Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgynghori ar y Cynllun Gwella yn 2013

Negeseuon Allweddol o Ymgynghori ar y Cynllun Gwella yn 2013.

  • The council consulted on its working improvement objectives using two main methods:
  1. Arolwg ar-lein.
  2. Cyfarfodydd grwpiau ffocws gyda grwpiau o ddefnyddwyr penodol.
  • Dangosodd yr ymgynghoriad ar-lein fod cefnogaeth helaeth i holl amcanion gwella arfaethedig y cyngor; roedd rhwng 57% a 94% yn cytuno â'r amcanion gwella a gafodd eu cynnwys yn y cynllun hwn.
  • Dyma'r Amcanion Gwella a ddenodd y gefnogaeth fwyaf yn yr ymgynghoriad ar-lein:

Amcanion Gwella Arfaethedig

Cytuno'n Gryf neu Gytuno
1. Datblygu partneriaethau, sgiliau a'r isadeiledd er mwyn denu a meithrin economi ar sail gwybodaeth, gan greu swyddi yn y sectorau allweddol.94%
2. Gwella presenoldeb ysgol a chyrhaeddiad pob dysgwr rhwng 3 a 19 oed fel y gall pob unigolyn gyflawni ei botensial.93%
3. Helpu pobl i fabwysiadu a datblygu ffyrdd iach a chynaliadwy o fyw er mwyn gwella eu hiechyd.89%
4. Mae pobl yn ddiogel, yn iach ac yn cael eu cefnogi i fyw'n annibynnol.86%
5. Darparu cefnogaeth i blant yn Abertawe yn ystod y blynyddoedd cynnar fel y byddant yn barod i ddysgu a gwneud cynnydd datblygiadol.84%
  • Canran isel iawn o'r ymatebwyr i'r arolwg a oedd yn anghytuno ag amcanion gwella arfaethedig y cyngor, rhwng 0% (neb yn anghytuno) a 7% yn unig.
  • Roedd canran yr ymatebwyr nad oedd yn cytuno nac yn anghytuno â'r amcanion arfaethedig yn amrywio rhwng 4% a 36%.
  • Ymgynghorodd y cyngor â'r canlynol hefyd:
  1. Rhwydwaith 50+ - grŵp â'r nod o sicrhau llais effeithiol i bobl hŷn ar amrywiaeth eang o faterion cyfranogi a chynllunio.
  2. Fforwm Busnes Abertawe - fforwm sy'n rhoi cyfle i'r cyngor a'r sectorau busnes feithrin cysylltiadau.
  3. Grŵp o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) a oedd yn arfer derbyn gofal gan y cyngor.

Dyma'r negeseuon allweddol a ddaeth i'r amlwg yn sgîl y broses ymgynghori hon:

Ymgynghori â'r Rhwydwaith 50+

  • Mae cwnsela dyled yn bwysig
  • Hyrwyddo hunangynhaliaeth
  • Mae angen monitro effaith y diwygiadau lles
  • Mae angen hyrwyddo'r Undeb Credyd i fynd i'r afael ag effaith cwmnïau benthyciadau diwrnod tâl.
  • Blaenoriaethu cyflwyno'r cyflog byw
  • Rhewi treth y cyngor
  • Gwerthuso a monitro llwyddiant mentrau sy'n mynd i'r afael â thlodi
  • Annog twf economaidd
  • Gwella diogelwch swyddi
  • Gwella cludiant lleol
  • Gwario arian wrth gefn
  • Dylid addysgu hyfforddiant a sgiliau mewn ysgolion
  • Caniatâd cynllunio cyflym ar gyfer tai fforddiadwy
  • Peidiwch â thorri chwaraeon/cerddoriaeth mewn ysgolion
  • Mae angen hyrwyddo mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a'i hysbysebu mewn cysodfannau bysus
  • Dylid gweithio'n gynnar gyda theuluoedd plant sy'n derbyn gofal pan nodir bod y plentyn mewn peryg
  • Dylai'r cyngor ddarparu cynifer o gartrefi preswyl a nyrsio â phosib
  • Blaenoriaethu cefnogaeth i helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd
  • Darparu addasiadau ar yr adeg gywir i alluogi pobl i fyw gartref yn ddiogel
  • Gwell cyfathrebu rhwng adrannau, gofalwyr a'r rhai sy'n derbyn gofal i wella problemau a phryderon
  • Mae angen rhagor o'r math iawn o staff cymunedol sy'n cael eu talu'n dda a sydd â'r amser angenrheidiol i wneud eu gwaith
  • Mae angen mwy o ddarpariaeth meithrin
  • Hyrwyddo cyfrifoldeb rhieni
  • Hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol i blant
  • Gwella presenoldeb mewn ysgolion
  • Estyn casgliadau ailgylchu i gynnwys mathau ychwanegol o wastraff
  • Adolygu'r newidiadau i'r casgliadau gwastraff - eitemau mawr
  • Helpu pobl anabl a phobl hŷn gyda'u casgliadau gwastraff/ailgylchu
  • Targedu grwpiau penodol nad ydynt yn ailgylchu a'u hannog i ailgylchu
  • Sicrhau bod pobl yn ymwybodol o gynlluniau effeithlonrwydd ynni.

Ymgynghoriad â Fforwm Busnes Abertawe

  • Canolbwyntio ymdrechion ar yr hyn mae'r cyngor yn gallu effeithio arno a'i newid
  • Gweithio gydag eraill, gan gynnwys y sector preifat, i gyflawni amcanion
  • Nid gofal cartref yw'r opsiwn gorau bob amser - weithiau mae angen gofal preswyl
  • Mae angen mwy o gydweithio â'r sector preifat i weld pa gymorth addysgol y gall y Brifysgol a busnes ei gynnig i blant oedran ysgol 
  • Dylai canolfannau ailgylchu fod ar agor am oriau hwy i helpu pobl sy'n gweithio.

Ymgynghoriad â'r grŵp ffocws pobl ifanc (NEET/derbyn gofal gynt)

  • Dyma'r 5 amcan gwella a gefnogwyd fwyaf gan y grŵp hwn:
  1. Darparu cefnogaeth i blant yn Abertawe yn ystod y blynyddoedd cynnar fel y byddant yn barod i ddysgu a gwneud cynnydd datblygiadol.
  2. Gwella tai a'r cyflenwad tai er mwyn cynyddu nifer y tai fforddiadwy o safon sydd ar gael a darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl.
  3. Mae pobl yn ddiogel, yn iach ac yn cael eu cefnogi i fyw'n annibynnol.
  4. Gwella presenoldeb ysgol a chyrhaeddiad pob dysgwr rhwng 3 a 19 oed fel y gall pob unigolyn gyflawni ei botensial.
  5. Targedu adnoddau ar ardaloedd tlotaf Abertawe er mwyn helpu i leihau effaith tlodi.
  • Mae angen mwy o gefnogaeth i helpu pobl gyda'u tenantiaethau ac i ddod yn annibynnol
  • Mae angen mwy o lety sy'n addas i bobl ifanc.
  • Roedd y grŵp yn ystyried bod atal ac ymyrryd yn gynnar yn bwysig iawn.
  • Mae'n rhaid lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal mewn modd diogel.
  • Mae angen gwella rheolaeth y system gofal a darparu cefnogaeth briodol beth bynnag fo oedran yr unigolyn.
  • Mae rheoli effaith y diwygiadau lles, darparu cyngor ar ddyledion a budd-daliadau a chyflog byw yn bwysig.
  • Ceir canfyddiad bod bwyd iach yn rhy ddrud.
  • Presenoldeb ysgol - mae angen i bobl ifanc, yn ogystal â rhieni, dderbyn cyfrifoldeb.
  • Er bod hyn yn bwysig, ni ddylid gorfodi pobl i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion i'r ymgynghoriadau'n gyson ag amcanion y Cynllun Corfforaethol ac nid oedd angen unrhyw newidiadau sylweddol i'r cynllun o ganlyniad i'r ymgynghori. Ni chafodd yr amcan arfaethedig o ran lleihau carbon ei gynnwys yn y cynllun eleni, oherwydd bod rhagor o waith datblygu yn yr arfaeth. Rhoddwyd canlyniadau'r ymgynghori i benaethiaid gwasanaeth hefyd er gwybodaeth ac i'w hystyried.

Arolwg 2014

Cynhaliwyd ymgynghoriad dilynol ar-lein ynghylch amcanion gwella'r cyngor yn 2014. Yn ôl canlyniadau'r arolwg, nodwyd 4 o'r 5 amcan gwella yr oedd pobl yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â hwy yn 2013 fel yr amcanion gwella pwysicaf unwaith eto yn 2014. Yr eithriad oedd yr amcan ynghylch ffyrdd iach o fyw y barnwyd ei fod yr un lleiaf pwysig y tro hwn. Cafodd ei ddisodli yn y 5ed safle gan yr amcan gwella ynghylch hyrwyddo opsiynau credyd a chynilo fforddiadwy a helpu pobl i fwyafu eu hincwm a'u hawliau.

Sut bydd y cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd i wella?

Mae dyletswydd ar y cyngor i roi trefniadau ar waith i sicrhau gwelliant parhaus. Wrth gyflawni'r ddyletswydd hon, rhaid i'r cyngor ystyried y canlynol:

  • Gwneud cynnydd tuag at amcanion cymunedol.
  • Gwella safon gwasanaethau.
  • Gwella argaeledd gwasanaethau.
  • Gwella tegwch.
  • Cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy ardaloedd.
  • Gwella effeithlonrwydd gwasanaethau a swyddogaethau.
  • Blaengaredd a newid sy'n cyfrannu at welliant.

Bydd pob un o flaenoriaethau gwella'r cyngor yn cyflawni un neu fwy o'r agweddau hyn. Manylir ar hyn yn y tudalennau sy'n dilyn.

Sut aethom ati i ddewis amcanion gwella'r cyngor?

Pennwyd amcanion gwella'r cyngor gan gyfeirio at Gynllun Un Abertawe ac ymrwymiadau polisi'r cyngor a chan ymgynghori â staff y cyngor, aelodau etholedig a'r cyhoedd. Roedd hyn yn cynnwys arolwg ar-lein ac ymgynghoriadau wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr grwpiau amrywiol.

Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau

Datblygwyd y Cynllun Gwella Corfforaethol gan ddefnyddio'r dull Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau (RBA). Datblygwyd pob amcan gwella a nodwyd mesurau perfformiad drwy ateb y cwestiynau canlynol:

  1. Sut gallwn fesur faint rydym yn ei wneud?
  2. Sut gallwn fesur a ydym yn cyflwyno gwasanaethau'n dda?
  3. Sut gallwn fesur a yw ein cwsmeriaid yn well eu byd?
  4. Beth yw'r mesurau pwysicaf a sut rydym yn perfformio?
  5. Beth sy'n gweithio'n dda nawr y gallwn ei wella?
  6. Beth rydym yn bwriadu ei wneud i wella?

Mae Cynllun Un Abertawe'nymwneudyn bennaf â'r heriau cymunedol y mae'r cyngor a'i bartneriaid yn mynd i'r afael â hwy drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Ar y llaw arall, mae'r Cynllun Gwella Corfforaethol yn ymwneud yn bennaf ag atebolrwydd perfformiad ar gyfer y gwasanaethau a gyflwynir gan y cyngor yn bennaf. Mae'r Cynllun Gwella Corfforaethol yn sôn yn bennaf am wella gwasanaethau'r cyngor i'w gwsmeriaid uniongyrchol neu ei gyfraniad at yr heriau a rennir sy'n cael eu hamlinellu yng Nghynllun Un Abertawe.

Nodyn ar fesur 'canlyniadau' sy'n gysylltiedig â gwasanaethau - drwy ddefnyddio RBA, mae'r cyngor wedi ceisio nodi mesurau perfformiad priodol, yn enwedig er mwyn canfod 'a yw pobl yn well eu byd?' Mewn rhai meysydd mae'r ymagwedd hon yn eithaf syml a gellir nodi a mesur y 'canlyniad'. Serch hynny, mae angen ystyried nifer o faterion wrth geisio mesur canlyniadau ym maes gwasanaethau.

Yn gyntaf, mae'n anodd mesur 'canlyniad' rhai o wasanaethau'r cyngor sy'n strategol ac yn galluogi, a chyflwynir y gwasanaeth sy'n effeithio ar y defnyddiwr terfynol gan asiantaeth arall neu nifer o asiantaethau'n cydweithio. Er enghraifft, er bod gan y cyngor rôl wrth ddatblygu sectorau allweddol yr economi leol, mae'r cyngor yn cyflawni hyn yn bennaf drwy fframweithiau strategol, drwy ei waith cynllunio a thrwy weithio ar y cyd ag eraill. Felly, mae'n anodd ynysu a mesur effaith y cyngor ar y canlyniad; serch hynny, ni fyddai llawer o bobl yn dadlau na ddylai'r cyngor wneud datblygu'r economi leol yn flaenoriaeth.

Yn ail, oherwydd natur gymhleth rhai o'r gwasanaethau sy'n ymwneud â 'phobl', nid yw o angenrheidrwydd yn rhwydd mesur canlyniadau na darparu a llunio rhagamcaniadau ar gyfer gwella'n gynyddol. Er enghraifft, er y gall fod yn ddymunol ac yn bosib mesur cynnydd datblygiadol plant Dechrau'n Deg pan fyddant yn 2 oed ac eto wrth iddynt gyrraedd 3 oed, mae'n anodd pennu a rhagweld meincnodau a gwelliannau cynyddol bob blwyddyn pan fydd pob carfan plant a fesurir yn cynnwys unigolion gwahanol â mannau cychwyn ac anghenion gwahanol.

Yn drydydd, mae rhai gwasanaethau'n destun cyfeiriad ac arweiniad strategol sy'n pennu blaenoriaethau gwasanaeth. Er enghraifft, mae gan gynghorau yng Nghymru dargedau statudol ar gyfer lleihau tirlenwi a chynyddu ailgylchu gwastraff a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd rhaid i gynghorau nad ydynt yn cyflawni'r targedau statudol hyn dalu treth tirlenwi a dirwyon. O ganlyniad, mae gwasanaethau rheoli gwastraff y cyngor wedi'u cynllunio i gyflawni'r targedau statudol hyn. Felly, blaenoriaeth y cyngor yw cyflawni'r targedau hyn yn hytrach nag ystyried a yw unrhyw un yn well ei fyd (er bod hyn yn rhan o'r strategaeth i argyhoeddi pobl i ailgylchu).  

Yn bedwerydd, mae'n anodd weithiau ganfod effaith y cyngor ar gyflwyno gwasanaeth os na fydd y canlyniadau'n amlwg am beth amser. Gall ffactorau eraill, sydd y tu hwnt i reolaeth y cyngor, effeithio arnynt neu efallai fod y canlyniadau'n amlwg ac nid yw'n werth eu mesur. Er enghraifft, mae'r cyngor yn ceisio cynyddu nifer y lleoedd tyfu a rhandiroedd fel y gall pobl dyfu eu llysiau ffres eu hunain. Yn ogystal â bod yn weithgaredd hamdden iach, mae hyn yn darparu bwyd iach a gall arbed arian. Gall fod yn anodd mesur effaith y polisi hwn ar iechyd pobl yn y tymor byr a gall ffactorau eraill, sy'n gysylltiedig â ffyrdd o fyw, effeithio ar y canlyniad. Ond ychydig fyddai'n dadlau na fydd cynyddu nifer y lleoedd tyfu'n arwain at nifer o fanteision gan gynnwys rhai iechyd.

Sut byddwn yn monitro ac yn adrodd am gynnydd?

Caiff y mesurau perfformiad yn y cynllun hwn eu monitro'n fisol, bob chwarter ac yn flynyddol, mewn cyfarfodydd adrannol, gan y Bwrdd Gwella Corfforaethol a chan aelodau etholedig. Caiff amcanion gwella'r cyngor eu hadlewyrchu yng nghynlluniau gwasanaethau a chynlluniau busnes adrannau. Defnyddir y data diweddaraf i werthuso perfformiad. Caiff cefndir y perfformiad presennol a chynnydd ers y cylch adrodd diwethaf eu hystyried. Byddwn yn ceisio deall y rhesymau dros y perfformiad presennol er mwyn i ni geisio gwella. Bydd y cyngor yn cyhoeddi Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn 2014-15 i adrodd ar ei lwyddiant yn 2013-14 wrth gyflawni'r amcanion gwella a amlinellir yn y cynllun hwn.

Diwygiadau i'r Cynllun

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys mesurau perfformiad lleol newydd a bydd y gwaith parhau i'w mireinio ymhellach a'u hymgorffori yn systemau rheoli perfformiad y cyngor yn parhau. Yn ystod y broses hon, ac oherwydd dylanwadau allanol eraill, mae'n bosib y bydd angen ychwanegu at yr amcanion, eu newid neu eu mireinio eto ac mae hyn yn berthnasol i'r mesurau perfformiad, y rhagamcaniadau a'r cynnwys arall yn y cynllun hwn hefyd. Bydd unrhyw newidiadau'n cael eu nodi yn adolygiad blynyddol y Cynllun Gwella Corfforaethol a chyhoeddir y diwygiadau.

Blaenoriaethau busnes eraill

Mae gan y cyngor nifer o bryderon eraill sy'n flaenoriaethau busnes, megis ymdrin â baw cŵn a gwelliannau i gynnal a chadw priffyrdd. Eir i'r afael â'r rhain drwy gynlluniau busnes gwasanaethau a chânt eu monitro drwy raglen strategol y cyngor.

Ceir digon o dystiolaeth i awgrymu bod gwahaniaethau sylweddol rhwng cymunedau yn y Ddinas a'r Sir o ran cyfoeth, incwm, iechyd a dyheadau. Mae'r datganiad o ymrwymiadau polisi a fabwysiadwyd gan y cyngor ar 26 Gorffennaf yn nodi'r bwriad i ddatblygu ymagwedd 'Ardaloedd Targed', "gydag adrannau'r cyngor, y GIG ac asiantaethau eraill yn rhannu adnoddau a chyllid ac yn cydweithio ar draws ffiniau i fynd i'r afael ag achosion tlodi ac amddifadedd sy'n pontio cenedlaethau." Mae'r amcanion gwella a amlinellir yn y cynllun hwn yn berthnasol i bob agwedd ar ein gwaith er y byddwn yn hollol gyson â'r ymagwedd dargedu hon wrth eu rhoi ar waith.

Sut gallwch chi gymryd rhan a chynnig amcanion gwella newydd yn ystod y flwyddyn?

Mae'r cyngor wedi creu cronfa ddata ymgynghori bartneriaeth i'w gwneud yn hwylus i  drigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau a gynhelir gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe a'i bartneriaid, neu ar eu rhan. Yma gallwch weld yr ymgynghoriad a chael mwy o fanylion am sut gallwch ddarparu adborth. Pan fydd ymgynghoriad wedi'i gwblhau, gallwch lawrlwytho unrhyw ganlyniadau/gylchlythyron perthnasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch y Gronfa Ddata Ymgynghori, neu os ydych yn cael trafferth wrth ei defnyddio, cysylltwch â'r Cydlynydd Ymgynghoriadau ar 01792 636732, drwy ffacs 01792 637206 neu e-bost consultation@swansea.gov.uk

Gallwch gyfranogi hefyd drwy Fyrddau Craffu'r cyngor, sy'n agored i'r cyhoedd (Craffu) neu gallwch gysylltu â Thîm Mynediad i Wasanaethau'r cyngor drwy ffonio 636907 neu e-bostio mynediadiwasanaethau@abertawe.gov.uk

Os hoffech gynnig Amcanion Gwella newydd ar gyfer 2013-17, gallwch gysylltu â'r cyngor unrhyw bryd drwy: E-bostio: improvement@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 636852. 

Close Dewis iaith