Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2023-24

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed tuag at yr 'Abertawe a Garem' ac yn ystyried sut rydym wedi rhoi'r egwyddorion datblygu cynaliadwy ar waith a sut y gallem weithio'n well i gyflawni lles yn y dyfodol.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 23-24 (Word doc) [3MB]

Mae fersiynau blaenorol o adroddiadau blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ar gael trwy'r adran lawrlwythiadau isod.

Neges gan BGC Abertawe

Wrth i ni fyfyrio ar y flwyddyn 2023/24, rydym yn falch o gyflwyno'r cynnydd a wnaed wrth roi Cynllun Lles Lleol Abertawe ar waith.

Ein gweledigaeth ar y cyd i wneud Abertawe'n lle llewyrchus, lle mae'r amgylchedd naturiol yn cael ei drysori, a lle mae pob unigolyn yn cael y cyfle i ffynnu, oedd y sbardun y tu ôl i'n hymdrechion.

Eleni, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn ein hamcanion allweddol. Mae ein hymrwymiad i fenter y Blynyddoedd Cynnar wedi sicrhau bod plant yn Abertawe'n cael y dechrau gorau mewn bywyd, gan osod sylfaen ar gyfer llwyddiant gydol oes. 

Mae'r rhaglen Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda wedi gwella ansawdd bywyd preswylwyr ar bob cam o fywyd, gan feithrin cymuned lle gall pawb fyw'n dda.

Mae ein hymroddiad i Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur wedi arwain at gyflawniadau amgylcheddol sylweddol, gyda mentrau sy'n ceisio adfer bioamrywiaeth a lleihau effaith newid yn yr hinsawdd. 

Ar ben hynny, mae'r amcan Cymunedau Cryf wedi cryfhau'r cysylltiadau yn ein cymunedau, gan feithrin a chyfoethogi ymdeimlad o falchder a pherthyn.

Mae'r cynnydd a gofnodir yn yr adroddiad hwn yn brawf o bŵer cydweithredu, a dyfalbarhad cyson preswylwyr a rhanddeiliaid Abertawe. 

Wrth i ni symud ymlaen, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, gan sicrhau bod lles yn Abertawe'n parhau i ffynnu.

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Cadeirydd y BGC
Roger Thomas, Prif Swyddog Tân, Is-gadeirydd y BGC

Ein Gweledigaeth a'n Hamcanion Lles Lleol

Yn Abertawe, rydym yn credu yn hawliau pob person. Ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i wneud Abertawe'n lle sy'n ffyniannus, lle gwerthfawrogir a chynhelir ein hamgylchedd naturiol a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, cael swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iach, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gall fod.

Er mwyn cyflawni'n gweledigaeth, rydym wedi blaenoriaethu'n Hamcanion Lles Lleol. Gobeithiwn, drwy ganolbwyntio'n hymdrechion ar y cyd, y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf drwy weithio gyda'n gilydd. 

  1. Y Blynyddoedd Cynnar - Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd er mwyn bod y gorau y gallant fod
  2. Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda -  Gwneud Abertawe'n lle gwych i fyw ar bob cam o fywyd
  3. Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur - Adfer a gwella bioamrywiaeth, mynd i'r afael â'r achosion a lleihau effaith newid yn yr hinsawdd
  4. Cymunedau Cryf - Adeiladu cymunedau cydlynus a chadarn, a chanddynt ymdeimlad o falchder a pherthyn

Y Ffordd rydym yn Gweithio - Llywodraethu

Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Mae BGC Abertawe yn ymroddedig i weithredu mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau y diwellir anghenion presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.  Rydym yn gwneud hyn drwy sicrhau bod pob penderfyniad a wnawn neu bob cam rydym yn ei gymryd yn ystyried pum ffordd o weithio'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Tymor hir: Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.

Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion lles corff cyhoeddus effeithio ar bob nod lles, ar eu hamcanion eraill neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Cydweithio: Gweithredu drwy gydweithio ag unrhyw berson arall (neu rannau gwahanol o'r corff ei hun) a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion lles.
 
Cynnwys:
Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu.

Y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Ein nod yw sicrhau bod ein camau gweithredu'n rhoi cymaint o werth â phosib drwy sicrhau ein bod yn chwilio am amryfal ganlyniadau ym mhob peth a wnawn. Drwy sicrhau ein bod yn meddwl am bob un o'r nodau llesiant cenedlaethol isod, rydym yn mwyafu'n cyfraniad at y Gymru a Garem.

  1. Cymru lewyrchus
  2. Cymru gydnerth
  3. Cymru sy'n fwy cyfartal
  4. Cymru iachach
  5. Cymru o gymunedau cydlynus
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  7. Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Sut rydym yn gweithio fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Cydnabuwyd cyfyngiadau strwythur llywodraethu blaenorol y BGC a chynhaliwyd Adolygiad Llywodraethu i fynd i'r afael â hyn. Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried cyngor gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a rhoddwyd strwythur llywodraethu newydd ar waith. Mae'r trefniadau llywodraethu newydd yn cynnwys ffyrdd cynaliadwy o weithio ac yn rhoi cyflawni'r amcanion lles wrth wraidd yr hyn y mae'r BGC yn ceisio'i wneud i wneud gwahaniaeth. 

Egwyddor allweddol yr adolygiad oedd bod gwaith y BGC yn rhan greiddiol yn hytrach na'n ychwanegiad at waith presennol ei aelodau. Dylai staff sefydliadol ar bob lefel ystyried blaenoriaethau'r BGC fel rhan o'u swydd bob dydd, nid cyfrifoldeb ychwanegol, er bod rheoli adnoddau cyfyngedig bob amser yn her.

Strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

(Cliciwch ar y llun i weld fersiwn fwy o'r diagram)

Er bod BGC Abertawe wedi mynd ati'n fwriadol i geisio gwella sut rydym yn cynnwys "rhanddeiliaid anarferol", mae lle o hyd i gynnwys cynulleidfa ehangach o randdeiliaid a chyfleoedd i gynnwys y cyhoedd yn fwy rheolaidd wrth symud ymlaen. 

Eir ati i weithio'n rhanbarthol drwy gyfarfodydd ar y cyd rhwng BGCau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Cynllun Lles Lleol Abertawe

Mae'r bennod hon o'r adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf yn Abertawe, cymariaethau â chyfartaleddau Cymru a thueddiadau lleol diweddar mewn detholiad o'r Dangosyddion Cenedlaethol (Llywodraeth Cymru) gan ddefnyddio'r ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd, a datblygiadau eraill ar gyfer mesur lles dros y flwyddyn.  

Yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, rydym yn disgrifio'r gwaith diweddar a wnaed i ddatblygu set gynhwysfawr o fesurau canlyniadau ar lefel y boblogaeth a threfniadau monitro.

Yn y cyfamser, amlygir detholiad o ddiweddariadau i'r Dangosyddion Cenedlaethol a gynhwyswyd yn yr Adroddiad Blynyddol blaenorol (ar gyfer 2021-22) yn y dadansoddiad isod:

  • Y bwlch disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn Abertawe (2018-20) oedd 19.8 mlynedd ar gyfer merched (Cymru 16.9), a 14.9 mlynedd ar gyfer dynion (Cymru 13.3). Ers 2011-13, mae'r bylchau wedi lleihau ar gyfer merched yn Abertawe (o 18.8 oed), ac ar gyfer dynion (o 17.5 oed). (Dangosydd cenedlaethol 2)
  • Roedd 5.6% o oedolion yn Abertawe wedi adrodd am lai na dau (o'r pump) o'r ymddygiadau ffordd iach o fyw (Cymru 7.4%) (Data Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021-23). Yn yr arolwg, mae Abertawe'n waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd ar gyfer yfed alcohol (unedau) a defnyddio e-sigaréts y flwyddyn ar gyfartaledd, ond yn well na chyfartaledd Cymru o ran pwysau iach, bwyta ffrwythau a llysiau, a gweithgarwch corfforol. (DC3)
  • Mae ansawdd aer yn Abertawe, fel y'i mesurir gan lefelau cyfartalog blynyddol amlygiad llygredd Nitrogen Deuocsid (NO2), wedi parhau i wella, gan ostwng o 12.5 μg / m3 yn 2011 i 7.6 yn 2021 (data wedi'i fodelu - llygryddion fesul metr ciwbig o aer).  Fodd bynnag, mae crynodiadau cyfartalog o NO2 yng Nghymru ychydig yn is (6.9 μg/m3 yn 2021). (DC4)
  • Yn 2022-23, amcangyfrifwyd bod 13.3% o bobl 16+ oed sy'n byw mewn aelwydydd yn Abertawe'n byw mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu â fforddio nwyddau a gweithgareddau penodol sy'n nodweddiadol mewn cymdeithas ar adeg benodol); yn is na chyfartaledd Cymru (15.5%) ond yn gostwng o 20.6% yn 2017-18. Cynyddodd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer Abertawe dros y flwyddyn ddiweddaraf (o 10.6% yn 2021-22), ochr yn ochr â chynnydd yng Nghymru - sydd o bosib yn nodi effeithiau costau byw.  Fodd bynnag, amcangyfrifon yn seiliedig ar arolygon (cenedlaethol) yw'r rhain, sydd hefyd yn destun newidiadau mewn methodoleg, felly dylid bod yn ofalus wrth ystyried newidiadau tymor byr ar lefel leol. (DC19)
  • Yn 2021-22, roedd 60% o oedolion yn Abertawe'n teimlo'n ddiogel (yn is na Chymru, 66%). Gofynnwyd i'r ymatebwyr pa mor ddiogel yr oeddent yn teimlo ar ôl iddi dywyllu yn eu cartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio (ar raddfa pum pwynt).  Cafodd y rhai a ymatebodd eu bod yn teimlo'n 'ddiogel iawn' neu'n 'weddol ddiogel' i'r tri chwestiwn eu codio gan yr Arolwg Cenedlaethol fel eu bod yn 'teimlo'n ddiogel'. Mae ffigur Abertawe wedi codi a gostwng mewn arolygon diweddar, ond nid yw wedi newid i raddau helaeth o 2018-19 (61%), er bod cyfyngau hyder o 95% yn 2021-22 yn amrywio o oddeutu 55% i 65%. (DC25)
  • Yn Arolwg Cenedlaethol 2021-22, roedd 59% o bobl 16+ oed yn Abertawe'n cytuno â phob un o'r tri datganiad sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol (Cymru 64%): pobl yn cytuno eu bod yn perthyn i'r ardal; pobl o wahanol ddiwylliannau'n cyd-dynnu'n dda; pobl yn trin ei gilydd â pharch. Ffigur Abertawe yn 2021-22 ar gyfer 'perthyn' oedd 40%, yn is na chyfartaledd Cymru (45%). (DC27)
  • Roedd 29.5% o bobl 16+ oed yn Abertawe'n gwirfoddoli yn 2022-23 (ychydig yn is na'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 29.7%). Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu pobl a ddywedodd eu bod ar hyn o bryd (ar adeg yr arolwg) yn rhoi eu hamser am ddim (yn ffurfiol ac yn anffurfiol) i helpu rhestr o glybiau neu sefydliadau. Mae ffigurau Abertawe a Chymru ychydig yn uwch nag yn arolwg 2019-20, er y dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau ar draws y blynyddoedd oherwydd y modd arolygu a newidiadau sy'n gysylltiedig â'r pandemig. (DC28)
  • Mae'r Arolwg Cenedlaethol hefyd yn cynnwys cyfres o chwe chwestiwn i asesu lefelau unigrwydd, sy'n cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld. Yn seiliedig ar y rhain, canfuwyd bod 11.3% o bobl 16+ oed yn Abertawe (12.6% yng Nghymru) yn unig yn 2022-23.  Roedd canran Abertawe yn 2021-22 yn uwch, sef 14.2%. (DC30)
  • Mae nifer yr aelwydydd lle cafodd digartrefedd ei atal yn llwyddiannus am o leiaf 6 mis, ar gyfradd fesul 10,000 o aelwydydd, hefyd yn ddangosydd cenedlaethol. Yn ystod 2022-23, roedd y gyfradd ar gyfer Abertawe yn 67.1 fesul 10,000 aelwyd, i fyny o 59.3 yn 2020-21.  Yng Nghymru, cododd y gyfradd hon hefyd o 34.8 yn 2020-21 i 39.6 yn 2022-23. (DC34)

Yn ystod y llynedd, cafwyd nifer o gyhoeddiadau gan gyrff cyhoeddus yn ymwneud â'r mesur lles yn lleol yng Nghymru:

  • Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad Llesiant Cymru blynyddol diweddaraf, a oedd yn cynnwys diweddariadau data ar gyfer rhai o'r 50 o Ddangosyddion Cenedlaethol (lle bo hynny'n bosib). Er mai adroddiad 2022 oedd y cyntaf i ystyried y targedau cenedliadol newydd sydd ynghlwm wrth rai o'r dangosyddion, a elwir yn 'gerrig milltir cenedlaethol', roedd adroddiad 2023 yn ehangu ymhellach ar hyn drwy gynnwys yr ail don o gerrig milltir a osodwyd ar ddiwedd 2022.
  • Fel rhan o'r rhaglen Mesur Llesiant Cenedlaethol (MLlC) barhaus, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn parhau i gyhoeddi'r ddogfen Lles Personol yn y DU - sy'n cynnwys amcangyfrifon o foddhad â bywyd, y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil, hapusrwydd a phryder ar lefel y DU i lefel awdurdodau lleol, gan ddefnyddio data o Arolwg Poblogaeth Blynyddol y SYG. Yn 2022-23, mae sgorau cymedrig Abertawe ar gyfer 'boddhad â bywyd' ychydig yn well na chyfartaleddau Cymru a'r DU, ond ychydig yn waeth yn y tri mesur arall. Dros y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, mae sgorau cymedrig (ar gyfartaledd) yn Abertawe wedi dirywio ar gyfer y dangosyddion 'gwerth chweil', 'hapusrwydd' a 'phryder' i raddau mwy nag yn genedlaethol, er bod y gwahaniaethau hyn yn ymylol mewn perthynas â maint yr arolwg sampl a chyfnodau hyder.
  • Mae Mynegai Llefydd Llewyrchus Cymru, a ddatblygwyd ar y cyd gan Centre for Thriving Places a Data Cymru, yn mesur cyffredinrwydd cymharol yr amodau ar gyfer lles ac ansawdd bywyd ar lefel awdurdod lleol yng Nghymru, gan ddefnyddio ystod eang o ddangosyddion (55 ar hyn o bryd) ar draws tri maes lles.  Yn ôl y mynegai diweddaraf (2022), roedd gan Abertawe amodau gwell ar gyfer lles na chyfartaledd Cymru yn y meysydd 'cynaliadwyedd' (yn benodol) a 'chydraddoldeb', ond mae'n waeth na chyfartaledd Cymru yn y maes 'amodau lleol'. 

Cynnydd tuag at ein Hamcanion Lles Lleol

Y Blynyddoedd Cynnar: Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd er mwyn bod y gorau y gallant fod

Mae Cynllun Lles Abertawe'n canolbwyntio ar y Blynyddoedd Cynnar gydag amcan penodol i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, i fod y gorau y gallant fod. Er mwyn cyflawni'r amcan hwnnw, rhaid i wasanaethau ac asiantaethau gydweithio'n dda.  

Roedd buddsoddiad braenaru'r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi galluogi asiantaethau i ddod at ei gilydd a chydweithredu'n weithredol.  Roedd y buddsoddiad yn cefnogi asiantaethau i ddod o hyd i atebion i wella integreiddio, a darparu ymyriad i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn gynt.  Roedd adolygu canlyniadau'r buddsoddiad a nodi gwersi a ddysgwyd yn ffocws allweddol yn ystod 2023/24.  Mae asiantaethau statudol yn Abertawe'n cydnabod bod yn rhaid gwneud gwelliannau yn y maes cydweithio ar lefel strategol dros y 12 mis nesaf.

Mae'r fideo canlynol yn enghraifft o ble y defnyddiwyd buddsoddiad braenaru'r blynyddoedd cynnar mewn gwasanaethau iaith a lleferydd.

Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda: Gwneud Abertawe'n lle gwych i fyw ar bob cam o fywyd

Yn dilyn datganiad Dinas Hawliau Dynol Abertawe yn 2022, ymrwymodd pob partner BGC i greu cynllun gweithredu i gyflawni ein hymrwymiadau i fynd i'r afael â'n blaenoriaethau Dinas Hawliau Dynol. Mae wedi bod yn hanfodol drwy gydol y daith hon i ymgysylltu â'r cyhoedd a chynnwys rhanddeiliaid. Nid oedd hyn yn wahanol pan oeddem yn datblygu ein cynlluniau gweithredu.

Ym mis Mehefin 2023, cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â'r cynllun gweithredu. Roedd hyn yn cynnwys rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd yn dod at ei gilydd i glywed beth yw eu materion, a pha gamau gweithredu posib y gellir eu cymryd ar gyfer ein blaenoriaethau. Mae pob sefydliad BGC wedi defnyddio ac ystyried yr wybodaeth hon i lywio ei ymrwymiadau ei hun.

Ym mis Rhagfyr 2023, fel Cyngor lansiwyd ein hymrwymiadau Dinas Hawliau Dynol. Gwnaethom hefyd lansio proses gofrestru gan ddefnyddio ffurflen we ar-lein i aelodau'r cyhoedd ymuno â'n panel Rhanddeiliaid. Er mwyn gwella'n hymrwymiadau Hawliau Dynol a'n rhwymedigaethau cyfreithiol o fewn y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, crëwyd cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol am y tro cyntaf ar gyfer 2024-28. Cafodd y cynllun hwn ei gyhoeddi ym mis Ebrill eleni.

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i gynyddu ymwybyddiaeth o Hawliau Dynol i'r cyhoedd a sefydliadau drwy ddosbarthu canllawiau sy'n hysbysu'r cyhoedd am eu Hawliau Dynol, a chanllaw i sefydliadau. Buom yn gweithio gyda Sefydliad Hawliau Dynol Prydain i ddarparu pecyn hyfforddi pwrpasol sy'n egluro beth yw dull sy'n seiliedig ar Hawliau Dynol, a sut i roi dull o'r fath ar waith mewn gwasanaethau a sefydliadau. Roedd yr hyfforddiant hwn ar gyfer cynghorwyr, uwch-reolwyr ac ysgrifenwyr polisi ar draws y Cyngor a'n partneriaid BGC. Ym mis Rhagfyr 2023, cynhaliodd Prifysgol Abertawe ddarlith agoriadol a gyflwynwyd gan Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS i nodi Diwrnod Hawliau Dynol. Cynhaliwyd gweithdy hefyd ar gyfer sefydliadau ar draws Abertawe ar ddull sy'n seiliedig ar Hawliau Dynol.

Ym mis Chwefror 2024, gwahoddwyd Cyngor Abertawe i fynychu cynhadledd UNESCO fyd-eang ar Hawliau Dynol ar lefel leol a chyflwyno ynddi. Gwnaethom gyfraniad ysgrifenedig yn eu cyfres a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gynhadledd ar ein gwaith fel Dinas Hawliau Dynol, gyda ffocws ar atebolrwydd o fewn cynlluniau gweithredu Dinas Hawliau Dynol. Roedd yn gyfle gwych i arddangos ein gwaith, ac yn destament i'r ymdrech yr ydym wedi'i gwneud fel partneriaid i wireddu ein huchelgais o fod yn Ddinas Hawliau Dynol.

Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur: Adfer a gwella bioamrywiaeth, mynd i'r afael â'r achosion a lleihau effaith newid yn yr hinsawdd

Cynhaliodd grŵp cyflawni cam 3 arolwg o sefydliadau partner i sefydlu pa drefniadau sydd ganddynt ar waith i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur. Y nod oedd helpu i wella dealltwriaeth o bwy sy'n gwneud beth ar draws Abertawe er mwyn cefnogi dull mwy cydlynol a chydlynus o sicrhau trosglwyddiad cyfiawn a theg i sero net erbyn 2050. Y bwriad yw defnyddio'r canfyddiadau i rannu arferion da ac arloesi, helpu i feithrin gallu, a nodi bylchau a chyfleoedd ar gyfer cydweithio.

Roedd yr arolwg, a luniwyd o gwmpas 12 thema, yn gofyn i ymatebwyr amlinellu polisïau a strategaethau presennol, prosiectau cyfredol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol sy'n gysylltiedig â phob thema, a'r heriau maent yn eu hwynebu. Roedd yr ymatebion yn dangos enghreifftiau o arfer da a chamau gweithredu arloesol ar draws sawl thema, y gellid eu defnyddio i ysbrydoli gweithredu gan eraill, ac mae sgoriau hunanasesu yn awgrymu lefel uwch o weithgarwch a hyder mewn perthynas â'r themâu Adfer Natur, Cynhyrchu Ynni, a Thrafnidiaeth a Theithio.

Bydd y gwaith Addasu a Lliniaru yn dod i ben ym mis Rhagfyr, felly mae'r gwaith yn parhau tan hynny, gyda gweithdai'n cael eu hamserlennu ar gyfer diwedd Mai i 24 Mehefin. Bydd y strategaeth yn nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweithredu ac o hyn bydd cynllun gweithredu llawn yn cael ei lunio gan Lofnodwyr, gydag amserlenni, aelodau arweiniol etc. ar gyfer y gwahanol agweddau ar waith ar gyfer 2050 a nodwyd gan Gymru Sero Net a'r Fframwaith Addasu. Mae/bydd y mapio'n helpu i lywio'r bylchau ac fe'i defnyddir gan y contractwyr i gael darlun gwell o bartneriaid allweddol y Grŵp Llofnodwyr.

Cymunedau Cryfach: Adeiladu cymunedau cydlynus a chadarn a chanddynt ymdeimlad o falchder a pherthyn

Rydym am wneud Abertawe'n lle bywiog, cynhwysol a chroesawgar lle mae gan bawb fynediad cyfartal at gyfleoedd ac maent yn teimlo'n wirioneddol falch o fyw, gweithio a chwarae yn Abertawe.

I gyflawni hyn, mae angen i ni ddatblygu ardal lle mae pobl yn perthyn, yn teimlo'n ddiogel a lle gwerthfawrogir cefndiroedd ac amgylchiadau pobl. Bydd gweithio gyda'n gilydd i ddeall materion unigol a chymunedol yn helpu i lunio atebion sy'n seiliedig ar brofiad byw ac adeiladu cymunedau cydlynus a chadarn, a chanddynt ymdeimlad o falchder a pherthyn.

Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyflawni cyfres o gamau gweithredu i'n helpu i gyflawni ein nod, sef adeiladu cymunedau cydlynus a chadarn, a chanddynt ymdeimlad o falchder a pherthyn.

Cynhaliwyd digwyddiad diogelwch cymunedol yn y pentref fel rhan o'r Her Diffoddwyr Tân Cymru ddydd Sadwrn, 3 Mehefin yn Stryd Rhydychen, Abertawe, a oedd yn gyfle i ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd ar amrywiaeth o faterion. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad ac o ganlyniad gwnaed tua 55 o atgyfeiriadau am ymweliad Diogelwch Tân yn y Cartref, a thua 130 o geisiadau i ymgysylltu â theuluoedd.

Ar 17 Hydref, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddigwyddiad 'Cerdded yn ein Hesgidiau', a oedd yn ceisio ehangu ymwybyddiaeth o waith partneriaid a gwella rhwydweithiau, yn enwedig ymysg y rheini sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â'n cymunedau. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar 3 phrif faes, sef ymateb gweithredol; diogelwch cymunedol; ac amddiffyniad yn yr amgylchedd adeiledig. Mynychwyd y digwyddiad gan sefydliadau partner ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o drawstoriad da o rolau, gan gynnwys Ecolegwyr, Swyddogion Cadwraeth, Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd, Arweinwyr Tîm Rheoli Adeiladu, Syrfëwyr Rheoli Risg a chydlynwyr Diogelwch Cymunedol.   

Yn olaf, cynhaliwyd digwyddiad diogelu yn stadiwm Swansea.com, yn ystod wythnos genedlaethol diogelu ym mis Tachwedd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys prif siaradwyr a gweithdai rhyngweithiol, a daeth ystod amrywiol o sefydliadau ynghyd i drafod ffyrdd o wella diogelu ar draws Abertawe, drwy rannu syniadau, hyrwyddo arferion gorau, a nodi ffyrdd newydd o gydweithio i wneud y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu'n fwy diogel.

Mae gwaith yn datblygu'n dda, a gobeithio y gallwch weld y newid yn eich cymunedau dros y blynyddoedd nesaf.

Datblygu Cynnig Diwylliannol Integredig Abertawe

Mae cyflwyno'r Strategaeth Ddiwylliannol Integredig yn cael ei gynorthwyo gan gyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth. Mae hyn wedi galluogi nifer o staff i ymgymryd â'r dasg o raglennu newydd a dod â rhwydwaith creadigol a chyfleoedd cydweithio ynghyd yn ogystal ag ymgynghori ar gyfer ymgysylltu a chyflwyno Strategaeth Ddiwylliannol.  Darn allweddol arall o waith yw adroddiad dadansoddi sector i ddeall anghenion sectorau creadigol a diwylliannol Abertawe, gyda'r nod o feithrin twf cynaliadwy ar gyfer lles cymunedol a ffyniant economaidd.

Mae Swyddog Marchnata Twristiaeth Ddiwylliannol hefyd wedi'i benodi i hyrwyddo amrywiaeth y cynnig drwy gydol y flwyddyn i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr o fewn 90 munud mewn car, a bydd Swyddog Cerdd yn creu cyfleoedd i berfformio mewn digwyddiadau mawr ledled Abertawe.

Mae'r Cytundeb Partneriaeth rhwng Cyngor Abertawe a Chwaraeon Cymru yn hanfodol i gyflawni ein cynllun strategol ar gyfer chwaraeon ac iechyd - "Creu Abertawe Actif"; cyflawni canlyniadau penodol yn erbyn ein nodau sef "Datblygu Isadeiledd Chwaraeon", "Datblygu Cymunedau", "Datblygu Dysgu Gydol Oes a Sgiliau" a "Mynd i'r afael ag Anghydraddoldebau Iechyd".

Mae'r asesiad hyd yma yn dangos bod yr holl dargedau yn y cynllun wedi cael eu cyflawni neu y byddant yn cael eu cyflawni; gyda rhai yn cael eu rhagori arnynt ac yn cael eu nodi fel arfer da. Mae'r rhain yn cynnwys ehangu ein prosiect ymgysylltu â merched, "Us Girls"; cynyddu cyfranogiad yn ein prosiect cynhwysiant "Chwaraeon Stryd Abertawe" ac am y tro cyntaf, darparu'r rhaglen weithgareddau genedlaethol "60+" yn lleol, mewn partneriaeth â Freedom Leisure.

Mae enghreifftiau o'n gweithgareddau a'n deunydd marchnata isod:

Celfyddydau a Diwylliant

Lles y Gaeaf

Saffari'r Gwanwyn Iolo

Lle Hapus

Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill a'u cysylltu ar draws rhanbarth Bae Abertawe.

Mae partneriaethau effeithiol, megis y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), yn gofyn am gylch gorchwyl diffiniedig a llinellau atebolrwydd clir. Mae hyn yn golygu osgoi gorniferoedd gyda phartneriaethau eraill a nodi bylchau yn nhirwedd y bartneriaeth sy'n berthnasol i waith y BGC.

Mae nifer o wasanaethau cyhoeddus a phartneriaid trydydd sector yn cymryd rhan mewn cydweithrediadau amrywiol, gan fynd i'r afael ag ystod eang o faterion. Er mwyn hwyluso cydlynu, mae'r BGC wedi llunio cofrestr o bartneriaethau lleol sy'n gysylltiedig â'i waith ac wedi mapio'u cysylltiadau. Drwy fanteisio ar y map hwn, nod y BGC yw symleiddio ac alinio'i ymdrechion o fewn cyd-destun ehangach y bartneriaeth. Y nod yw gwella effeithlonrwydd, lleihau dyblygu, a mynd i'r afael ag unrhyw fylchau.

Mae'r BGC wedi casglu gwybodaeth yn ddiwyd am wahanol bartneriaethau yn Abertawe, gan gynnwys manylion fel cylch gorchwyl, amlder cyfarfodydd, ac aelodaeth. Dros amser, bydd y map hwn yn cael ei fireinio a'i ddiweddaru. Yn ogystal, mae'n gwasanaethu fel adnodd gwerthfawr pan fydd Cadeirydd y BGC yn ymgysylltu ag arweinwyr partneriaeth eraill. Mae'r rhyngweithiadau hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio, a fydd o fudd i genhadaeth y BGC yn y pen draw.

Gwella ansawdd data a hygyrchedd ar draws rhanbarth Bae Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, CNPT a phartneriaid BGC eraill yn cydweithio o fewn grŵp data rhanbarthol. Eu pwrpas yw nodi bylchau a chyfleoedd ar gyfer rhannu data, yn ogystal â gwella aliniad rhwng Asesiadau Anghenion y Boblogaeth ac Asesiadau Lles.

Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar ofynion asesu presennol ac yn y dyfodol, gyda'r nod o nodi cyffredinedd a bylchau mewn data. Maent hefyd yn archwilio ffynonellau gwybodaeth i gau'r bylchau hyn. Fel rhan o'r ymdrech hon, mae partneriaid yn ymchwilio ac yn diffinio mesurau poblogaeth ar y cyd, sydd wedyn yn cael eu mapio yn erbyn amcanion lles ac ysgogwyr. Mae'r data hwn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer asesiadau poblogaeth a llesiant yn y dyfodol, gan ganiatáu i ni werthuso'r cynnydd tuag at ein hamcanion lles.

Mae meini prawf drafft ar gyfer dewis dangosyddion wedi'u datblygu a'u rhannu â phartneriaid ar gyfer ymgynghori. Yn arbennig, mae safbwyntiau dinasyddion yn chwarae rôl ganolog mewn asesiadau lles. Mae data a mewnwelediadau a gasglwyd drwy ymgysylltu â dinasyddion a'r gymuned yn ategu manylion ystadegol, gan ddarparu adlewyrchiad mwy sylfaenol o realiti.

Ar ben hynny, mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â datblygiad y Strategaeth Iechyd Poblogaethau ar gyfer y rhanbarth. Fel rhan o reoli data, mae'r posibilrwydd o greu 'llyn data' ar gyfer cynnal a chadw a rhannu data'n well yn cael ei ystyried. Er bod cynlluniau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer pyrth data BGC drwy Data Cymru wedi'u gohirio ar hyn o bryd, cymerodd cynrychiolydd o Data Cymru ran yn un o'n cyfarfodydd yn ddiweddar. Rydym yn archwilio'r potensial ar gyfer porth data rhanbarthol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe sy'n mesur ac yn monitro cynnydd y BGC.

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wedi bod yn gweithio i lunio fframwaith rheoli perfformiad, ynghyd â set gynhwysfawr o fesurau canlyniadau ar lefel y boblogaeth a'u protocolau monitro cysylltiedig.

Mae'r fframwaith yn cynnwys cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn cwmpasu tasgau penodol, canlyniadau a fwriadwyd, cerrig milltir allweddol, a meini prawf llwyddiant. Yn bwysig, mae'r cynllun gweithredu'n cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd bob blwyddyn.

Yn ogystal, bydd y fframwaith yn ymgorffori mesurau canlyniadau ar lefel y boblogaeth a threfniadau monitro cyfatebol. Mae ein hymdrechion parhaus yn cynnwys mapio ac ymchwilio i fetrigau poblogaeth posib yn erbyn amcanion a gyrwyr Cynllun Llesiant y BGC. Fel y soniwyd yn gynharach, rydym wedi sefydlu meini prawf ar gyfer dewis dangosyddion perthnasol.

Er mwyn gwella hygyrchedd ac ymgysylltu, rydym hefyd wedi cynhyrchu fideo fel cyfrwng amgen ar gyfer cyflwyno adroddiad BGC blynyddol eleni. Gobeithiwn y bydd yr atodiad fideo hwn yn cyrraedd cynulleidfa ehangach ochr yn ochr â'r adroddiad ysgrifenedig traddodiadol.

Casgliad

Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i ni ddod ynghyd, cysylltu â'n gilydd a deall yr adnoddau sydd gennym yma yn Abertawe. Mae pob aelod o'r BGC wedi dangos parodrwydd i gydweithio gyda'i gilydd, i fod yn gryfach, yn fwy gwydn a chysylltu'n well.

Mae cynnal cyfathrebu a chydberthnasau effeithiol wedi bod yn hanfodol. Mae wedi bod yn bwysig defnyddio'n perthnasoedd a'r rhwydweithiau a ddatblygwyd gennym dros y blynyddoedd diwethaf, a manteisio ar wybodaeth a phrofiad ein gilydd.  Mae wedi bod yn hanfodol i'n holl sefydliadau gwahanol ddod at ei gilydd i helpu a chefnogi ei gilydd.  

Mae aelodau/rhanddeiliaid y BGC yn gryfach gyda'i gilydd a rhaid inni beidio â cholli golwg ar faint y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd.

Ein Camau Nesaf

Mae cryfderau BGC Abertawe o fewn arbenigedd, profiad a brwdfrydedd ei bartneriaid, o staff rheng flaen sy'n gweithio i gyflawni'r Amcanion Lles Lleol i'r cynrychiolwyr arweinyddiaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella lles Abertawe'n strategol.

Bydd caledi ac ansicrwydd parhaus yn parhau i fod yn her i'n sefydliadau wrth symud ymlaen.

Mae'r camau nesaf ar gyfer y BGC yn cynnwys:
Camau o fewn Cynllun y BGCCam Gweithredu 2024/25Cam Gweithredu 2024/25
Cefnogi trawsnewid Gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar yn Abertawe i ddarparu cefnogaeth well i blant er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyntCytuno ar gyfres o Egwyddorion Strategol rhanbarthol ar gyfer Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar sy'n cael ei chymeradwyo gan bob asiantaethCwblhau Llwybr Blynyddoedd Cynnar ar gyfer y rhanbarth, a'i ddefnyddio fel mecanwaith i lywio cynllunio strategol gwasanaethau
Adeiladu ar ddatganiad Abertawe yn 2022 o fod yn Ddinas Hawliau DynolCyflawni'r ymrwymiadau a wnaed gan bartneriaid y BGC yn ein cynlluniau Dinas Hawliau DynolMonitro a chynyddu ymwybyddiaeth ac effaith gwaith Dinas Hawliau Dynol drwy gynhyrchu cylchlythyr bob dwy flynedd, arolwg blynyddol a phanel rhanddeiliaid.
Gweithio tuag at darged sero net Abertawe ac adfer naturCynhyrchu strategaeth addasu a lliniaru annibynnol ar gyfer dinas a sir Abertawe, gan ystyried y saith nod llesiant a swyddogaethau a chyfrifoldebau statudol y llofnodwyr Newid Hinsawdd.Gan ddefnyddio canlyniadau o ymarfer mapio 2023-24 a gweithdai contract A&M (Mai-Gorffennaf) yn ogystal â thrafodaethau parhaus y grŵp Llofnodwyr, cynllunio a chyflawni gweithgaredd i rannu arfer da ac arloesi, a datblygu dulliau cydweithio gwell tuag at Sero Net 2050.
Gwneud Abertawe'n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy ffyniannusGan adeiladu ar lwyddiant digwyddiad y llynedd, cynnal 'pentref cymunedol' arall fel rhan o ddigwyddiad Her Diffoddwyr Tân Cymru a gynhelir yng Ngerddi'r Castell, Abertawe ar 1 Mehefin.Cynnal gweithdy atal targedu - gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu'n cymunedau,  ddydd Mercher 20 Tachwedd yn stadiwm Swansea.com i rannu negeseuon allweddol a chyfleoedd dysgu rhwng asiantaethau partner, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymarferwyr o sefydliadau unigol.
Datblygu Cynnig Diwylliannol Integredig AbertaweSefydlu Rhwydwaith Abertawe Greadigol i gefnogi a helpu i gynnal yr ecoleg a'r economi ddiwylliannol a chreadigol, a thrwy hynny alluogi ymarferwyr diwylliannol a chreadigol i ymateb yn effeithiol i fentrau sy'n hyrwyddo iechyd, cydlyniant cymunedol, balchder dinesig a ffyniant economaidd.

Cyd-greu strategaeth ddiwylliannol ar gyfer Abertawe, gyda phartneriaid traws-sector ac arweinwyr cymunedol sy'n cyflwyno fframwaith strategol sy'n alinio amcanion a phartneriaethau chwaraeon, diwylliant a thwristiaeth i alluogi cynnig integredig.

Gyda'r newid llywodraethu arfaethedig yn y ffordd y mae Chwaraeon Cymru'n darparu cyllid, gan symud tuag at fodel partneriaeth ranbarthol yn 2025-26, mae'n debygol y bydd gan adroddiad y BGC drwy gydol 2024-25 nifer o gamau sy'n gysylltiedig â'r canlyniad hwn.

Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill a'u cysylltu ar draws rhanbarth Bae Abertawe.Rhoi'r canfyddiadau ar waith er mwyn mapio tirwedd partneriaeth rhanbarth Bae Abertawe
Gwella ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae AbertaweGweithio gyda phartneriaid a chysylltu â datblygiadau cenedlaethol i ddatblygu porth data digidol ar gyfer partneriaethau ar draws rhanbarth Bae Abertawe.
Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe sy'n mesur ac yn monitro cynnydd y BGCSefydlu'r mecanweithiau ar gyfer rhoi gwybod am fesurau canlyniadau lefel poblogaeth y BGC i'r BGC.

Sut gallwch gymryd rhan

Mae'r gwaith a wneir gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wedi'i gyhoeddi ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/bgc.  

Cynhelir ein cyfarfodydd BGC Abertawe yn gyhoeddus a gwahoddir cwestiynau gan y cyhoedd drwy eitem agenda sefydlog sef Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gallwch hefyd gysylltu'n uniongyrchol â Chydlynydd y BGC drwy e-bost yn swansea.psb@abertawe.gov.uk

Rydym yn croesawu'ch cyfranogaeth, eich syniadau a'ch awgrymiadau ym mhob agwedd ar ein gwaith fel y gallem ystyried y rhain ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Gorffenaf 2024