Creu Gwarchodfeydd Natur Lleol newydd: cyfle i ddweud eich dweud
Hoffem i chi ddweud eich dweud ar gynigion i ardystio ardaloedd yn swyddogol fel Gwarchodfeydd Natur Lleol i'w gwarchod yn awr ac yn y dyfodol ar gyfer natur a phobl.
I fod yn gymwys i fod yn Warchodfa Natur Leol, rhaid i safle:
- Feddu ar nodweddion naturiol o ddiddordeb lleol arbennig
- Cael ei reoli'n gyfreithiol gan yr awdurdod lleol, naill ai drwy berchnogaeth neu gytundeb rheoli gyda'r perchennog tir
Dyma'r 16 safle sy'n cael eu hystyried ar gyfer statws Gwarchodfa Natur Leol:
- Brynlliw
- Parc Gwledig Dyffryn Clun
- Parc Coed Bach
- Fferm y Garth
- Coridor Bywyd Gwyllt Hillside
- Parc a Rhos Llewelyn
- Parc Blaendraeth Llwchwr
- Cwm Tawe Isaf - Llyn Pluck i Lansamlet
- Melin Mynach
- Cae ras Pen-lan
- Porth Einon
- Parc Singleton a Pharc Brynmill
- Bae Abertawe
- Y Clogwyni - Bae Caswell, Bae Langland i Ben y Mwmbwls ac Ynys y Mwmbwls
- Coetiroedd West Cross a nant Washinghouse
- Coed Ynysforgan
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a mapiau ac i ddweud eich dweud ar-lein yn awr
Mae Urban Foundry yn cynnal yr arolwg ar ein rhan
Dyddiad cau: 11.59pm, nos Sul 29 Mawrth 2026
Os bydd angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall, e.e. print bras, e-bostiwch nature.recovery@abertawe.gov.uk
Cadwraeth natur
Mae amrywiaeth fawr o gynefinoedd o fewn Abertawe, sy'n amrywio o glogwyni arfordirol, twyni tywod a morydau i ucheldiroedd, rhosydd a glaswelltiroedd, coetiroedd a gwlyptiroedd.

A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored
Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2025