Toglo gwelededd dewislen symudol

Ystadegau ar myfyrwyr yn Abertawe

Nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Abertawe.

Mae crynodeb (PDF) [269KB] ar gael sy'n dangos nifer y myfyrwyr amser llawn a rhan amser ym mhob un o ddarparwyr addysg uwch (AU) ac addysg bellach (AB) Abertawe. Mae'r data'n berthnasol i flwyddyn academaidd 2021-22.

Daw'r data AU o Gofnod Myfyrwyr a Chofnod Amgen Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU). Caiff ei gyhoeddi'n flynyddol gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU) yn dilyn cyflwyno data gan ddarparwyr AU i AYAU.

Mae'r data AB yn cynnwys gwybodaeth am ddysgu ôl-16 a gasglwyd trwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (CDGOC) Llywodraeth Cymru. Mae'r data'n cynnwys darpariaeth mewn sefydliadau Addysg Bellach (AB), darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) a darparwyr Dysgu Oedolion, ond nid yw'n cynnwys cofrestriadau mewn sefydliadau Addysg Uwch a'r chweched dosbarth mewn ysgolion.

Cyhoeddwyd y data hwn gan AYAU a Llywodraeth Cymru yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2023. Cynhwysir rhagor o wybodaeth am y data yn y ffeil crynodeb.

Close Dewis iaith