Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl greadigol ifanc yng nghanol y ddinas yn elwa o gefnogaeth newydd ar gyfer gyrfaoedd

Mae pobl ifanc yn Abertawe sy'n frwd am sgiliau creadigol yn cael eu hannog i archwilio llwybrau cyffrous i'r gweithle.

young creatives

Gyda sector diwydiannau creadigol Cymru yn ffynnu, mae tîm gwasanaethau diwylliannol Cyngor Abertawe yn cryfhau eu cysylltiadau rhwng busnesau a doniau ifanc.

Dangoswyd hyn gan ddiwrnod gyrfaoedd ar gyfer y diwydiant creadigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian y cyngor yng nghanol dinas Abertawe. 

Meddai Aelod y Cabinet, Elliott King, "Mae ein swyddogion gwasanaethau diwylliannol yn bwriadu agor llygaid pobl ifanc ynghylch y posibiliadau sydd ar gael - ac i ddangos i'r sector fod cronfa dalent enfawr yn Abertawe."

Mae tîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor yn cysylltu â phobl ifanc greadigol sy'n chwilio am waith yn y diwydiannau creadigol.

Mae llwyddiannau hyd yn hyn wedi cynnwys cyfle interniaeth â thâl a gynhelir mewn partneriaeth â'r Oriel Bortreadau Genedlaethol a chynllun digideiddio a fydd yn cysylltu gwirfoddolwyr ifanc â rhaglen 'Cyfuno' a Llyfrgelloedd Abertawe.

Mae'r Glynn Vivian yn cynnal sesiynau misol am ddim o'r enw Criw Celf yr Ifanc. Yn y sesiynau hyn mae pobl ifanc yn archwilio ystod o ddisgyblaethau creadigol. Disgwylir i sesiwn nesaf Criw Celf yr Ifanc gael ei chynnal ar 4 Mai.

Yn ystod arddangosfa'r oriel i arddangos y sgiliau creadigol a helpodd i wneud His Dark Materials, a wnaed yng Nghymru, yn gyfres deledu hynod boblogaidd, mae swyddogion y cyngor wedi cynnal tri digwyddiad creadigol gyda Screen Alliance Wales a'r Rhaglen Cyfuno, menter a gyflwynir yn Abertawe drwy dîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor.

Mae Screen Alliance Wales yn gweithio ar draws cynyrchiadau teledu a ffilm, gan nodi cyfleoedd i'r rheini sy'n ceisio dechrau gweithio yn y diwydiant. Fe'i crëwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a gwneuthurwyr His Dark Materials, Bad Wolf.

Nod y Rhaglen Cyfuno a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw creu cyfleoedd drwy ddiwylliant.

Llun: Pobl ifanc yn mwynhau diwrnod gyrfaoedd yn y diwydiant creadigol yn y Glynn Vivian.