Toglo gwelededd dewislen symudol

Larymau cymunedol (lifelines)

Mae larymau cymunedol (lifelines) yn darparu cyswllt ffôn mewn argyfwng i bobl hyn ac anabl.

Mae'r larwm yn galluogi unigolyn i gysylltu â'r gwasanaethau meddygol a brys yn gyflym ac yn ddibynadwy, hyd yn oed os nad yw'n gallu cyrraedd y ffôn neu'n methu siarad.

Bydd uned larwm cymunedol yn cael ei gosod yng nghartref defnyddwyr y gwasanaeth a bydd larwm yn cael ei seinio drwy'r uned cartref. Mae'r uned hon yn defnyddio sim symudol ac mae'r larwm yn cael ei weithredu gan dlws crog sy'n cael ei wisgo o am gylch y gwddf neu wedi'i glymu i'r dillad.

Os yw'r defnyddiwr yn disgyn neu y mae angen help arno, gall wasgu'r botwm ar y tlws crog. Mae'n anfon signal drwy'r uned cartref sy'n cysylltu â Chanolfan Reoli'r Gwasnaaeth Lanwm Cymunedol sy'n weithredol 24 awr y dydd, 365 niwrnod y flwyddyn.

Mae'n anfon signal i'r ffôn sy'n cysylltu â Chanolfan Reoli'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol, lle mae rhywun ar ddyletswydd 24 awr y dydd, 365 niwrnod y flwyddyn.

Y tâl blynyddol yw:

£187.26 heb gynnwys TAW.

£224.71 yn cynnwys TAW.

Mae'r tâl hwn yn berthnasol os ydych chi'n atebol i dalu TAW yn unig, er enghraifft, ac nad ydych wedi cwblhau ffurflen eithrio TAW (gellir ei gwblhau yn ystod eich cais ar-lein).

Mae'r pris yn ddilys o Ebrill 2025 ac mae'n destun adolygiad blynyddol fel a nodwyd ym mholisi codi tâl cytunedig y cyngor. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i amrywio taliadau o'r fath trwy adolygiad blynyddol a chydag o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig.

 

Cwestiynau cyffredin (llinell fywyd) y gwasanaeth larwm cymunedol

Rhestr o gwestiynau cyffredin am y gwasanaeth a sut mae'n gweithio.

Amodau a thelerau gwasanaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr amodau a'r telerau a osodir gan y Gwasanaeth Larymau Cymunedol.

Cyflwynwch gais am larwm cymunedol (llinell bywyd)

Ffurflen gais gychwynnol llinell bywyd.

Gwybodaeth bwysig - defnyddio eich cyfarpar

Gwybodaeth bwysig am ddefnyddio eich larwm.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2025