Gweithred dwyllodrus
Twyll yw cynllun sydd wedi'i greu i'ch twyllo i roi eich arian, eich manylion personol neu eich nwyddau. Mae'n anodd iawn i gael y rhain yn ôl os ydych wedi'u rhoi i dwyllwyr.
Gallwch osgoi mathau o dwyll gwahanol os ydych yn gwybod beth i edrych amdano. Os ydych yn gofalu am rywun gall fod yn agored i niwed mae yna bethau y gallwch eu gwneud i'w diogelu rhag twyllwyr.
Yn ogystal â cholli arian neu nwyddau gall twyll hefyd beri straen a gofid emosiynol i'r person a dwyllwyd yn ogystal â'i deulu a'i ffrindiau.
Mathau o weithredoedd twyllodrus
Mae yna nifer o fathau o weithredoedd twyllodrus. Gallant gyrraedd drwy'r post, trwy e-bost, dros y ffôn, neu gallwch gael eich twyllo gan bobl yr ydych yn eu cyfarfod.
Rwy'n meddwl y cafwyd twyll
Os ydych chi, eich ffrind, neu aelod o'ch teulu yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, dylech roi gwybod i Action Fraud cyn gynted â phosib.
Diogelu eich hun ac eraill rhag gweithred dwyllodrus
Mae post twyllodrus wedi'i ddylunio i edrych yn swyddogol ac yn ddilys. I helpu i ddiogelu eich hun ac eraill rhag gweithredwyr twyllodrus, mae yna arwyddion adnabod gweithred dwyllodrus y gallwch gadw llygaid amdanynt.
Rhybuddion ac adroddiadau am weithredoedd twyllodrus
Os ydych wedi gweld gweithred dwyllodrus yn ddiweddar gallwch roi gwybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallwch hefyd weld y rhybuddion am y weithredoedd twyllodrus diweddaraf.
Adrodd am weithred dwyllodrus bosib
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi dioddef sgam, sicrhewch eich bod yn adrodd amdano.
Ffrindiau yn erbyn gweithredoedd twyllodrus
Mae Ffrindiau yn erbyn Gweithredoedd Twyllodrus yn ceisio diogelu ac atal pobl rhag bod yn ddioddefwyr gweithredoedd twyllodrus drwy geisio grymuso cymunedau i... 'Wrthsefyll Gweithredoedd Twyllodrus.'
Lle i gael cyngor ar weithredoedd twyllodrus
Mae nifer o sefydliadau yn darparu cyngor ar weithredoedd twyllodrus.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 05 Ebrill 2024