Galw am dystiolaeth: Ymchwiliad craffu i grantiau
Prif ffocws yr ymchwiliad yw edrych ar sut mae'r cyngor yn rheoli'r grantiau y mae'n eu derbyn er mwyn gwella bywydau dinasyddion Abertawe.
Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol e.e. print bras, e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Y cwestiwn allweddol felly yw:
Sut gall y cyngor sicrhau bod y grantiau y mae'n eu derbyn yn gweithio i ddarparu'r canlyniadau gorau i bobl Abertawe?
Yr hyn nad yw'n rhan o'r ymchwiliad...
Grantiau sy'n cael eu talu gan y cyngor i sefydliadau eraill. Bydd gan yr ymchwiliad ffocws strategol, gyda throsolwg o rolau a chyfrifoldebau, blaenoriaethau, pwerau, profiad a thueddiadau cyfredol, gweithgarwch a chyflawniad partneriaeth a sut y gellir gwella pethau.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar grantiau mewn perthynas â darparu swyddogaethau'r cyngor a sut mae'n gweithio gyda'i bartneriaid ac eraill i sicrhau bod grantiau'n cael eu rheoli a'u trosglwyddo'n effeithiol yn Abertawe. Bydd hefyd yn ystyried beth y mae'r cyngor yn ei wneud yn dda a'r hyn y gellid ei wella yn y maes hwn.
I helpu i ddeall y materion hyn ac ateb rhai o'r cwestiynau, rydym yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig ar y llinellau ymholi canlynol:
Sut mae grantiau'n cyd-fynd â'r 'darlun mawr' o ran cyllideb gyffredinol y cyngor a'r pwysau ariannol sy'n effeithio ar y cyngor. A oes cyswllt clir rhwng y grantiau rydym yn gwneud cais amdanynt, proses pennu cyllideb y cyngor a chynlluniau strategol a gweithredol y sefydliad?
A yw'r cyngor yn gwneud cais am grantiau ar y cyd â sefydliadau neu gynghorau eraill? Sut mae'r grantiau a dderbynnir yn gyffredinol yn cymharu â'r rheini a dderbynnir gan awdurdodau lleol eraill (arwydd bod y Panel yn cydnabod bod pob ALl yn wahanol?)
Sut mae'r cyngor yn sicrhau ei fod yn gwneud cais am yr holl grantiau priodol sydd ar gael? A oes gan y cyngor staff sy'n gyfrifol am wneud ceisiadau am grantiau fel rhan o'u rôl? A yw'r adnodd a ddefnyddir i wneud hyn yn ddigonol (gan gynnwys canlyniadau cynyddu neu leihau hyn)?
Sut mae'r cyngor yn sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio'r grantiau a dderbynnir? Sut mae'n gwybod a yw'r grantiau wedi cyflawni'r hyn y cawsant eu dyrannu i'w wneud (neu eu bod ar y trywydd iawn i wneud hyn)? Sut y gallwn ddweud a yw'r grant wedi bod yn llwyddiannus, sut caiff ei fesur. Sut mae'r grant(iau) yn cael ei/eu monitro a beth yw'r effaith?
Beth yw barn rhanddeiliaid a sefydliadau partner am sut rydym yn gwario'r grantiau rydym yn eu derbyn? A yw'r cyngor yn ymgynghori ar, er enghraifft, sut y dylai'r arian gael ei wario ac effeithiolrwydd/effaith grant? A ddefnyddir cyd-gynhyrchu pan fo'n briodol?
Sut mae'r cyngor yn sicrhau yr edrychir ar gydraddoldeb mewn perthynas â'r grantiau sy'n cael eu defnyddio, gan ystyried yr effaith bosib ar grwpiau demograffig gwahanol - o ran cynigion unigol a'r grant cyfan yn gynyddol?
Beth yw'r risgiau a'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â'r grant(iau)? A yw'r cyngor yn sicrhau bod strategaethau ymadael ar gyfer grantiau tymor byrrach a/neu pan fydd grantiau'n dod i ben h.y. cynllunio wrth gefn, cynllunio ar gyfer cadernid, cynllunio ar gyfer ymadael?
Lles a chenedlaethau'r dyfodol fel ysgogiad: Beth yw strategaeth, gweledigaeth nodau ac amcanion y cyngor yn y maes hwn? Sut mae'r cyngor yn perfformio yn erbyn y rheini? Er enghraifft, sut mae'n ystyried cenedlaethau'r dyfodol pan rydym yn cymhwyso ac yn defnyddio grantiau?
Mae'r Panel yn awyddus i glywed gan gynifer o aelodau'r cyhoedd a sefydliadau â phosib cyn gynted â phosib.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth sy'n ymwneud â'r ymchwiliad hwn, gallwch wneud hynny drwy ysgrifennu atom yn:
Ebost: craffu@abertawe.gov.uk
Drwy'r post:
Y Tîm Craffu,
Neuadd y Ddinas,
Abertawe,
SA1 4SN