Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya

Yn dilyn cyfraith a basiwyd gan Lywodraeth Cymru, lleihawyd y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya.

20mya oedolion yn cerdded

Roedd gan gynghorau ddisgresiwn cyfyngedig iawn i gynnal terfyn cyflymder 30mya ar nifer o ffyrdd trefol lle mae'r ffyrdd hyn yn bodloni meini prawf penodol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Gallai cynghorau roi eithriadau ar waith ond ni allent newid y meini prawf a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch weld restr o ffyrdd yn Abertawe sydd wedi cael eu heithrio o'r terfyn 20mya yma: Proposed traffic regulation order - various roads speed limit order

Gallwch hefyd ddod o hyd i fap gyda'r eithriadau i'r terfyn cyflymder 20mya yn Abertawe yn https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/

 

Cwestiynau cyffredin

Pam cyflwynwyd y terfyn cyflymder 20mya?

Dengys tystiolaeth fod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac anafiadau llai difrifol.

Mae cerddwyr bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd os cânt eu taro gan gerbyd sy'n gyrru ar gyflymder o 30mya o'i gymharu â 20mya.

Yn ogystal â'r buddion diogelwch, mae parthau 20mya yn gwella ansawdd aer, yn lleihau llygredd sŵn a gallant arwain at ffyrdd iachach o fyw drwy annog mwy o gerdded a beicio mewn cymunedau. Bydd ffyrdd yn fwy diogel a chânt eu rhannu'n fwy cyfartal rhwng defnyddwyr ffyrdd gwahanol.

Pwy wnaeth y penderfyniad?

Pasiwyd Deddf gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i gyflwyno 20mya fel y terfyn cyflymder diofyn. Nid cynghorau benderfynodd ar hyn ac ni allant newid y penderfyniad, ond maent yn rhoi'r newid ar waith drwy ddiwygio'r arwyddion presennol a chyflwyno arwyddion newydd.

Gallwch gael gwybod mwy am y rhesymau dros ddeddf 20mya Llywodraeth Cymru ar eu gwefan yma: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin | LLYW.CYMRU ac Yn fwy diogel ar 20mya: Beth am edrych allan am ein gilydd | LLYW.CYMRU

Pryd ddechreuodd y newidiadau?

Rhoddwyd y newid o 30mya i 20mya, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar waith ar 17 Medi 2023. Mae hyn yn golygu os ydych chi'n gyrru mewn ardal lle mae golau stryd, y terfyn cyflymder yw 20mya oni bai fod arwyddion sy'n nodi cyflymder gwahanol.

Beth mae'n rhaid i mi ei wneud?

Mae'r rheolau bellach wedi cael eu cyflwyno, sy'n golygu bod angen i chi ddilyn y terfynau amser newydd. 

Beth am y ffyrdd a oedd â therfyn cyflymder 20mya yn y gorffennol? A gafwyd unrhyw newidiadau iddynt?

Rhoddwyd terfynau cyflymder 20mya ar waith yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd, gan gynnwys ardaloedd tawelu traffig o amgylch ysgolion, strydoedd siopa prysur ac mewn rhai ardaloedd preswyl megis Sandfields, ger canol y ddinas. Mae profiad yr ardaloedd hyn yn arddangos manteision lleihau cyflymder gan alluogi strydoedd mwy diogel i gerddwyr, beicwyr a modurwyr.

Beth am ffyrdd lle'r oedd y terfyn cyflymder yn 40mya neu'n uwch? Ydyn nhw wedi newid?

Nac ydyn. Yn gyffredinol nid yw terfynau amser ar brif ffyrdd prifwythiennol a nodwyd fel 40mya neu'n uwch yn flaenorol wedi newid. 

Ydyw'n ofynnol i fodurwyr gyrru 20mya yn Abertawe?

Nac ydy.

Ble mae'r eithriadau i'r terfyn 20mya yn Abertawe?

Mae nifer bach o ffyrdd yn Abertawe sydd ar hyn o bryd â therfyn cyflymder 30mya sydd wedi aros ar y terfyn hwnnw ers 17 Medi. Yn eu mysg y mae rhannau 30mya o ffyrdd prifwythiennol fel Fabian Way, Oystermouth Road a Carmarthen Road.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rheolau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru am eithriadau y gall cynghorau yng Nghymru eu cymhwyso i gynnal ffyrdd 30mya ar eu terfyn presennol yn y ddolen hon: www.llyw.cymru/gosod-terfynau-cyflymder-lleol

Pwy sy'n talu am y newidiadau? A yw'r arian yn dod o'm Treth y Cyngor?

Yn Abertawe, fel mannau eraill, yr awdurdodau lleol sy'n gwneud y gwaith sydd ei angen i roi'r newidiadau ar waith. Mae cynghorau yng Nghymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu am y gwaith drwy grantiau i awdurdodau lleol. Yn Abertawe disgwylir i gost rhoi'r newid ar waith fod yn agos i £3m.

Oes rhagor o wybodaeth am y rheolau 20mya?

Oes, mae gan Lywodraeth Cymru wedudalen yma: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin | LLYW.CYMRU

Pwy fydd yn gyfrifol am orfodi'r rheolau 20mya newydd?

Fel gyda phob mater gorfodi cyflymder, Gan Bwyll fydd yn gyfrifol am orfodi'r rheolau.

Fel bob amser, mae unrhyw arian sy'n cael ei godi o enillion dirwyon neu erlyniadau yn mynd i Lywodraeth Cymru. Nid yw enillion dirwyon goryrru'n mynd i Gyngor Abertawe neu unrhyw awdurdod lleol arall.

Gallwch gael gwybod mwy am waith Gan Bwyll yn https://www.ganbwyll.org/

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnaf, neu os ydw i am adrodd am broblemau gydag arwyddion, gyda phwy ddylwn i gysylltu am gyngor?

Os ydych chi'n dod o hyd i broblemau neu bryderon ynghylch arwyddion, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am eich ardal, rhowch wybod i'r tîm a byddant yn ymateb i chi: Adrodd am broblem gydag arwyddion terfyn cyflymder 20 mya

Adrodd am broblem gydag arwyddion terfyn cyflymder 20 mya

Rhowch wybod i ni os oes problem gydag unrhyw arwyddion terfyn amser yn Abertawe, yn benodol mewn perthynas â'r terfyn cyflymder 20mya.
Close Dewis iaith