Toglo gwelededd dewislen symudol

Craffu

Mae craffu'n ymwneud â gofyn cwestiynau sy'n mynd at wraidd mater. Mae hyn yn golygu cyrraedd rhan bwysig y sefyllfa neu'r broblem.

Arweinir gwaith craffu gan gynghorwyr a etholwyd yn lleol. Yng Nghyngor Abertawe mae 75 o gynghorwyr.

Mae nifer bach o'r Cynghorwyr hyn yn Aelodau Cabinet a elwir hefyd yn Aelodau Gweithredol. Nhw yw'r prif wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau yn y cyngor. Mae gan bob Aelod Cabinet bortffolio gwahanol o wasanaethau yn y cyngor y mae'n gyfrifol amdanynt.

Mae gan weddill y cynghorwyr gyfle i fod yn rhan o'r broses graffu. Eu rôl yn y maes craffu yw dal yr Aelodau Cabinet i gyfrif, bod yn llais y cyhoedd a helpu i ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus y cyngor. Cyfeirir at gynghorwyr sy'n rhan o'r gwaith craffu fel Cynghorwyr Craffu.

Mae hefyd dîm o Swyddogion Craffu sy'n staff y cyngor sy'n rhoi cyngor a chymorth.

Os hoffech chi wybod rhagor am yr hyn mae'r tîm Craffu'n ei wneud ar hyn o bryd cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau (Yn agor ffenestr newydd).

Beth yw'r broses graffu?

Trefnir gwaith cyffredin tîm Craffu Abertawe gan Bwyllgor Rhaglen Graffu'r cyngor. Maent yn trefnu ac yn rheoli'r hyn y bydd Craffu'n edrych arno bob blwyddyn.

Pa waith ydy'r tîm Craffu'n ei wneud ar hyn o bryd?

Mae nifer o ffyrdd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Craffu yn gweithio arno nawr ac am y flwyddyn i ddod.

Ydych chi'n chwilio am agenda, llythyr neu adroddiad?

Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i'n gwefan cynghorwyr, cyfarfodydd ac agendâu. Mae holl agendâu ac adroddiadau'r cyfarfodydd a phwyllgorau ar gael ar y dudalen hon, gan gynnwys pob pwyllgor Craffu.

Hoffech chi godi mater gyda chraffu?

Gall pawb sy'n byw neu'n gweithio yng nghyngor dinas a sir Abertawe wneud cais i'r tîm Craffu ystyried materion o ddiddordeb lleol.

Hoffech chi ofyn cwestiwn i Aelod y Cabinet

Mae'r tîm craffu'n cynnal sesiynau holi ac ateb rheolaidd ag Aelodau Cabinet.

Llyfrgell adroddiadau craffu

Mae ein hadroddiadau Craffu blynyddol ac adroddiadau pwysig eraill ar gael ar y dudalen hon.

Craffu

Enw
Craffu
Rhif ffôn
01792 637732
Close Dewis iaith