Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl ifanc yn gwneud yn fawr o hwyl y gaeaf

Bydd ugeiniau o grwpiau a phrosiectau cymunedol ar draws Abertawe yn elwa o gronfa £500,000 i'w helpu i gadw'n brysur ac yn heini drwy fisoedd y gaeaf.

winter of wellbeing

Roedd tua 100 o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wedi gwneud ceisiadau am grantiau o hyd at £10,000 yr un i wireddu breuddwydion a syniadau da i helpu pobl ifanc wneud yn fawr o gyfnod y gaeaf.

Roedd prosiectau sy'n trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer eu clwb neu grŵp cymunedol lleol yn gallu gwneud cais am yr arian a oedd yn cael ei gynnig gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun hwn yn dilyn y fenter grantiau Haf o Hwyl hynod lwyddiannus. Mae'r gweithgareddau y bydd pobl ar draws y ddinas yn gallu elwa ohonynt yn cynnwys crefftau fel crochenwaith a phaentio, cefnogaeth gydag iechyd meddwl neu anghenion dysgu ychwanegol, brwydrau nerf, dringo a syrffio ar fwrdd syrffio.

Dywedodd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, fod y cynnig grantiau'n gyfle gwych i gymunedau sicrhau bod plant ifanc yn cael gaeaf cynnes a phrysur.

Meddai, "Mae hi wedi bod yn wych gweld yr amrywiaeth o syniadau a chyfleoedd llawn dychymyg sy'n cael eu cynnig fel y gall pobl ifanc fod yn greadigol a mwynhau eu hunain drwy fisoedd y gaeaf.

"Roedd ein cynllun Gaeaf Llawn Lles ar gyfer Abertawe wedi cysylltu â grwpiau cymunedol, prosiectau chwarae, clybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, grwpiau mewn lifrai, grwpiau cyfeillion ac unrhyw un a allai gynnig gweithgareddau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed.

"Unwaith maent yn weithredol, byddwn yn rhestru'r holl gyfleoedd ar ein gwefan i roi manylion popeth sydd ar gynnig i deuluoedd, a hynny mewn un lle."

Meddai'r Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan "Rydym am adeiladu ar lwyddiant yr Haf o Hwyl a pharhau i ddarparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc yn Abertawe. Mae chwarae'n ffordd bwysig y gallwn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau i gryfhau eu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol."

 "Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe'n cydnabod yr effaith enfawr y mae'r 20 mis diwethaf wedi'i chael ar blant a phobl ifanc, y maent wedi colli'r cyfle i wneud cynifer o bethau yn ystod y cyfnod pwysicaf yn eu bywydau.

"Felly y bydd hi, yn arbennig i blant iau, y rheini sydd wedi bod yn gwarchod, y rheini y mae ganddynt anghenion ychwanegol a'r rheini nad ydynt wedi gallu mwynhau mynd allan i gael hwyl a datblygu oherwydd nifer o resymau, ond yn y pen draw rydym am i holl blant a phobl ifanc Abertawe fwynhau Gaeaf Llawn Lles a gwneud yn iawn am hyn."

Meddai Benedict Room, Cyfarwyddwr Cwmni Board Riding Development Ltd a Surfability Uk, "Mae cymorth ariannol Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ni fel busnes a sefydliad cymunedol. Mae'r cymorth wedi golygu y gallwn ddarparu gweithgareddau cynhwysol fforddiadwy i'r gymuned leol wrth dreialu a phrofi gwell dulliau a thechnegau cyflwyno er mwyn cael llwyddiant. Ni fyddai'r math hwn o arloesedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn bosib heb y lefel hon o gymorth.

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter Gaeaf Llawn Lles, ewch i:

https://www.abertawe.gov.uk/hwylhannertymor

 

Close Dewis iaith