Toglo gwelededd dewislen symudol

12 sgam y Nadolig

Dyma'r tymor i ddathlu, ond ydych chi wir am roi anrheg i seiber-droseddwyr?

Christmas scams - woman using a laptop.

Mae seiber-droseddwyr yn arbennig o glyfar (yn enwedig dros y Nadolig), felly byddwch yn barod i dderbyn rhybuddion ffug dros e-bost, neges destun neu drwy gyfryngau cymdeithasol am newyddion fel rhybuddion o dywydd difrifol, neu hyd yn oed hysbysebion am Nintendo Switch hanner pris neu neges destun gan Swyddfa'r Post yn dweud nad oedd modd dosbarthu'ch parsel. Bydd pob un yn gofyn i chi glicio ar ddolen i ddarparu manylion personol. Byddwch yn wyliadwrus a pheidiwch ag ymateb iddynt!

Wrth siopa ar-lein ar gyfer yr anrhegion pwysig hynny, rydym yn tueddu i chwilio yn y siopau rydyn ni'n gyfarwydd â nhw ac yn ymddiried ynddyn nhw, ond os na allwn ni gael yr hyn rydyn ni ei eisiau, mae pobl yn tueddu i chwilio ychydig yn ehangach mewn siopau anghyfarwydd. Mae hyn yn gwahodd twyllwyr i hysbysebu eitemau y mae galw mawr amdanynt. Mae'n hawdd iawn clonio gwefan felly byddwch yn ofalus iawn pa rai rydych yn ymweld â nhw.

Cofiwch, mae bob math o bethau ffug ar y rhyngrwyd. Un o'r ffyrdd mwyaf amlwg o ddod o hyd i bethau ffug yw os yw'r cynnyrch yn arbennig o rad. Cadwch lygad am 's' yn 'https' ar ddechrau cyfeiriad gwefan sy'n nodi a yw gwefan yn ddiogel. Os nad oes 's', peidiwch â siopa yno!

Byddwch yn wyliadwrus! Peidiwch â gadael i droseddwyr ddinistrio'r Nadolig

  1. Gwefannau ffug
    Ydych chi'n defnyddio'r we i brynu anrhegion Nadolig? Mae troseddwyr yn creu gwefannau ffug sy'n edrych yn union fel y rhai go iawn er mwyn dwyn eich manylion personol a'ch arian. Sicrhewch fod 'https' ar ddechrau cyfeiriad y wefan a bod y ddelwedd o'r clo yno.
     
  2. Sgamiau cefnogaeth TG
    Gallai sgamiau cefnogaeth TG fod yn alwad ffôn neu'n e-bost sy'n datgan bod rhywbeth o'i le gyda'ch cyfrifiadur ac mae angen ei drwsio. Byddant yn ceisio eich cyfeirio at wefan ffug. Ni fydd cwmnïau fel Microsoft BYTH yn eich ffonio.
     
  3. Elusennau ffug
    cadwch lygad am droseddwyr sy'n defnyddio enw elusen go iawn ac sy'n apelio ar ei rhan am rodd. Os ydych yn amau unrhyw un, gofynnwch i weld cerdyn hunaniaeth swyddogol yr elusen y mae'n orfodol iddo ei gario. Ymddiriedwch yn eich greddf.
     
  4. Sgamiau ad-dalu
    Efallai y byddwch yn derbyn e-bost neu neges gan rywun sy'n esgus ei fod yn gweithio i'r cyngor neu siop adnabyddus sy'n addo ad-daliad credyd neu dreth, a'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio er mwyn hawlio'r arian yn ôl. Byddant yn gofyn am eich manylion banc. PEIDIWCH Â RHOI EICH MANYLION.
     
  5. E-byst gwe-rwydo
    Mae troseddwyr yn anfon e-byst sy'n ymddangos fel rhai go iawn i'ch annog i glicio ar y ddolen a fydd yn eich arwain at wefan ffug, neu atodiad sy'n gosod feirws ar eich peiriant. Byddant yn achosi i chi gael panig ac yn rhuthro'ch penderfyniad. MEDDYLIWCH cyn clicio.
     
  6. Sgamiau cardiau rhodd
    Ydych chi wedi derbyn e-bost gan ffrind yn gofyn i chi brynu cardiau rhodd iddyn nhw? Mae troseddwyr yn esgus bod yn bobl rydych chi'n eu hadnabod er mwyn eich cael chi i wneud hyn. Maent yn chwilio am y côd ar y cerdyn er mwyn gwario'r arian. PEIDIWCH Â GWNEUD HYN.
     
  7. Sgamiau buddsoddi "dim colled"
    Mae troseddwyr yn cysylltu â dioddefwyr ac yn awgrymu eu bod yn gwneud buddsoddiad "dim colled" i gynnig arian cyflym. Maent hefyd yn esgus bod yn swyddogion Cyllid a Thollau EF i gael taliadau gan fusnesau er mwyn cofrestru ar gyfer masnachu. PEIDIWCH Â GWNEUD HYN.
     
  8. Sgamiau banc
    Ydych chi wedi derbyn galwad ffôn gan eich banc sy'n dweud ei fod wedi sylwi ar weithgarwch twyllodrus ar eich cyfrif? Byddant yn gofyn am fanylion banc i gadarnhau eich cyfrif. PEIDIWCH â rhannu'r manylion hyn. Ddylech ddod â'r alwad i ben a chysylltu â'ch banc.
     
  9. Sgamiau ffôn
    Mae troseddwyr yn eich ffonio i drafod pwnc ac yna'n gofyn i chi wasgu botwm ar fysellbad eich ffôn i 'dynnu nôl' o arolwg, er enghraifft. Bydd yn creu ffïoedd eithriadol y bydd y troseddwyr yn elwa ohonynt. PEIDIWCH Â GWNEUD HYN.
     
  10. Sgamiau e-gardiau
    Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio'r cardiau rydych yn eu derbyn ar-lein. Gallent fod yn cynnwys feirws a all gau eich dyfais lawr a byddwch yn cael eich bygwth am arian er mwyn adfer eich ffeiliau. Gosodwch feddalwedd gwrthfeirws a fydd yn eich rhybuddio os bydd hyn yn digwydd.
     
  11. Perthynas ffug
    Ydych chi'n chwilio am gariad ar-lein? Mae troseddwyr yn. Mae'r berthynas yn datblygu dros amser ac mae'r unigolyn yn cael ei annog i dalu arian i'r troseddwr - PEIDIWCH Â GWNEUD HYN. Maen nhw hefyd yn ceisio dwyn eich hunaniaeth. Byddwch yn ddiogel.
     
  12. Sgamiau siopa
    Ydych chi'n dwlu ar frandiau mawr am brisiau isel? Byddwch yn wyliadwrus o ran nwyddau ffug. Mae'r rhain yn amrywio o ddillad o ansawdd gwael i offer trydanol peryglus nad ydynt yn cydymffurfio â deddfau diogelwch. Os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod.

Adrodd am droseddwyr a chyngor pellach

Ydych chi'n gwybod am fusnes y gall fod angen help arno gyda seiberdroseddu?

Mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yno i helpu busnesau Cymru i amddiffyn eu hunain rhag seiberdroseddu. Mae'n darparu canllawiau seibergadernid fforddiadwy am ddim a ddyluniwyd i helpu i'w hamddiffyn rhag ymosodiad.  Bydd ymwelwyr â'u gwefan hefyd yn gallu lawrlwytho Llyfr Bach o Sgamiau Seiber, llyfryn pwrpasol sy'n tynnu sylw at y technegau y bydd troseddwyr yn eu defnyddio i geisio dwyn oddi arnoch a manteisio arnoch

Canolfan Seibergadernid yng Nghymru (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn helpu i amddiffyn unigolion

Mae'r NCSC yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i helpu i wneud y DU y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein. Byddant yn helpu i'ch amddiffyn chi a'ch teulu a'r dechnoleg rydych yn dibynnu arni.

Mae seiberddiogelwch yn bwysig am fod ffonau clyfar, cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd bellach yn rhan sylfaenol o fywyd modern, a dyna pam ei bod hi'n anodd dychmygu sut y byddem yn gweithredu hebddynt. O fancio a siopa ar-lein i e-bostio a defnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud popeth y gallwn i atal y seiber-droseddwyr rhag cael gafael ar ein cyfrifon, ein data a'n dyfeisiau.

Ydych chi'n cael problemau gyda'r canlynol? Gall y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol eich cynghori ynghylch y canlynol:

  • Mae rhywun wedi hacio fy nghyfrif e-bost. Rwy'n poeni bod rhywun wedi dwyn fy manylion banc.
  • Mae gen i faleiswedd (meddalwedd faleisus) ar fy nyfais. A ddylwn i dalu arian i ddatgloi fy nghyfrifiadur?

Os ydych chi'n poeni am e-bost rydych chi wedi'i dderbyn sy'n gofyn am wybodaeth sensitif neu'n eich annog i ymweld â gwefan ffug neu'n eich bygwth gyda fideo sydd ganddynt ohonoch chi, anfonwch y manylion ymlaen at y Ganolfan Seiberddiogelwch Gendelaethol yn - report@phishing.gov.uk

Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (Yn agor ffenestr newydd)

Oes angen cyngor neu arweiniad lleol arnoch?

Mae ein hadran Safonau Masnach yma i helpu ein preswylwyr a'n busnesau drwy ddarparu cyngor ac arweiniad ar sgamiau, troseddau stepen drws, masnachu ar y stryd etc: Safonau Masnach

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Rhagfyr 2024