Ystadegau rhyddid gwybodaeth
Manylion nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a dderbyniwyd gennym.
Rydym yn ymgymryd â'r camau canlynol i reoli ceisiadau rhyddid gwybodaeth:
- Derbynnir cais rhyddid gwybodaeth
- Cofnodir y cais rhyddid gwybodaeth a gosodir dyddiad cau penodol (yn unol â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth)
- Trosglwyddir y cais rhyddid gwybodaeth i'r swyddog rhyddid gwybodaeth perthnasol er mwyn llunio'r ymateb
- Bydd y swyddog rhyddid gwybodaeth yn ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth, gan gynnwys yr is-adran berthnasol er mwyn cau'r cais rhyddid gwybodaeth.
Adnoddau llywodraethu gwybodaeth
Gweithredir trefn llywodraethu gwybodaeth fel model gwasgaredig yng Nghyngor Abertawe ac nid oes unrhyw swyddi penodol (yn hytrach na chyfrifoldebau a rhwydweithiau a rennir) na chyllideb i ymdrin â cheisiadau rhyddid gwybodaeth, ac eithrio swydd statudol y Swyddog Diogelu Data ar radd 12.
Mae gan bob adran swyddog rhyddid gwybodaeth dynodedig sy'n gyfrifol am gasglu'r data y mae ei angen i ymateb i gais rhyddid gwybodaeth. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn ychwanegol i'w cyfrifoldebau o ddydd i ddydd.
Nifer y ceisiadau ac adolygiadau
Sylwer y gwnaethom gyflwyno system ceisiadau rhyddid gwybodaeth newydd ym mis Hydref 2024, felly mae ystadegau 2024/25 wedi'u rhannu (gweler hefyd y tabl isod):
Hydref 2024 - Mawrth 2025
- Nifer y ceisiadau rhyddid gwybodaeth a wnaed - 681
- Nifer y toriadau o ran ceisiadau rhyddid gwybodaeth - 86
- Hyd cyfartalog - 21 niwrnod 13 awr
Ebrill - Medi 24 | 2023/24 | 2022/23 | 2021/22 | 2020/21 | |
---|---|---|---|---|---|
Nifer y ceisiadau | 796 | 1,346 | 1,232 | 1,136 | 983 |
Nifer y ceisiadau a atebwyd o fewn y terfyn amser* | 630 | 1,113 | 966 | 772 | 618 |
Nifer y ceisiadau a atebwyd o fewn 20-40 niwrnod | 133 | 200 | 146 | 214 | 195 |
Nifer y ceisiadau a atebwyd ar ôl 40 niwrnod | 4 | 13 | 22 | 63 | 96 |
Nifer y ceisiadau y codwyd tâl amdanynt* | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Nifer y ceisiadau nas atebwyd | 29 | 20 | 98 | 87 | 74 |
Nifer yr adolygiadau | 31 | 25 | 44 | 45 | 30 |
* yn unol â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000