Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Ar agor bob dydd rhwng 5 Ebrill a 30 Medi, ac ar benwythnosau yn unig yn ystod mis Hydref.
11am - 5pm (mynediad olaf am 4.30pm).
Costau Mynediad
Safonol £6
Consesiynau £4
PTL Abertawe £3
Tocyn Teulu (2 oedolyn a 3 phlentyn) £18
Tocyn Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 o blant) £12
Plant dan 5 oed am ddim
Tocyn Tymor ar gael - holwch yn y castell
Teithiau tywys - ar gael rhwng mis Ebrill a mis Medi. Bydd y rhain AM DDIM ac yn dechrau am 11.30am bob dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul tan ddiwedd mis Medi.
Ble i barcio
Gall Ystumllwynarth fod yn brysur iawn ym misoedd yr haf. Mae tri maes parcio ar waelod pentref Ystumllwynarth (ar Mumbles Road) ond os yw'r rhain yn llawn, gallwch roi cynnig ar un o feysydd parcio Underhill, sydd ar ben uchaf y pentref.
I gyrraedd meysydd parcio Underhill o Mumbles Road, trowch i fyny Newton Road pan welwch dafarn y White Rose ar y gornel. Parhewch i fyny Newton Road heibio i Marks & Spencer (ar y chwith) nes i chi gyrraedd cyffordd ffordd â goleuadau traffig. Fe welwch iard chwarae ysgol ar eich ochr dde ac eglwys ar y chwith.
I ddod o hyd i'r maes parcio, trowch i'r chwith heibio'r eglwys i Langland Road ac fe welwch y maes parcio tua 120 llath ar ochr dde'r ffordd. Mae'n cymryd 5 munud ar droed i gyrraedd y castell o fan yma.
I ddod o hyd i'r maes parcio am ddim, parhewch yn syth i fyny Newton Road, gyda'r caeau chwarae ar eich chwith ac ewch heibio'r fynwent ar y llaw dde. Ar ben y parc, cyn i'r tai ddechrau, fe welwch arwydd lle parcio ar y chwith. Trowch i mewn i'r ffordd gul ac mae'r maes parcio ymysg y coed. Mae'n cymryd 10 munud ar droed i gyrraedd y castell o fan yma.