Adnewyddu tai'r sector preifat ac addasiadau i'r anabl: polisi darparu cymorth 2022-2027
Mae Polisi Adnewyddu Tai ac Addasiadau i'r Anabl y Sector Preifat yn manylu ar sut mae Dinas a Sir Abertawe (y cyngor) yn darparu cymorth i helpu perchnogion a thenantiaid preifat i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi.
- Adran 1 - Cyflwyniad
- Adran 2 - Trosolwg o'r Cymorth sydd Ar Gael
- Adran 3 - Addasiadau
- Adran 4 - Cymorth Atgyweirio Tai
- Adran 5 - Mentrau Llywodraeth Cymru
- Adran 6 - Adnoddau'r Polisi ac Amodau'r Cymorth Ariannol
- Adran 7 - Diwygiadau i'r polisi
Trosolwg o Bolisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat
1.1 Mae Polisi Adnewyddu Tai ac Addasiadau i'r Anabl y Sector Preifat yn manylu ar sut mae Dinas a Sir Abertawe (y cyngor) yn darparu cymorth i helpu perchnogion a thenantiaid preifat i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am ymagwedd y cyngor at wella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
1.2 Llywiwyd y polisi gan amrywiaeth o ffynonellau data tai, gan gynnwys Arolwg Cyflwr Tai Cymru a gynhaliwyd yn 2018, data tai ac amddifadedd lleol o abertawe.gov.uk, astudiaethau Llywodraeth Cymru, adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yng Nghymru 2018 a data arolwg cyflwr tai lleol o 2010.
1.3 Mae'r polisi'n helpu Gwasanaeth Tai Dinas a Sir Abertawe i gyflawni blaenoriaethau allweddol y cyngor drwy wella ansawdd tai, lleihau tlodi tanwydd a hyrwyddo annibyniaeth gartref.
Fframwaith Cyfreithiol
1.4 Mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2002) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu polisi ar gyfer rhoi cymorth ariannol i aelwydydd i wella'u cartrefi. Disodlwyd deddfwriaeth gyfarwyddol flaenorol gan y gorchymyn, a rhoddwyd mwy o ryddid i awdurdodau ddatblygu gwasanaethau ariannol a ffyrdd blaengar o ddarparu cyngor.
1.5 Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 y cysyniad o Ardaloedd Adnewyddu er mwyn gwella tai ac amwynderau cyffredinol mewn ardaloedd gyda chyfuniad o dai o ansawdd gwael a phroblemau cymdeithasol ac amgylcheddol.
1.6 Mae deddfwriaeth berthnasol arall yn cynnwys:
- Deddf Tai 2004 a gyflwynodd nifer o newidiadau gan gynnwys cyflwyno'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) newydd i ddisodli'r Safon Cymhwyster Tai. Mae hyn yn helpu cynghorau i fynd i'r afael ag eiddo sydd yn y cyflwr gwaethaf, ac sy'n aml yn gartrefi i rai o'r bobl fwyaf diamddiffyn.
- Cyflwynodd Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ddyletswydd i helpu pobl ag anableddau er mwyn eu galluogi i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain trwy ddarpariaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA). O fewn y ddeddf hon, mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal prawf modd o'r ymgeisydd anabl i asesu a oes angen iddo gyfrannu tuag at gostau addasiadau sy'n cael eu darparu yn ei gartref.
- Cynyddodd Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (Cyfansymiau a Dibenion Eraill) (Cymru) 2008 y grant cyfleusterau i'r anabl mwyaf posib a gwaith cymwys ychwanegol.
- Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fframwaith cyfreithiol er mwyn gwella lles pobl y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt.
- Cyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried pa effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl yng Nghymru yn y dyfodol wrth iddynt wneud penderfyniadau.
1.7 Ar 10 Mawrth 2021, cyhoeddodd Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Julie James, fesurau i ddileu'r prawf modd statudol ar gyfer GCA bach a chanolig. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio'r pwerau cymorth tai dewisol o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 i gyflwyno'r newid hwn. Mae'r newid hwn wedi'i gynnwys yn y Polisi Darparu Cymorth 2022-2027 hwn drwy ddarparu Grantiau Addasiadau Llwybr Carlam Dewisol ar gyfer addasiadau canolig.
Materion Lleol
1.8 Mae amrywiaeth o faterion wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r polisi hwn. Er mwyn nodi materion lleol, cynhaliwyd adolygiad o ddata tai fel y nodir yn adran 1.2 ynghyd â thrafodaethau gyda Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin. Dyma grynodeb o'r materion sydd wedi llywio'r polisi:
- Cymru sydd â'r stoc tai hynaf yn y DU, gyda 26% o'r stoc yn dyddio o cyn 1919.
- Yng Nghymru, mae perchnogion preswyl yn cynrychioli 69% o ddeiliadaeth, a chanran y sector rhentu preifat yw 13%.
- Y sector rhentu preifat sydd â'r stoc hynaf a'r gyfran uchaf o dai o ansawdd gwael, lle daw 43% o'r stoc o'r cyfnod cyn 1919.
- Mae'r Sgôr Ynni gyfartalog eiddo wedi cynyddu o fand E y Tystysgrif Perfformiad Ynni yn 2008 i fand D yn 2018.
- Mae 82% o anheddau'n rhydd o beryglon HHSRS Categori 1, a 76% o anheddau'r sector rhentu preifat.
- Mae 112,100 o anheddau yn Abertawe, gyda 65.5% yn eiddo i berchnogion preswyl, a 15.5% yn y sector rhentu preifat.
- Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 yn nodi bod 11.5% o ardaloedd lleol Abertawe ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
- Ar draws Abertawe mae gan tua 15% o dai preifat berygl HHSRS Categori 1.
- Mae mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn fater pwysig i'r cyngor. Roedd y gyfradd uchaf o dlodi tanwydd yn y sector rhentu preifat.
- Mae cysylltiad clir rhwng peryglon Categori 1 ac aelwydydd incwm isel.
- Amcangyfrifir bod tua 5,331 o anheddau gwag, sef 5.30% o'r stoc breifat. Ym mis Ebrill 2021, amcangyfrifiwyd bod 2,034 o'r rhain wedi bod yn wag am fwy na 6 mis.
- Dengys astudiaethau Llywodraeth Cymru fod tai pobl hŷn yn fwy tebygol o lawer o fod mewn cyflwr gwael. Mae hyn yn effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd a'u lles ac yn debygol o gyfrannu at gyfraddau damweiniau yn y cartref yn ogystal ag afiechydon eraill. Yn ôl rhagolygon demograffig, disgwylir i'r gyfran o bobl hŷn yn Abertawe gynyddu'n sylweddol dros y degawd nesaf.
- Nid oes digon o fuddsoddiad grant tai uniongyrchol i ddelio â thai gwael yn y sector preifat, sy'n golygu y dylid parhau i gefnogi mentrau sy'n seiliedig ar fenthyciadau megis Cynlluniau Benthyciadau Landlordiaid a Benthyciadau Perchnogion Preswyl Llywodraeth Cymru.
- Ym mis Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystadegau sy'n amcangyfrif bod 24,394 o aelwydydd yn dioddef o dlodi tanwydd yn Abertawe. Cynhaliwyd ymchwil gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE).
- Ar 10 Mawrth 2021, cyhoeddodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, fesurau i ddileu'r prawf modd o GCA bach a chanolig. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cynnal astudiaeth ar effaith bosib dileu'r prawf modd ar gyfer GCA yng Nghymru a chanfu fod y prawf modd presennol ar GCA wedi bod yn rhwystr i rai pobl anabl sy'n cael addasiadau yng Nghymru. Mae'r bobl anabl hyn yn rhoi'r gorau i broses ymgeisio'r GCA am nad ydynt am ddatgelu eu gwybodaeth ariannol neu am fod eu hincwm a'u cynilion wedi arwain at brawf modd sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyfrannu'n rhannol neu'n gyfan gwbl at y gwaith addasu grant cyfleusterau i'r anabl a gynigir. Mae'r gofyniad i ddileu'r prawf modd o'r GCA ar gyfer addasiadau bach a chanolig yn debygol o arwain at gynnydd yn y galw am GCA yn lleol.
- Mae'r diwydiant adeiladu yn y DU ac yn lleol wedi gweld cynnydd digynsail mewn prisiau yn dilyn pandemig COVID a Brexit, gyda phrinder deunyddiau a llafur oherwydd cyfyngiadau gweithgynhyrchu ac oediadau mewn porthladdoedd ac o ran cludo mewn llongau. Mae cost gyfartalog y gwahanol fathau o gymorth y mae'r cyngor yn eu darparu, gan gynnwys GCA, wedi cynyddu o ganlyniad, gyda nifer mawr o gostau cynlluniau bellach yn cyrraedd yr uchafswm cymorth ariannol sydd ar gael, neu'n fwy na hynny. O ganlyniad, bydd y cyngor yn ceisio cynyddu uchafswm y cymorth sydd ar gael i fathau dewisol dethol o gymorth lle mae ganddynt y pwerau i wneud hynny.
Egwyddorion a nodau allweddol
1.9 Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn mae'r cyngor yn ymrwymedig i weithio gan ddilyn yr egwyddorion a'r nodau canlynol:
- Darparu amrywiaeth o wahanol fathau o gefnogaeth i fynd i'r afael ag anghenion addasu, materion atgyweirio a chynnal a chadw tai a nodwyd yn Abertawe.
- Sicrhau bod pobl ddiamddiffyn, hŷn ac anabl yn cael cefnogaeth.
- Defnyddio benthyciadau i greu ffynhonnell ariannu sy'n gynaliadwy fel y gellir ei hailgylchu'n ôl i addasu, atgyweirio ac adnewyddu tai yn y dyfodol.
- Gweithio mewn partneriaeth ag eraill, yn benodol Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin, i fwyafu gwerth am arian a'r cymorth rydym yn ei roi i bobl hŷn mewn perthynas ag atgyweiriadau ac addasiadau bach.
- Darparu gwasanaethau addasu i bobl anabl sy'n byw mewn tai cyngor a thai preifat drwy un Tîm Addasiadau Tai.
- Gweithio gyda'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i nodi addasiadau addas sy'n angenrheidiol ac yn briodol i'r preswylydd anabl ac sy'n rhesymol ac yn ymarferol i'w gosod yn yr eiddo. Rhoddir blaenoriaeth i wneud yr addasiadau o fewn cynllun presennol yr eiddo, gydag estyniadau'n cael eu hystyried dim ond lle nad oes modd nodi atebion amgen, wrth roi sylw dyladwy i derfynau ariannu.
- Nodi a chynorthwyo ardaloedd daearyddol penodol drwy ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod mathau addas o gyllid allanol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn dod i Abertawe, er enghraifft rhaglenni mesurau effeithlonrwydd ynni Arbed LlC.
- Hyrwyddo gwasanaethau effeithlonrwydd ynni cartref y sector preifat.
- Monitro a gwella amodau yn y sector preifat a gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr mewn asiantaethau a gwasanaethau eraill i leihau nifer yr eiddo sy'n wag yn y tymor hir.
Gweithio mewn Partneriaeth
1.10 Bydd manteisio ar gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid a rhannu amcanion cyffredinol yn helpu'n fawr i gyflwyno'r polisi'n llwyddiannus. Bydd y cyngor yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu perthnasoedd gwaith â phartneriaid presennol ymhellach, ac yn mynd ati i geisio partneriaid newydd hefyd i sicrhau y caiff amcanion allweddol eu bodloni. Mae partneriaethau'n cynnwys y canlynol:
- Mae Llywodraeth Cymru'n bartner arweiniol wrth alluogi tai'r sector preifat i gael eu hadnewyddu. Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod ansawdd tai unigolion yn hanfodol wrth gyfrannu at ansawdd eu bywydau a bod tai o safon uchel yn gonglfaen i gymunedau cryf a diogel. Er mwyn adeiladu tai fforddiadwy o ansawdd da, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio, adnewyddu ac ailwampio cartrefi perchnogion preswyl, tai a rentir a chartrefi gwag ac yn ariannu rhaglenni gwella effeithlonrwydd ynni.
- Mae Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin yn bartner allweddol yng ngweithgareddau adnewyddu tai'r sector preifat yn Ninas a Sir Abertawe. Maent yn darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i bobl hŷn a phobl anabl ddiamddiffyn sydd am wneud atgyweiriadau, gwelliannau ac addasiadau i'w cartrefi. Gellir dod o hyd i wybodaeth fanylach am wasanaethau Gofal a Thrwsio yn careandrepair.org.uk (Yn agor ffenestr newydd).
- Mae'r prosiect ADAPT yn gytundeb partneriaeth sy'n cynnwys Dinas a Sir Abertawe a chymdeithasau tai lleol. Nod ADAPT yw symleiddio'r broses ar gyfer cael mynediad at lety wedi'i addasu drwy sicrhau y defnyddir y llety sydd eisoes wedi'i addasu ar draws Dinas a Sir Abertawe yn y ffordd orau. Bydd pobl ag anabledd corfforol y mae arnynt angen addasiadau lefel uchel yn eu llety yn cael eu cyfeirio at y gofrestr ADAPT. Dan gynllun ADAPT, bydd y cyngor a chymdeithasau tai yn nodi eiddo sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, neu sydd â lefel uchel o addasiadau. Caiff yr eiddo hyn eu cydweddu â phobl ar y gofrestr ADAPT.
- Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn darparu cyngor ar ynni ac yn cyfeirio cleientiaid at NYTH sef cynllun Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth diduedd am ddim i ddeiliaid tai i'w helpu i leihau eu biliau ynni ac i'r rheini sy'n gymwys, cynigir pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu insiwleiddio. Gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru yw Cymru Effeithlon sy'n rhoi un man cyswllt i gefnogi pobl wrth ddefnyddio adnoddau (ynni, deunyddiau a dŵr) yn fwy effeithlon.
- Mae'r cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod gwahanol wasanaethau o fewn y sefydliad yn cydweithio ar brosiectau sy'n cynnwys gwella amodau yn y sector preifat, gan gynnwys adnewyddu tai ac effeithlonrwydd ynni. Mae partneriaid mewnol allweddol yn cynnwys y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol, isadrannau Diogelu'r Cyhoedd, Adfywio, Cynllunio ac Adeiladu Corfforaethol a'r Gwasanaethau Eiddo.
- Mae gan y cyngor Fforwm Landlordiaid sefydledig sy'n ceisio darparu gwybodaeth, rhannu arfer da, mynd i'r afael â phryderon a datblygu cydweithrediad, er enghraifft gofynion deddfwriaethol Rhentu Doeth Cymru.
Adran 2 - Trosolwg o'r Cymorth sydd Ar Gael
2.1 Er mai'r perchennog sy'n gyfrifol am gynnal a chadw cartrefi a gwneud gwelliannau iddynt yn y sector preifat, mae'r cyngor yn
yn cydnabod na fydd gan rai pobl yr adnoddau angenrheidiol. Mae gan y cyngor rôl bwysig i'w chwarae ar gyfer y grwpiau hyn. Bydd y cyngor yn gwneud y defnydd gorau o'r arian sydd ar gael iddo er mwyn gwella safon tai ac felly ansawdd bywyd, gan ddefnyddio'r ffyrdd newydd o gymorth a nodwyd yn y polisi hwn.
2.2 Ac eithrio Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) yng Nghymru, mae rhoi cymorth ariannol i'r rheiny sydd yn y sector preifat yn ddewisol, a chaiff ei lywodraethu gan y gyllideb flynyddol a bennir gan y cyngor a'r nodau a'r amcanion a sefydlwyd yn y polisi hwn. Bydd y cyngor yn cynnig y mathau canlynol o gymorth ariannol i ymgeiswyr ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd:
Addasiadau (Adran 3)
- Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) (ar gyfer addasiadau mawr).
- Addasiadau i Dai Cyngor (ATC) (ar gyfer addasiadau bach, canolig a mawr).
- Grant Cyfleusterau i'r Anabl Dewisol (ar gyfer addasiadau mawr gwaith nas rhagwelwyd a ffioedd asiantaeth)
- Benthyciad Cyfleusterau i'r Anabl Dewisol (arian ychwanegol ar gyfer addasiadau mawr lle mae'r costau'n uwch na therfyn uchaf statudol y GCA o £36,000 yn ystod y cam dylunio).
- Grant Addasiadau Llwybr Carlam Dewisol (ar gyfer addasiadau canolig - dim prawf modd).
- Grant Adleoli Cartrefi a Addaswyd
- Grant Addasiadau Bach (ar gyfer mân addasiadau)
Atgyweiriadau Tai a Gwaith Cynnal a Chadw (Adran 4)
- Benthyciadau Gwella Cartrefi
- Grantiau Cysur, Diogelwch a Diogeledd
Mentrau Llywodraeth Cymru (Adran 5)
- Benthyciadau i Landlordiaid
- Benthyciadau Perchnogion Preswyl a Chymorth Ariannol Ad-daladwy Perchnogion Preswyl
Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac Addasiadau i Dai Cyngor
3.1 Grantiau sy'n helpu i gyfrannu at gost addasu eiddo y mae oedolion neu blant anabl yn byw ynddynt yw'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) a'r Grant Addasiadau i Dai Cyngor. Gall perchnogion preswyl a thenantiaid wneud cais am y grant ar gyfer person anabl yn eu haelwyd. Bwriedir i'r grant alluogi pobl anabl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi.
3.2 Bydd Therapydd Galwedigaethol yn cynnal asesiadau o anghenion pobl anabl ac yn argymell addasiadau er mwyn diwallu'r anghenion hynny. Bydd hwn yn asesiad ymarferol o alluoedd y person anabl mewn perthynas â'i weithgareddau personol a domestig wrth fyw bob dydd yn ei gartref.
3.3 Bydd syrfewyr o'r Gwasanaeth Tai yn penderfynu ar ba waith sy'n 'rhesymol ac yn ymarferol bosib' er mwyn cyflawni addasiadau sy'n 'angenrheidiol ac yn addas' i ddiwallu anghenion yr ymgeisydd fel y'u hargymhellwyd gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.
3.4 Gellir defnyddio'r grantiau GCA ac Addasiadau i Dai Cyngor i ariannu addasiadau gan gynnwys:
- Gwella mynediad i'r annedd ac oddi yno
- Gwneud yr annedd yn ddiogel i'r preswylydd anabl
- Gwella mynediad drwy'r cartref
- Hwyluso'r defnydd o gyfleusterau ymolchi
- Hwyluso'r gallu i baratoi bwyd
- Gwella systemau gwresogi neu hwyluso'r defnydd o systemau gwresogi a goleuadau
- Hwyluso darpariaeth gofal i ofalwr sy'n anabl
- Gwneud llwybr mynediad diogel.
3.5 Rhoddir blaenoriaeth i wneud yr addasiadau o fewn cynllun presennol yr eiddo, gydag estyniadau'n cael eu hystyried dim ond lle nad oes modd nodi atebion amgen, wrth roi sylw dyladwy i derfynau ariannu. Wrth ddod i benderfyniad ynghylch pa ystafell yn yr eiddo i hwyluso addasiadau ynddi i ddarparu mynediad i ystafelloedd ar gyfer cysgu, mynd i'r toiled neu ymolchi, bydd y syrfëwr yn ystyried defnyddio ystafelloedd gwely/ystafelloedd byw sy'n bodoli eisoes, yn enwedig mewn achosion o dan-ddeiladaeth mewn eiddo. Ni fydd addasiadau'n cael eu darparu i ddatrys problem gorlenwi mewn eiddo.
3.6 Ar gyfer tenantiaid sy'n berchnogion a thenantiaid preifat, bydd y cymorth a ddarperir yn GCA lle mae'r addasiadau'n fawr eu natur, fel y'u diffinnir yn ffigur 2 o Safonau Gwasanaeth Addasiadau Tai Llywodraeth Cymru Ebrill 2019, er enghraifft adeiladu estyniad neu eiddo sy'n gofyn am addasiadau adeileddol mawr.
3.7 Mae'r cyngor yn gweithredu Gwasanaeth Asiantaeth Dewisol i helpu ymgeiswyr cymwys gyda'r gwaith dylunio, i gaffael adeiladwyr ac wrth oruchwylio gwaith.
3.8 Amlinellir y meini prawf ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gorfodol (ar gyfer addasiadau mawr) ac Addasiadau i Dai Cyngor (ar gyfer addasiadau canolig a mawr) yn y tabl isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith/costau cymwys |
|
Cyfraniad terfynol yr ymgeisydd |
|
Lefel uchaf o gymorth ariannol |
|
Cymhwysedd ar gyfer gwasanaeth asiantaeth |
|
Amodau cyffredinol |
|
Cymhwysedd ar gyfer gwasanaeth asiantaeth |
|
GCA Dewisol
3.9 Mae'r gefnogaeth hon ar gael yn benodol i sicrhau y gellir talu cost gwaith mân ychwanegol annisgwyl, ac mae ar gael ynghyd â GCA cymeradwy yn unig.
3.10 Amlinellir y meini prawf ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl Dewisol yn y tabl isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith/costau cymwys |
|
Cyfraniad terfynol yr ymgeisydd |
|
Lefel uchaf o gymorth ariannol |
|
Amodau cyffredinol |
|
Benthyciad Cyfleusterau i'r Anabl Dewisol
3.11 Bwriedir i'r math newydd hwn o gymorth benthyciadau fod yn ddarpariaeth ariannu ychwanegol lle mae costau GCA arfaethedig yn fwy na'r uchafswm o £36,000, ac mae ar gael dim ond os caiff ei ddefnyddio ar yr un pryd â GCA cymeradwy.
3.12 Amlinellir y meini prawf ar gyfer Benthyciadau Cyfleusterau i'r Anabl Dewisol yn y tabl isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith/costau cymwys |
|
Cyfraniad terfynol yr ymgeisydd |
|
Lefel uchaf o gymorth ariannol |
|
Amodau cyffredinol |
|
Grant Adleoli Cartrefi a Addaswyd
3.13 Bwriedir i'r math hwn o gefnogaeth ariannol helpu'r person anabl gyda'r gost o symud tŷ o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe os yw hyn yn cael ei ystyried yn fwy addas i ddiwallu anghenion preswylydd anabl ac nid yw'n rhesymol neu'n ymarferol i addasu'r cartref presennol i ddiwallu ei anghenion yn llawn. Gall Cymorth Ariannol fod ar gael i gyfrannu at y ffioedd a'r taliadau sy'n gysylltiedig â phrynu cartref newydd (heb gynnwys y gost brynu), lle mae'r ymgeisydd yn berchen ar ei gartref presennol neu am symud i lety rhent amgen ar gyfer tenant presennol.
3.14 Mae'r meini prawf ar gyfer Grant Adleoli Cartrefi a Addaswyd wedi'i amlinellu yn y tabl isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith/costau cymwys |
|
Cyfraniad terfynol yr ymgeisydd |
|
Lefel uchaf o gymorth ariannol |
|
Amodau cyffredinol |
|
Grant Addasu Llwybr Carlam Dewisol
3.15 Mae'r math newydd hwn o gymorth dewisol yn cael ei gyflwyno ar gais Llywodraeth Cymru i ddileu'r gofyniad i roi prawf modd i oedolion anabl ar gyfer GCAau canolig eu maint. Drwy ddileu'r profion modd, ni fydd yn ofynnol mwyach i ymgeiswyr dalu cyfraniad tuag at y gwaith addasu hwn.
3.16 Amlinellir y meini prawf ar gyfer y Grant Addasiadau Llwybr Carlam Dewisol yn y tabl isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith/costau cymwys |
|
Cyfraniad terfynol yr ymgeisydd |
|
Lefel uchaf o gymorth ariannol |
|
Amodau cyffredinol |
|
Cymhwysedd ar gyfer gwasanaeth asiantaeth |
|
Grant Addasiadau Bach
3.17 Mae disgwyliad cynyddol y dylid darparu gofal a chefnogaeth cymdeithasol i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, lle bynnag y bo modd. Mae'r Grant Addasiadau Bach yn ariannu addasiadau bach i eiddo perchnogion neu denantiaid preifat. Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin fydd fel arfer yn cynnal y gwaith yn dilyn atgyfeiriad gan y cyngor.
3.18 Amlinellir meini prawf y Grant Addasiadau Bach yn y tabl isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith/costau cymwys |
|
Cyfraniad ariannol yr ymgeisydd |
|
Uchafswm y cymorth ariannol |
|
Amodau cyffredinol |
|
Adran 4 - Cymorth Atgyweirio Tai
4.1 Mae cyflwr tai yn cael effaith fawr ar iechyd a Lles preswylwyr, yn benodol y rheiny mewn grwpiau diamddiffyn megis pobl hŷn, pobl ag anableddau ac aelwydydd incwm isel. Mae tai o safon wael hefyd yn effeithio'n negyddol ar gymdogaethau a'r amgylchedd. Mae pryderon am effaith tai o safon gwael ar iechyd yn cynnwys effaith tai oer a llaith ar asthma yn ystod plentyndod, mwy o farwolaethau yn ystod y gaeaf ac effeithiau iechyd ar bobl ar incymau isel y mae angen gwneud atgyweiriadau sylweddol i'w cartrefi. Gall tai o safon wael gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd ardal. Gall eiddo gwag effeithio'n negyddol ar fywydau pobl gan y gallant ddenu fandaliaeth a throseddu ac maent yn cynrychioli gwastraff o adnoddau er bod cyflenwad a fforddadwyedd tai yn Abertawe'n broblem allweddol. Gall arosiadau mewn ysbytai a lleoliadau gofal preswyl gael eu hatal neu eu lleihau i gyfnodau byrrach os yw eiddo'n cael eu cynnal a'u hatgyweirio.
Benthyciadau Gwella Cartrefi
4.2 Fel rhan o strategaeth y cyngor ar gyfer mynd i'r afael â chyflwr gwael eiddo'r sector preifat, mae'r cyngor yn cynnig benthyciadau gwella cartrefi di-log.
4.3 Amlinellir y meini prawf ar gyfer benthyciadau gwella cartrefi yn y tabl isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith/costau cymwys |
|
Cyfraniad ariannol yr ymgeisydd |
|
Lefelau o gymorth ariannol |
|
Amodau cyffredinol |
|
Grantiau Cysur, Diogelwch a Diogeledd
4.4 Mae Grantiau Cysur, Diogelwch a Diogeledd ar gael ar gyfer eiddo y mae angen atgyweiriadau cost isel arnynt. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn cael ei wneud gan Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin.
4.5 Amlinellir y meini prawf ar gyfer Grantiau Cysur, Diogelwch a Diogeledd isod:
Pwy sy'n gymwys? |
|
Gwaith Cymwys |
|
Cyfraniad ariannol yr ymgeisydd |
|
Uchafswm y cymorth ariannol |
|
Amodau cyffredinol |
|
Adran 5 - Mentrau Llywodraeth Cymru
Benthyciadau Perchnogion Preswyl
5.1 Mae Benthyciadau Perchnogion Preswyl Llywodraeth Cymru ar gael i ymgeiswyr y mae angen cymorth ariannol arnynt i wneud gwaith atgyweirio ac i wella'u cartrefi i'w gwneud yn ddiogel, yn gynnes ac yn ddiogel, neu i addasu eiddo gwag. Benthyciad di-log yw hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ad-dalu'r benthyciad mewn rhandaliadau misol ac mae'n destun prawf fforddiadwyedd.
5.2 Mae Cymorth Ariannol Ad-daladwy i Berchnogion ar gael i berchnogion preswyl y mae angen iddynt wneud gwaith atgyweirio brys i'w cartref ond sydd wedi methu'r prawf fforddiadwyedd ar gyfer Benthyciad Perchnogion Preswyl, ac maent ar fudd-dal prawf modd neu incwm isel. Benthyciad di-log yw hwn sy'n ad-daladwy pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu neu ei drosglwyddo yn y dyfodol.
5.3 Meini Prawf ar gyfer Benthyciadau Perchnogion Preswyl
Pwy sy'n gymwys |
|
Gwaith Cymwys |
|
Symiau, cyfnodau a ffïoedd benthyciadau |
|
Amodau cyffredinol |
|
Benthyciadau Cymorth Ariannol Ad-daladwy Perchnogion Preswyl
5.4 Meini Prawf ar gyfer Benthyciadau Cymorth Ariannol Ad-daladwy Perchnogion Preswyl
Pwy sy'n gymwys |
|
Gwaith Cymwys |
|
Symiau, cyfnodau a ffïoedd benthyciadau |
|
Amodau cyffredinol |
|
Benthyciadau i Landlordiaid
5.5 Mae Benthyciadau i Landlordiaid Llywodraeth Cymru ar gael i landlordiaid y sector rhentu preifat i wneud gwaith atgyweirio i'w cartrefi i'w gwneud yn ddiogel, yn gynnes ac yn ddiogel, neu i addasu eiddo gwag. Benthyciad di-log yw hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ad-dalu'r benthyciad o fewn 2 flynedd os yw'r eiddo'n cael ei werthu, 5 mlynedd os yw'r eiddo ar gael i'w osod, neu 10 mlynedd os yw'r eiddo ar gael ar lefelau rhent y Lwfans Tai Lleol.
5.6 Meini Prawf ar gyfer Benthyciadau i Landlordiaid
Pwy sy'n gymwys |
|
Gwaith Cymwys |
|
Symiau, cyfnodau a ffïoedd benthyciadau |
|
Amodau cyffredinol |
|
Adran 6 - Adnoddau'r Polisi ac Amodau'r Cymorth Ariannol
6.1 Mae'r holl gymorth a nodwyd yn y ddogfen hon yn destun amodau. Darperir yr amodau a'r telerau perthnasol llawn wrth wneud cais.
Adennill Arian Grant
6.2 Os bydd hawliad llwyddiannus am iawndal neu yswiriant neu gamau gweithredu ar gyfer iawndal cyfreithiol sy'n talu am gostau'r gwaith y talwyd amdano'n flaenorol gydag arian grant neu fenthyciad, bydd y cyngor yn gofyn i'r ymgeisydd ad-dalu cyfanswm y grant neu'r benthyciad a roddwyd mewn perthynas â'r gwaith hwnnw neu werth y taliad yswiriant neu iawndal cyfreithiol os yw'n is.
Torri Amodau
6.3 Os bydd amod yn cael ei dorri, bydd y cyngor yn gofyn i'r ymgeisydd ad-dalu'r benthyciad neu'r grant yn llawn, ond mae gan y cyngor ddisgresiwn i gytuno ar swm llai mewn amgylchiadau eithriadol, h.y. os bydd ad-dalu'r cymorth grant yn achosi caledi ariannol sylweddol i ymgeisydd y grant neu os byddai ystâd ymgeisydd y grant mewn diffyg ariannol.
Mathau o Gymorth Anariannol
6.4 Efallai bydd ymgeiswyr nad ydynt yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol, neu'r rheiny sy'n dewis peidio â pharhau â cheisiadau ffurfiol, yn cael cynnig cefnogaeth anariannol megis amserlen o'r gwaith atgyweirio neu eu cyfeirio i bartneriaid megis Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin.
Ffïoedd
6.5 Mae'r cyngor yn codi amrywiaeth o ffïoedd i dalu cost darparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r gefnogaeth a amlinellir yn y polisi hwn. Gellir cynnwys ffïoedd yng nghyfanswm gwerth y grant/benthyciad. Caiff y ffïoedd hyn eu hadolygu bob blwyddyn ac maent ar gael ar gais.
Pwyntiau Cyffredinol
6.6 Mae'r cyngor yn wynebu heriau sylweddol a blaenoriaethau cystadleuol o ran buddsoddi cyfalaf. Disgwylir i'r heriau hyn barhau drwy gydol bywyd y cynllun. Er hynny, mae'r cyngor yn ymrwymedig i gyflawni ei ddyletswyddau statudol, cyhyd ag y bo modd, gan sicrhau bod arian ar gael i gefnogi'r blaenoriaethau allweddol a amlinellir yn y polisi hwn.
6.7 Yn draddodiadol, daw arian cyfalaf ar gyfer adnewyddu ac addasu tai'r sector preifat o 2 brif ffynhonnell:
- Cronfa Cyfalaf Gyffredinol y Cyngor (CCC)
- Darparwyr cyllid allanol, er enghraifft Llywodraeth Cymru.
6.8 Disgwylir y bydd cyllid cyfalaf ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni/lleihau tlodi tanwydd ar gael drwy gyllid Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru a thrwy gynlluniau sydd ar gael drwy gwmnïau cyfleustodau.
6.9 Mae'r cyngor yn cydnabod bod natur y gefnogaeth ariannol sydd ar gael ganddo a nifer y grantiau a'r benthyciadau y gall eu cyflwyno yn amodol ar swm y cyllid cyfalaf sydd ar gael. Y cyngor sy'n cytuno ar lefelau cyllid cyfalaf ac maent ar gael ar gais.
Adran 7 - Diwygiadau i'r polisi
7.1 Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i wneud mân ddiwygiadau i'r polisi hwn fel y nodir isod. Bydd unrhyw arfer o'r disgresiwn hwn i wneud y diwygiadau hyn yn cael ei awdurdodi gan swyddog cyfrifol sydd â chyfrifoldeb gweithredol a chyllidebol am y maes gwasanaeth hwn. Cyfyngir y mân newidiadau hyn i'r canlynol:
- Cynyddu neu ostwng ffigurau uchafswm lwfansau grant/benthyciadau o fewn 10% o'r ffigurau a gymeradwywyd o fewn y polisi hwn.
- Meini prawf cymhwysedd mân newidiadau y dangosir nad ydynt yn cael effaith negyddol ar y grwpiau nodweddion gwarchodedig fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig.