray Singh CBE, a Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe.

Bydd y goleuadau allanol yn Neuadd Brangwyn a Neuadd y Ddinas hefyd yn cael eu goleuo'n goch, yn wyrdd, yn las ac yn felyn sef y lliwiau Windrush.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae gan Abertawe draddodiad o groesawu cymunedau o bob rhan o'r byd i'n dinas. Mae cyfraniad y genhedlaeth Windrush i fywyd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ein dinas a'n gwlad wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd.

"Dyna pam mae'r cyngor mor falch o gynnal darllediad arbennig o 'Windrush Cymru@75' sy'n dogfennu ac yn dathlu straeon a chyfraniadau'r genhedlaeth Windrush, eu plant a'u hwyrion.

"Mae'r digwyddiad yn Neuadd y Ddinas yn gyfle i adrodd straeon, dysgu gwersi a rhannu uchelgeisiau ar gyfer cymunedau amrywiol ein dinas yn y blynyddoedd i ddod."

 

Close Dewis iaith