Gwasanaeth Larymau Cymunedo I (Lifeline) - amodau a thelerau gwasanaeth
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr amodau a'r telerau a osodir gan y Gwasanaeth Larymau Cymunedol.
1. Telerau talu
Mae'r tâl blynyddol cyfredol isod yn berthnasol o fis Ebrill 2025.
£187.26 ac eithrio TAW.
£224.71 gan gynnwys TAW.
Bydd eich anfoneb yn cynnwys TAW yn awtomatig os nad ydych yn cwblhau'r 'datganiad eithriad TAW' wrth wneud cais.
Mae dau gategori gwahanol o gymorth TAW. Cwblhewch os yw'n berthnasol.
- Pobl sy'n derbyn pecyn gofal a aseswyd e.e. cyfarpar ysbyty neu'n derbyn gofal cartref.
- Pobl â salwch neu anabledd cronig.
Mae'r tâl blynyddol uchod yn ddilys o ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn ac mae'n destun adolygiad blynyddol a all arwain at gynnydd yn y ffi flynyddol gyfredol a godir.
Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i amrywio'r fath daliadau drwy adolygiad blynyddol a chydag o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig.
Cyflwynir un anfoneb y flwyddyn. Gellir casglu hon mewn 10 taliad misol neu mewn un taliad blynyddol.
Bydd yr anfoneb flynyddol yn rhedeg yn unol â'r flwyddyn ariannol o ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn.
Bydd gofyn i danysgrifwyr newydd wneud taliad cychwynnol o flaen llaw ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a fydd os caiff ei godi o fewn y flwyddyn ariannol, yn un pro rata tan ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Gall hyn olygu y bydd anfonebau blynyddoedd dilynol ychydig yn uwch.
Rhaid cwblhau'r mandad debyd uniongyrchol atodedig a'i ddychwelyd i'r cyfeiriad ar y mandad. Os na allwch dalu drwy ddebyd uniongyrchol, mae dulliau talu eraill ar gael a byddwch yn derbyn anfoneb sy'n gofyn am dâl llawn. Gellir gofyn am gynlluniau talu amgen unwaith eich bod wedi derbyn eich anfoneb drwy ffonio'r.
Adran Cyfrifon Derbynadwy ar: 01792 635847
Bydd taliadau'n berthnasol nes i chi ddychwelyd eich cyfarpar. D.S. Eich cyfrifoldeb chi yw cael derbynneb am ddychwelyd eich cyfarpar oherwydd caiff unrhyw gyfarpar heb ei ddychwelyd neu heb ei dderbynebu ei anfonebu ar y tâl blynyddol presennol. Fe'ch cynghorwn yn gryf i hysbysu'ch perthynas agosaf o'r wybodaeth hon fel ei fod yn ymwybodol o'r angen i ddychwelyd y cyfarpar i ddychwelyd y cyfarpar ar eich rhan os na allwch ei ddychwelyd eich hun.
Ni fyddwn yn caniatâu unrhyw daliadau gwasanaeth sydd heb eu talu.
2. Peidio â thalu am wasanaeth
Gwneir pob ymdrech i gysylltu â'r tanysgrifiwr er mwyn gwneud trefniadau addas i dalur anfoneb.
Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i dynnu'r gwasanaeth a ddarperir yn ôl os nad yw anfoneb wedi'i thalu'n llawn, neu os cytunwyd ar ddull talu amgen h.y. trwy ddebyd uniongyrchol o fewn 3 mis i gyflwyno'r anfoneb. Bydd hyn yn arwain at gymryd y camau canlynol:
- Gwneir pob ymdrech gan Gyngor Abertawe i gysylltu â'r tanysgrifiwr i drafod unrhyw broblemau talu.
- Bydd yr hwb yn cael ei ddatgysylltu o bell i'r ganolfan fonitro ac ni fydd unrhyw larymau a seinir yn cael eu derbyn ac nid ymatebir iddynt.
- Bydd Cyngor Abertawe yn cysylltu â'r tanysgrifiwr i drafod dychwelyd y cyfarpar.
- Os na ellir gwneud trefniant i gasglu'r gyfarpar, rhoddir anfoneb tâl am beidio â dychwelyd cyfarpar am werth y cyfarpar.
- Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i gyfeirio unrhyw achos o beidio â thalu i'n hadran gyfreithiol er mwyn adennill y ddyled heb ei thalu.
3. Gosod
Gwneir yr holl waith gosod yn ystod ein horiau gwaith arferol sef o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 4.00pm, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.
Cyfrifoldeb y tanysgrifiwr yw caniatâu i'n staff dynodedig ddod i mewn i'r eiddo ar amser a dyddiad y cytunwyd arnynt ymlaen llaw at ddiben gosod y cyfarpar.
Bydd angen talu tâl gosod untro cyn i'r gwaith gosod ddechrau.
Mae'r tâl gosod presennol isod yn gymwys o fis Ebrill 2025.
- £40.00 ac eithio TAW
- £48.00 gan gynnwys TAW
Mae'r tâl gosod uchod yn ddilys o ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn ac mae'n destun adolygiad blynyddol fel a nodir ym Mholisi Codi Tâl cytunedig y cyngor. Gall hyn arwain at gynnydd yn y ffi a godir am osod cyfarpar.
Ni fydd y peiriannydd yn derbyn unrhyw daliad am y gwaith gosod, neu unrhyw daliadau gwasanaeth pan fydd ar y safle'n gosod eich cyfarpar.
Bydd yr holl gyfarpar yn cael ei osod yn unol â'r disgrifiad a geir yn y manylebau a ddarperir gan y cyflenwr.
Gwneir y gwaith gosod yn ystod ein horiau gwaith arferol sef o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 4.00pm, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.
Trefnir y gwaith gosod i gyd-fynd ag amser a dyddiad sy'n gyfleus i'r tanysgrifiwr.
Lle bo'n berthnasol, bydd angen i gyswllt enwebedig fod yn bresennol pan fydd y cyfarpar yn cael ei osod.
Ni ellir gwerthu'r eitem(au) a osodir a bydd(ant) yn parhau'n eiddo i gyngor Abertawe.
Pan gaiff y gwaith gosod ei orffen, byddwn yn eich gwahodd i archwilio'r gosodiad ac yn gofyn i chi lofnodi datganiad cwblhau sy'n dangos bod y gwaith gosod wedi'i gwblhau'n foddhaol.
Cyfrifoldeb y tanysgrifiwr yw peidio â symud y cyfarpar yn ei gartref unwaith y mae'r gwaith gosod wedi'i gwblhau. Ni fydd Cyngor Abertawe'n gyfrifol am unrhyw fethiannau i'r gwasanaeth yn sgîl symud cyfarpar.
4. Cynnal a chadw a monitro
Caiff yr holl waith cynnal a chadw ac atgyweirio ei wneud yn ystod oriau gwaith arferol sef o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 4.00pm, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.
Er ein bod yn darparu gwasanaeth monitro 24/7 awr ar gyfer pob galwad a sbardunir, nid ydym yn darparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw 24 awr, a bydd pob galwad cynnal a chadw yn cael ei dderbyn yn ystod oriau gwaith arferol fel a nodir uchod.
Cyfrifoldeb y tanysgrifiwr yw caniatâu i'n staff dynodedig fynd i mewn i'r eiddo ar amser a dyddiad y cytunwyd arnynt ymlaen llaw at ddiben archwilio neu atgyweirio unrhyw gyfarpar neu fynd ag ef ymaith.
Ni chodir tâl am fatris newydd yn ystod ymweliadau cynnal a chadw / atgyweirio.
Ni fydd Cyngor Abertawe'n atebol am unrhyw fethiant i'r cyfarpar o ganlyniad i beidio â defnyddio na phrofi'r cyfarpar yn unol â defnyddio na phrofi'r cyfarpar yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddwyd.
Ni fydd Cyngor Abertawe'n gyfrifol am unrhyw oediadau, methiannau danfon neu unrhyw golled neu ddifrod arall sy'n deillio o drosglwyddo data dros rwydweithiau a chyfleusterau cyfathrebu, gan gynnwys y rhyngrwyd, ac mae'r tanysgrifiwr yn cydnabod bod y gwasanaeth a ddarperir yn detun cyfyngiadau, oediadau a phroblemau eraill a all ddigwydd wrth ddefnyddio'r fath gyfleusterau cyfathrebu (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fethiant mast darparwr y rhwydwaith).
Ni fydd Cyngor Abertawe'n gyfrifol am unrhyw ddiffygion, methiannau, difrod neu gyfyngiadau perfformiad a achosir yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan:
- fethiannau neu ymchwyddau pŵer, tanau, llifogydd, eira, iâ, mellt, gwres neu oerfel gormodol, amgylcheddau hynod gyrydol, damweiniau, gweithredoedd trydydd partïon neu ddigwyddiadau eraill nad oes modd i ni eu rheoli.
- y tanysgrifiwr yn camddefnyddio, cam-drafod, esgeuluso, storio, trin neu weithredu'r cyfarpar yn amhriodol, neu ymdrechion anawdurdodedig y tanysgrifiwr i atgyweirio neu newid y cyfarpar mewn unrhyw ffordd.
- defnydd y tanysgrifiwr o gerdyn SIM nad ydyw wedi'i ddarparu gan Gyngor Abertawe i'w ddefnyddio gyda Hwb Clyfar.
Rhaid bod gan ddyfais llinell fywyd symudol fynediad at rwydwaith cellog i gyfathrebu, a rhaid bod rhwydwaith lloeren System Lleoli Fyd-eang (PGS) ar gael i bennu ei leoliad. Felly, ni fydd Cyngor Abertawe yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw ddifrod, colled neu anaf y gallech ei ddioddef neu fynd iddo mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant i'ch dyfais llinell fywyd symudol ohrwydd y canlynol:
- Defnyddio'r cyfarpar yn anghywir
- Cwymp na sylwyd arno
- Nid oes lloerennau GPS ar gael
- Dim darpariaeth gan y rhwydwaith cellog neu'r darparwr telathrebu os yw wedi'i gosod, neu os oes methiant trawsyrru
- Defnyddio'r cyfarpar dramor - gellir defnyddio'r ddyfais llinell fywyd symudol yn y DU yn unig
- Nid yw'r gwasanaeth mapio lleoliad a ddefnyddir gan y darparwr ar gael
- Mae pellter neu ymyriant amledd radio wedi effeithio ar y cyfathrebu rhwng y llinell fywyd symudol ac uned sefydlog y llinell fywyd symudol.
5. Rhwymedigaethau'r tanysgrifiwr
Dylai'r cyfarpar gael ei ddefnyddio'n unol â'r cyfarwyddiadau a roddwyd.
Mae'n rhaid i'r tanysgrifiwr sicrhau bod yr uned llinell fywyd wedi'i chysylltu â phŵer y prif gyflenwad ar bob adeg. Gall methu gwneud hyn olygu na fydd eich llinell fywyd yn gweithio os bydd argyfwng.
Fel arfer, bydd eich uned llinell fywyd yn defnyddio 3 Watt o bŵer y funud, felly, gan ddibynnu ar eich tariff ynni, ni ddylai eich costau trydan fod yn fwy na 3c am gyfnod o 24 awr. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'ch darparwr ynni am ragor o fanylion.
Mae'r tanysgrifiwr yn gyfrifol am y taliadau trydan a geir o ddefnyddio'r cyfarpar ac am ei yswirio.
Mae'n rhaid i'r tanysgrifiwr sicrhau bod o leiaf un cyswllt enwebedig yn cael ei ddarparu er mwyn bwrw ymlaen â'r cais. Os na ddarperir o leiaf un cyswllt bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Pan fydd galwad larwm yn cael ei wneud, cysylltir â'ch cyswllt/cysylltiadau enwebedig. Sicrhewch fod eich cysylltiadau'n ymwybodol o hyn ac yn deall eu cyfrifoldeb i ymateb.
Mae'n rhaid i'r tanysgrifiwr sicrhau bod o leiaf un cyswllt ar gael i ymateb i alwad larwm ar bob adeg.
Os na fydd modd cysylltu â'ch cyswllt/cysylltiadau enwebedig, bydd y ganolfan fonitro'n cysylltu â'r gwasanaethau brys gan gynnwys yr heddlu a fydd efallai, os yw'n briodol, yn mynd i mewn i'r eiddo trwy rym i sicrhau diogelwch a lles y tanysgrifiwr. Y tanysgrifiwr fydd yn gyfrifol am adfer unrhyw ddifrod a achoswyd.
Cyfrifoldeb y tanysgrifiwr yw dweud wrth Wasanaeth Larymau Cymunedol Cyngor Abertawe am unrhyw un o'r newidiadau canlynol:
- Newidiadau i unrhyw fanylion gwybodaeth bersonol
- Newidiadau i unrhyw fanylion meddygol gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer ei feddyg.
- Newidiadau i'r cyswllt enwebedig/wybodaeth am y deiliad allwedd.
- Newidiadau i'w ddarparwr ffôn.
- Bwriad i symud cartref neu i gyfeiriad arall
- Bwriad i fod yn absennol e.e. gwyliau neu seibiant
Mae'r tanysgrifiwr yn gyfrifol am sicrhau bod y Gwasanaeth Larymau Cymunedol yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw newidiadau i'w ddarparwr ffôn, gan gynnwys unrhyw newidiadau sy'n gymwys ar gyfer y newid i ddigidol, er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth.
Mae'r tanysgrifiwr yn gyfrifol am sicrhau bod galwad prawf llwyddiannus yn cael ei gwblhau wrth newid darparwr ffôn i sicrhau parhad y gwasanaeth.
Mae'n rhaid i'r tanysgrifiwr brofi ei dlws crog unwaith y mis.
6. Dychwelyd cyfarpar
Ffoniwch Wasanaeth Larymau Cymunedol Cyngor Abertawe ar 01792 648999 os nad ydych am barhau â'r gwasanaeth mwyach i drefnu bod unrhyw gyfarpar yn cael ei gasglu / ddychwelyd.
7. Diogelu data
Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth i gyflwyno'r gwasanaeth a geisiwyd gennych, ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Bydd eich data'n cael ei rannu â Llesiant Delta, ein canolfan fonitro, Tunstall Healthcare a llwyfan monitro Chiptech Go yn ogystal â'r gwasanaethau brys yn ôl y galw.
Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd corfforaethol ar ein gwefan yn Privacy notice.