Toglo gwelededd dewislen symudol

AoS - Ysgol Calon Lân

 

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Roedd gan Abertawe ddwy ysgol arbennig (Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas), a oedd yn darparu addysg i uchafswm o 250 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed. Dros y blynyddoedd diwethaf roedd y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig yn Abertawe wedi arwain at gynnydd yn nifer y lleoedd cynlluniedig a oedd ar gael yn Ysgol Pen-y-Bryn yng ngwanwyn 2021. Fodd bynnag, mae lleoedd mewn ysgolion arbennig yn Abertawe yn parhau i fod yn llawn a rhagwelir y bydd cynnydd pellach yn y galw am leoedd yn y dyfodol. Mae bellach angen ateb tymor hir a chynaliadwy - fel arall, ni fydd gan yr awdurdod lleol unrhyw ddewis arall heblaw am roi disgyblion mewn ysgolion annibynnol a rhai y tu allan i'r sir.

Ym mis Tachwedd 2021, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru'r cynigion buddsoddi cyfalaf a nodir yn yr Achos Busnes Amlinellol Strategol i ddatblygu'r cynnig i uno'r ddwy ysgol arbennig bresennol ac adeiladu ar safle newydd, gan gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig. Mae hyn yn amodol ar achos busnes pellach yn cael ei gyflwyno, yn ogystal â'r broses gynllunio arferol.

Cynhaliodd Cyngor Abertawe'r broses ymgynghori statudol ar gyfer y cynnig. Cytunwyd ar y cynnig a chyhoeddwyd yr hysbysiad terfynol ar 1 Mai 2024. Mae manylion llawn yr Hysbysiad Statudol, ynghyd â'r Adroddiad Ymgynghori a dogfennau cysylltiedig eraill, i'w cael drwy'r ddolen ganlynol: Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe.

Nodau ac amcanion

Mae amcanion buddsoddi'r prosiect yn cynnwys y canlynol:

  • Darparu digon o leoedd i ddisgyblion 3 i 19 oed y mae angen darpariaeth ysgol arbennig arnynt.
  • Darparu amgylchedd dysgu'r 21ain ganrif sy'n addas at y diben ar gyfer disgyblion y mae angen darpariaeth ysgol arbennig arnynt, yn unol â Bwletin Adeiladu 104 (BA104).
  • Gostwng nifer y lleoliadau addysg newydd y tu allan i'r sir ac annibynnol ar gyfer disgyblion y mae angen darpariaeth ysgol arbennig arnynt i sero, gan y bydd y rhain y cael eu darparu gan yr ysgol newydd.
  • Gostwng nifer y disgyblion ADY y mae angen darpariaeth breswyl arnynt i sero, oni bai fod eu statws gwasanaethau cymdeithasol yn dweud bod angen y ddparpariaeth hon.
  • Cefnogi'r cyngor i ddiwallu anghenion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
  • Lleihau'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ac atebolrwyddau cynnal a chadw eraill yn y dyfodol.

Canlyniadu allweddol y prosiect yw:

  • Darparu darpariaeth ddigonol a phriodol sy'n gyson â BA104, ar gyfer disgyblion ag ADY y mae angen lleoliad mewn ysgol arbenigol arnynt.
  • Darpariaeth sy'n gwbl hygyrch.
  • Mannau ac amgylchedd mewnol ac allanol sy'n addas at y diben, gyda chyfarpar ac adnoddau sy'n defnyddio'r dechnoleg briodol.
  • Cyfleuster sero net o ran carbon.

Prif egwyddorion y prosiect hwn yw:

  • Bod disgyblion yn cael eu lleoli'n briodol, yn unol â'u hanghenion.
  • Y gall disgyblion barhau i dderbyn addysg o fewn yr awdurdod.
  • Y gall mwy o deuluoedd aros gyda'i gilydd gan y bydd disgyblion yn cael eu haddysgu'n lleol.
  • Hyblygrwydd i addasu i anghenion newidiol a chynnydd yn y galw.
  • Cydraddoldeb y ddarpariaeth.
  • Caiff amrywiaeth o anghenion cymhleth eu rheoli'n effeithiol gyda'r ystod lawn o arbenigedd sydd ar gael.
  • Bydd ysgolion yn gweithredu fel un, gan rannu arfer gorau ac ethos ysgol gyfan.
  • Cyfleoedd cyfartal ar gyfer gweithio amlasiantaeth, darpariaeth iechyd ac anfon gweithwyr iechyd proffesiynol i ysgolion eraill a'u derbyn i'r ysgol arbennig.
  • Osgoi staff iechyd a staff eraill rhag colli amser gwerthfawr yn teithio rhwng ysgolion.
  • Gostyngiad yn nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir ac annibynnol, gan leihau nifer y tribiwnlysoedd.
  • Mae'n ategu'r strategaeth ADY ehangach i ddarparu darpariaeth statudol ddigonol a hygyrch, sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn Abertawe.
  • Arbedion maint a'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau.
  • Y gyllideb ysgolion yn cael ei defnyddio'n fwy priodol ac effeithiol ar gyfer disgyblion; sy'n golygu bod arian yn cael ei wario ar eitemau sy'n ymwneud ag addysg yn hytrach nag eitemau sy'n ymwneud â'r adeilad.
  • Defnydd cymunedol o ardaloedd (mewnol ac allanol).
  • Gostyngiad yn yr atebolrwyddau cyfalaf yn y dyfodol sy'n ymwneud â chynnal a chadw adeiladau aneffeithlon.
  • Gostyngiad yn yr ôl-groniad gwaith cynnal a chadw.
  • Gostyngiad mewn allyriadau carbon.

Llinell amser y prosiect

Carreg filltir 
Achos Busnes Amlinello Strategol - cymeradwyaeth LlCTachwedd 2021
Cyfnod ymgynghori statudol9 Hydref - 24 Tachwedd 2023
Cyhoeddi hysbysiad statudol2 Chwefror 2024
Diwedd y cyfnod ar gyfer gwrthwynebu5 Mawrth 2024
Cymeradwyaeth y Cabinet parthed ymgynghoriad statudol18 Ebrill 2024
Cyhoeddi'r penderfyniad yn ffurfiol1 Mai 2024
Ffurfio'r ysgolMedi 2025
Cyfnod tendro ar gyfer contractwr cam 1Ionawr - Mawrth 2025

Adroddiad i'r Cabinet yn gofyn am gymeradwyaeth i neilltuo arian i ddyfarnu contract cam 1: Agenda'r Cabinet ddydd Iau 15 Mai 2025, 10.00am, Abertawe

Mai 2025
Dyluniad cam 1 RIBA gyda chontrractwrMehefin 2025
Cyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth CymruIonawr 2026
Cymeradwyo cam 2 RIBA (dylunio'r cysyniad)Yn gynnar yn y flwyddyn 2026
Targed o dderbyn caniatâd cynllunio a chymeradwyo cynlluniau draenio cynaliadwyGwanwyn 2026
Cymeradwyo cam 3 RIBA (Cydlynu Gofodol)Haf 2026
Cyflwyno'r Achos Busnes llawnGaeaf 2026
Cymeradwyo cam 4 RIBA (Dylunio Technegol)Gwanwyn 2027
Targed o ddechrau ar y safleGwanwyn 2027
Targed o feddiannu'r safleGwanwyn 2029

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Hydref 2025