Manteisiwch ar y gwersi ychwanegol sydd ar gael ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe
Mae cyfres newydd o wersi nofio gwych ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe ar gael i bobl sydd eisiau dysgu nofio neu wella'u sgiliau dros y misoedd nesaf.
Gall babanod rhwng 3 mis a 3 oed ymuno yn yr hwyl gyda'u rhieni a thîm o hyfforddwyr tra chymwys. Gall oedolion sydd erioed wedi dysgu nofio gael sesiynau un i un neu ymuno â grwpiau bach.
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n cynnig y sesiynau ychwanegol fel rhan o ymdrech i ehangu ar ei raglen gwersi nofio, ac maent ar gael i deuluoedd, plant ac oedolion fel ei gilydd.
Meddai Toni-Lee Lambert, Cydlynydd Ysgol Ddŵr y pwll, "Rydym wedi bod yn cynnal gwersi nofio yn y pwll ers nifer o flynyddoedd ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella. Felly, gallwn gynnig gwersi ar gyfer pob oedran a gallu a gall pawb yn y gymuned leol ymgysylltu ag amgylchedd dyfrol ac elwa ohono.
I gael rhagor o wybodaeth am nofio a gwersi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, ewch i: Gwersi a Sesiynau Dyfrol - Parc Chwaraeon Bae Abertawe