Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn bartneriaeth o asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau lleol.
Pedwar aelod statudol y Bwrdd yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyngor Abertawe. Fe'i cefnogir gan Ddinas a Sir Abertawe ac mae hefyd yn cynnwys darparwyr gwasanaethau pwysig eraill; er enghraifft, yr heddlu a'r prifysgolion.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob ardal cyngor lleol yng Nghymru fod â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) sydd â'r nod o gydweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Nodir y gofyniad hwn yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'n ofyniad i bob BGC gynnal asesiad o les er mwyn deall lefelau lles presennol a'r hyn sy'n bwysig i'r rhan fwyaf o gymunedau lleol a llunio Cynllun Lles Lleol er mwyn gwella lles. Cynhaliodd y Bwrdd ei ail Asesiad o Les Lleol ar gyfer Abertawe yn 2022.
Roedd y sylfaen dystiolaeth yn yr asesiad hwn, ynghyd â barn dinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau, staff, arweinwyr a rhanddeiliaid, wedi llywio datblygiad ail Cynllun Llesiant Lleol Abertawe yn 2023.
Amlinellir gweithgareddau'r Bwrdd ers cymeradwyo Cynllun Lles Abertawe mewn adroddiad blynyddol, a gyhoeddir cyn gynted â phosib ar ôl mis Mawrth bob blwyddyn.