Gweithdrefn gwynion gorfforaethol
Rydym yn ymrwymedig i wrando ar farn ein cwsmeriaid, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol.
Os ydych am gwyno, dylech godi'r mater yn gyntaf â'r adran neu ddarparwr y gwasanaethau perthnasol.
Ar gyfer cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r Gwasanaethau Cymdeithasol: Swyddog Cwynion (Gwasanaethau Cymdeithasol), neu drwy'r Tîm Cwynion Corfforaethol.
Ar gyfer pob cwyn arall am y cyngor:
- ar-lein: Gwneud cwyn
- e-bost / ffon / llythyr: Cysylltu â'r Tîm Cwynion
- ffurflen gwyno wedi'i hargraffu - ar gael gan y Tîm Cwynion Corfforaethol neu ein canolfannau gwasanaeth
- gall staff y Gwasanaethau Cwsmeriaid eich helpu i lenwi'r ffurflen ar-lein - ffoniwch 01792 636000
- mae gwybodaeth ar gael mewn gwahanol fformatau hefyd, e.e. Saesneg (ac ieithoedd eraill ar gais), tâp sain, Braille, print bras etc: Cysylltu â'r Tîm Cwynion
Os ydych yn anfodlon ar ymateb yr adran, dylech gwyno wedyn i'r adran honno fel cwyn cam 1 yn unol â pholisi cwynion a gweithdrefnau'r cyngor.
Gweithdrefn gwyno
Cwynion Cam 1
- I ddechrau, bydd yr Adran Gwasanaeth berthnasol yn ymdrin â'ch cwyn a'r gobaith yw y caiff ei datrys.
- Bydd yr Adran Gwasanaeth yn ceisio ymateb i'ch cwyn o fewn 10 niwrnod gwaith.
Cwynion Cam 2
- Os nad ydych wedi derbyn ymateb gan yr Adran Gwasanaeth o fewn 10 niwrnod gwaith a hynny heb reswm da, neu os ydych wedi derbyn eglurhad neu ymateb ond rydych yn parhau'n anfodlon arno, gallwch gyfeirio'ch cwyn at y Tîm Cwynion.
- Bydd y Tîm Cwynion yn adolygu'ch cwyn ar ran y Prif Weithredwr.
- Caiff eich cwyn ei chofnodi a byddwch yn derbyn ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith. Weithiau gall gymryd yn hwy ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn wir.
Beth os ydych yn anfodlon o hyd?
Cwyno i'r ombwdsmon
Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad eich cwyn, ar ôl iddi fynd drwy ddau gam gweithdrefn y cyngor, gallwch ddewis cyfeirio'r mater at: Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru