Toglo gwelededd dewislen symudol

Yswiriant cartref i denantiaid y cyngor

Gwybodaeth am yswiriant adeiladau a chynnwys ar gyfer tenantiaid y cyngor.

Yswiriant cynnwys

Mae eich cartref yn cynnwys peth o'ch eiddo mwyaf gwerthfawr. Fodd bynnag, pe bai eich eiddo'n cael ei ddifrodi mewn digwyddiad fel tân neu lifogydd, a allech chi fforddio eitemau newydd yn eu lle?

Er y byddem yn gwneud atgyweiriadau i'ch eiddo, nid ydym yn yswirio cynnwys eich cartref. Os achosir difrod i'ch eiddo oherwydd tân, lladrad, fandaliaeth neu lifogydd, NI fyddwch wedi'ch yswirio ONI BAI eich bod wedi talu am yswiriant cynnwys.

Mae cael yswiriant cynnwys yn rhoi tawelwch meddwl i chi felly os ydych mewn sefyllfa lle rydych yn colli rhywbeth sy'n bwysig i chi, byddwch wedi'ch yswirio.

Mae nifer o gwmnïau yswiriant sy'n gallu darparu yswiriant i chi, ond gwiriwch fanylion y polisi i sicrhau bod gennych yr yswiriant cywir ar gyfer eich anghenion. Gall gwefannau cymharu prisiau hefyd eich helpu i wirio bod gennych y dyfynbris gorau.

Rhagor o wybodaeth yn: Yswiriant cynnwys y cartref (Cyngor ar Bopeth) (Yn agor ffenestr newydd)

Yswiriant adeiladau

Rydyn ni'n gyfrifol am unrhyw ddifrod i'r adeilad ei hun, ond nid ydym yn gyfrifol am eich cynnwys personol (bydd angen i chi gael yswiriant cynnwys ar gyfer hyn).

Close Dewis iaith