Toglo gwelededd dewislen symudol

Y broses apêl

Os gwrthodwyd eich cais oherwydd bod yr ysgol wedi dyrannu hyd at y Nifer Derbyn, mae gennych hawl i apeilo.

Y broses apêl

Gwrandewir ar yr apel gan banel apelio annibynnol sydd fel arfer yn cynnwys 5 aelod. Mae'r aelodau'n wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi i gyflawni'r rol ac fel arfer maent yn llywodraethwyr ysgol, penaethiaid a lleygwyr. Ni fyddant yn gysylltiedig a'r ysgol lle rydych yn apelio am le neu'r ysgol lle rydych wedi cael cynnig lle. Mae'r clerc i'r panel yn gynrychiolydd o Adran Gyfreithiol yr awdurdod lleol ond nid yw'n cymryd unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau. Rhoddir cyfle i chi gyflwyno'ch achos a bydd cynrychiolydd o'r Adran Addysg yn nodi'r rhesymau pam y gwrthodwyd y lle i chi. Ar ol gwrando a yr apel, bydd y panel yn gwneud ei benderfyniad a gydd y penderfyniad hwn yn derfynol. Nid oes hawl ychwanegol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Ar gyfer y Derbyn a Blwyddyn 7, gellir gwrando ar apeliadau lluosog ar gyfer yr un ysgol fel apeliadau wedi'u grwpio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon.

Os bydd eich apel yn aflwyddiannus, ni fyddwch yn gallu apeli am le yn yr un ysgol yn ystod yr un flwyddyn academaidd oni bai bod newid sylweddol yn yr amgylchiadau. Byddai angen trafod yr amgylchiadau hyn gyda'r Tim Ysgolion a Llywodraethwyr. Fodd bynnag, mae hawl i rieni apelio o'r newydd ynglyn a blwyddyn ysgol wahanol e.e. os yw apel am le yn y dosbarth Derbyn yn aflwyddiannus, gall rhieni apelio'r flwyddyn nesaf os gwrthodir lle i'w plentyn ym Mlwyddyn 1. Yn yr un modd, os collir apel am le ym Mlwyddyn 7, gall rhieni apelio yn y flwyddyn ganlynol os gwrthodir lle i'w plentyn ym Mlwyddyn 8. Prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall panel annibynnol dderbyn disgybl i ddosbarth babanod os oes 30 ynddo eisoes. Ni ellir cefnogi'r apel oni bai bod y panel apeliadau'n fodlon nad oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol yn ei wneud o dan amgylchiadau'r achos neu y byddai'r plentyn wedi cael cynnig lle petai'r trefniadau derbyn wedi cael eu dilyn yn gywir. Mae hyn oherwydd y cyfyngiad maint dosbarth statudol o 30 mewn dosbarthiadau babanod.

Gall rhieni sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle dderbyn lle o hyd yn yr ysgol arall a gynigir. Ni fydd hyn yn effeithio ar yr apêl mewn unrhyw ffordd a bydd yn sicrhau bod lle wedi'i gadarnhau i'w plentyn rhag ofn bydd yr apêl yn aflwyddiannus. Os gwrthodir y lle a gynigiwyd, gellir ei gynnig i ddisgybl arall ar restr aros yr ysgol honno.

Mae gwybodaeth sy'n darparu nifer yr apeliadau a gynhaliwyd a nifer yr apeliadau a lwyddodd ar gyfer y Derbyn a Blwyddyn 7 Medi 2023 i'w gweld isod:

 

Dosbarth derbyn a blwyddyn 7 (cylchoedd derbyn Medi 2023)

Ysgol o ddewis

Nifer yr apeliadau

Nifer yr apeliadau llwyddiannus

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

7

7

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

1

0

Ysgol Gyfun Pentrehafod

4

2

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

2

0

Ysgol Gynradd Hendrefoilan

2

0

Ysgol Gynradd Llangyfelach

1

0

Ysgol Gynradd St Helen's

3

0

Cyfanswm

20

9

 

Mae gwybodaeth sy'n darparu nifer yr apeliadau a gynhaliwyd a nifer yr apeliadau a oedd yn llwyddiannus ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 / 2023 i'w gweld isod:

Apelau ar gyfer lleoedd canol blwyddyn

Ysgol o ddewis

Nifer yr apeliadau

Nifer yr apeliadau llwyddiannus

Ysgol Gynradd Birchgrove

1

1

Ysgol Gyfun Bishop Gore

4

4

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

5

5

Ysgol Gynradd Brynmill

1

0

Ysgol Gynradd Casllwchwr

1

1

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

5

5

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

3

1

Ysgol Gyfun Dylan Thomas

5

2

Ysgol Gynradd Glyncollen

3

2

Ysgol Gyfun Tregwyr

3

3

Ysgol Gynradd Tregwyr

2

2

Ysgol Gynradd Hendrefoilan

1

0

Ysgol Gynradd Llangyfelach

3

0

Ysgol Gynradd Mayals

1

0

Ysgol Gynradd Newton20
Ysgol Grynradd Parkland176
Ysgol Gynradd Pengelli10
Ysgol Gynradd Penllergaer21
Ysgol Gyfun Pentrehafod139
Ysgol Gyfun Pontarddulais11
Ysgol Gynradd Sgeti11
Ysgol Gynradd San Helen71
Ysgol Gynradd Heol y Teras20
Ysgol Gynradd Townhill22
YGG Pontybrenin22

Cyfanswm

88

49

 

Rhestrau aros ar gyfer disgyblion sy'n gwneud cais am le yn y dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 7

Caiff rhestri aros ar gyfer pob ysgol (ac eithrio Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir) eu gweinyddu gan yr awdurdod lleol. Os nad ydych yn llwyddo i gael lle yn y dosbarth Derbyn ar gyfer mis Medi 2024 neu Flwyddyn 7 ym mis Medi 2024 yn yr ysgol(ion) o'ch dewis fel a nodir ar y ffurflenni cais yn y rownd dderbyn arferol, caiff enw'ch plentyn ei roi'n awtomatig ar y rhestr aros ar gyfer yr ysgol honno (ysgolion hynny). Ni fydd derbyn lle mewn ysgol arall yn effeithio ar eich safle ar y rhestr aros. Os daw lle ar gael yn yr ysgol(ion) o'ch dewis, caiff ei ddyrannu gan yr awdurdod lleol yn unol â'r meini prawf derbyn, ac nid yn nhrefn y dyddiad y rhoddwyd enwau'r disgyblion ar y rhestr.

Nid oes gan ddisgyblion y mae eu rhieni'n cyflwyno apêl flaenoriaeth dros ddisgyblion eraill ar y rhestr aros. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Bydd angen i rieni sydd am i'w ceisiadau gael eu hystyried ar ôl y dyddiad hwn gyflwyno cais newydd.

Os yw eich plentyn ar y rhestr aros, cofiwch y gall ei sefyllfa newid oherwydd gall ceisiadau sydd â mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf gorymgeisio gael eu cyflwyno ar unrhyw adeg.

Close Dewis iaith