Y Gronfa Cymorth Dewisol
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig taliadau neu gefnogaeth mewn nwyddau i bobl yng Nghymru sydd angen cymorth brys.
Mae'r gronfa wedi'i chynllunio i gefnogi'r rhai na allant gael gafael ar unrhyw gymorth arall ac mae'n gronfa dewis olaf. Mae dau fath o grant ar gael:
1. Taliad Cymorth mewn Argyfwng
Fel y mae'r enw'n awgrymu, mae hwn yn daliad y gall fod ei angen arnoch ar ôl argyfwng. Mae'n grant i helpu gyda chostau hanfodol ar ôl argyfwng, neu os ydych wedi profi trychineb fel llifogydd neu dân yn eich cartref, neu galedi ariannol sylweddol am resymau gan gynnwys oedi mewn taliadau budd-dal. Bydd y taliad yn eich helpu i dalu am gost bwyd, nwy a thrydan, dillad a theithio mewn argyfwng. Nid yw wedi'i gynllunio i dalu am ddiffygion ariannol parhaus.
Gall unrhyw un dros 16 oed gael eu hystyried yn gymwys am y taliadau hyn os oes angen help arnynt i dalu am dreuliau o ganlyniad i argyfwng neu drychineb. Nid oes angen i chi dderbyn unrhyw fudd-daliadau i fod yn gymwys. Fel arfer, dim ond tri grant y gallwch eu derbyn mewn cyfnod treigl o 12 mis ac ni allwch dderbyn taliad os dyfarnwyd un i chi yn ystod y 7 niwrnod diwethaf. Mae pob dyfarniad yn ddewisol ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch anghenion presennol.
Gall y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) gynnig cymorth unwaith eto'r gaeaf hwn ar gyfer costau tanwydd oddi ar y grid nes 31 Mawrth 2024:
Argyfwng Wcráin
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd pobl sydd wedi ffoi o'r rhyfel yn Wcráin yn gallu gwneud cais am Daliad Cymorth mewn Argyfwng. I wneud cais, bydd angen i chi ddarparu copi o'ch pasbort.
Hefyd, bydd angen i chi fodloni'r amodau arferol o fod mewn caledi ariannol eithafol ac angen cefnogaeth ariannol di-oed o ganlyniad i sefyllfa o argyfwng. Bydd terfyn safonol o hyd at 3 dyfarniad yn ystod cyfnod o 12 mis yn berthnasol.
Sut i wneud cais am Daliad Cymorth Mewn Argyfwng
Gallwch wneud cais am y Gronfa Cymorth Dewisol ar wefan Llywodraeth Cymru (Yn agor ffenestr newydd).
Fel arall gallwch ffonio 0800 8595924 (am ddim o linell dir) neu 033 0101 5000 (cyfradd leol) rhwng 9.30am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os dyfernir taliad i chi o £56 ar gyfer aelwyd 1 person neu £67 ar gyfer aelwyd 2 berson, bydd PayPoint yn anfon neges destun atoch gyda'r manylion sydd eu hangen arnoch i gael mynediad at y taliad mewn siop neu swyddfa'r post gyda logo PayPoint. Gallwch ddod o hyd i'ch siop PayPoint leol (Yn agor ffenestr newydd) ar eu gwefan.
Caiff taliadau o £111 ar gyfer aelwyd 3 pherson neu fwy eu gwneud drwy daliad BACS i'ch cyfrif banc. Os nad oes gennych fynediad at gyfrif banc, cysylltwch â phartner cymeradwy DAF am gymorth i gael mynediad at daliad.
2. Taliad Cymorth Unigol
Pwysig: Gellir dyfarnu Taliad Cymorth Unigol i chi os caiff eich cais ei gefnogi gan sefydliad partner cymeradwy yn unig.
Bydd rhai adrannau Cyngor Abertawe, gan gynnwys yr Uned Cefnogi Tenantiaid, cymdeithasau tai, llawer o sefydliadau cynghori ac elusennau, yn bartneriaid cymeradwy ac efallai y byddant yn gallu eich cynorthwyo os oes angen y grant hwn arnoch oherwydd eich amgylchiadau.
Nid yw'r Taliad Cymorth Unigol yn rhoi grant arian parod. Yn hytrach, byddwch yn cael yr hyn yr asesir bod ei angen arnoch yn uniongyrchol. Gallai hyn gynnwys nwyddau gwyn (e.e. peiriant golchi, oergell, ffwrn neu ddewis amgen o ffrïwr aer, popty araf a microdon) neu ddodrefn i'r cartref o restr o nwyddau sydd ar gael.
I fod yn gymwys mae'n rhaid i chi fodloni'r tair cyfres o amodau:
- Bodloni'r canlynol i gyd:
- bod yn byw yng Nghymru
- bod yn 16 oed neu'n hŷn
- heb fynediad arall at gynilion na chyllid
- peidio â bod yn preswylio mewn cartref gofal (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau mewn 6 wythnos)
- peidio â bod yn y carchar ar hyn o bryd (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau mewn 6 wythnos)
- peidio â bod yn aelod o urdd grefyddol sydd wedi'i chynnal yn llawn.
- Yn derbyn un o'r budd-daliadau cymhwyso canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Bodloni un o'r canlynol:
- rydych yn gadael cartref gofal neu sefydliad i fyw'n annibynnol yn y gymuned ar ôl o leiaf 3 mis mewn gofal (er enghraifft yn yr ysbyty, cartref gofal, carchar, gofal maeth)
- rydych am barhau i fyw yn y gymuned yn hytrach na gorfod mynd i sefydliad
- rydych yn sefydlu cartref ar ôl ffordd o fyw ansefydlog
- rydych yn wynebu pwysau eithriadol a brys, er enghraifft perthynas wedi chwalu neu drais domestig
- rydych yn mynd i ofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sy'n cael ei ryddhau ar drwydded dros dro.
Sut i wneud cais am Daliad Cymorth Unigol
Gall y person o'r sefydliad partner cymeradwy naill ai eich helpu i wneud hawliad ar-lein, lawrlwytho a chwblhau ffurflen hawlio neu ffonio'r Gronfa Cymorth Dewisol ar eich rhan.