Ystadegau'r farchnad lafur
12 Tachwedd 2024
Crynodeb diweddaraf nifer yr hawlwyr ac ystadegau diweithdra Dinas a Sir Abertawe yw:
Cyfanswm nifer yr hawlwyr* (10 Hydref 2024): 5,470; Canran: 3.7%
Newid (fesul mis): -240 (-4.2%); (dros y flwyddyn): +500 (+10.1%).
Amcangyfrif diweithdra** (blwyddyn arolwg hyd at fis Mehefin 2024): 4,100; Canran: 3.4%
Newis (dros y flwyddyn): -500 (-10.9%). Cyfwng hyder 95% (blwyddyn hyd at Mehefin 2024): +/-1,200 (pobl); +/-1.1% (cyfradd).
Mae ein chwarterol diweddaraf bwletin yn crynhoi'r data lleol a chenedlaethol sy'n cael eu rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Hydref 2024: Ystadegau'r Farchnad Lafur (PDF) [542KB]
Mae tudalen 1 yn cynnwys crynodeb ystadegol o Farchnad Lafur Abertawe (ar gyfer cyfnod yr arolwg a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024) a data ar nifer yr hawlwyr sy'n ddi-waith ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, yr Ardal Teithio i'r Gwaith, yr Ardaloedd Etholaeth Senedd Cymru lleol a ffigurau cyfatebol ar gyfer Cymru a'r DU ar 12 Medi 2024, yn unol â data nifer yr hawlwyr wedi'i addasu'n dymhorol (Cymru a'r DU yn unig) ac ystadegau diweithdra cenedlaethol. Mae tudalen 2 y bwletin yn cynnwys data ar nifer yr hawlwyr ar gyfer o wardiau etholiadol Abertawe, wedi'u trefnu yn ôl eu cyfradd ddiweithdra (uchel i isel).
Ceir mwy o ddata'r farchnad lafur leol a chenedlaethol ac economaidd yma Proffil Economaidd Abertawe. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch ystadegau'r farchnad lafur leol a'r economi, cysylltwch â ni.
Nodiadau
* Mae cyfrif hawlwyr yn mesur nifer y bobl sy'n derbyn budd-dal yn bennaf oherwydd eu bod yn ddi-waith. O fis Ebrill 2015, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi cynnwys yr holl hawlwyr Credyd Cynhwysol y mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith, yn ogystal â'r holl hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith. Mae'r gyfradd hawlio wedi'i mynegi fel cyfran o'r boblogaeth oedran gweithio sy'n byw yma, a ddiffinnir fel yr holl bobl rhwng 16 a 64 oed.
Dan CC, mae'n ofynnol i fwy o hawlwyr chwilio am waith na'r hyn sy'n ofynnol dan reolau Lwfans Ceisio Gwaith. Mae'r hawlwyr hyn yn cyfrannu at gynyddu nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau ac yn effeithio ar ei ddibynadwyedd fel dangosydd economaidd. Nid oes ganddo statws Ystadegau Gwladol mwyach a chaiff ei ystyried fel 'ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu' gan y SYG.
** Seilir amcangyfrifon diweithdra sy'n seiliedig ar fodel ar Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) a data nifer yr hawlwyr. Mae'r amcangyfrif yn berthnasol i'r cyfnod 12 mis cyn y dyddiad a roddir. Nifer y di-waith wedi'i rannu gan y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd 16 oed ac yn hŷn yw'r gyfradd hon.
Mae'r SYG wedi bod yn wynebu her oherwydd gostyngiad mewn cyfraddau ymateb ar gyfer arolygon aelwydydd, gan gynnwys yr Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS). Er yr ystyrir bod ansawdd yr APS yn gadarn ar gyfer amcangyfrifon cenedlaethol a phrif amcangyfrifon rhanbarthol, mae pryderon ynghylch ansawdd yr amcangyfrifon ar gyfer awdurdodau lleol. Felly, mae allbynnau SYG a gynhyrchir gan ddefnyddio data'r APS, gan gynnwys yr amcangyfrifon diweithdra yn seiliedig ar fodel, yn cael eu hystyried ar hyn o bryd fel 'ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu'.
Ffynhonnell Ddata: SYG a Nomis.