Cronfa Benthyciadau Canol Trefi
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cronfa benthyciadau gwerth £2,000,000 i ni i'w gweinyddu fel rhan o'r cynllun Benthyciadau Canol Trefi.
Mae canol dinas Abertawe a chanol tref Treforys ymysg yr ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun.
Cronfa Benthyciadau Canol Trefi - map ffiniau (canol dinas Abertawe) (PDF, 1 MB)
Cronfa Benthyciadau Canol Trefi - map ffiniau (Treforys) (PDF, 1 MB)
Cynigir y cyllid ad-daladwy i berchnogion neu berchnogion posib eiddo at ddiben lleihau nifer y safleoedd a'r mangreoedd sy'n wag, sydd heb eu defnyddio'n ddigonol neu sy'n ddiangen yng nghanol trefi er mwyn cefnogi arallgyfeirio drwy annog defnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer safleoedd a mangreoedd gwag, megis dibenion preswyl, hamdden a gwasanaethau allweddol. Gellir defnyddio'r cyllid ad-daladwy ar gyfer y canlynol:
- Caffael a datgloi safleoedd a mangreoedd gyda'r bwriad o gyflwyno a gwerthu cynnig ar y farchnad agored o fewn amserlen gytunedig;
- Datblygu neu adnewyddu safleoedd a mangreoedd o fewn amserlen gytunedig; a
- Darparu benthyciadau i drydydd partïon i'w had-dalu o fewn amserlen gytunedig.
Rhaid i geisiadau am fenthyciadau i adnewyddu eiddo presennol gynnwys gwaith cynhwysfawr. Ni fydd gwaith i adnewyddu neu wella blaenau siopau, arwyddion, ffenestri presennol, etc, ar ei ben ei hun yn gymwys am gyllid.
Gellir gwneud ceisiadau am y benthyciadau di-log am hyd at uchafswm o £1,000,000 dros gyfnod o hyd at 5 mlynedd. Mae gan yr awdurdod yr hyblygrwydd i gynnig ad-daliadau fesul cam neu i gytuno i ad-daliad untro ar ddiwedd cyfnod y benthyciad. Codir ffi weinyddol i dalu am gostau sy'n gysylltiedig ag asesu, prosesu a gweinyddu'r benthyciadau.
Mae'r broses o gyflwyno cais yn cynnwys dau gam. Cam 1 yw ffurflen mynegiant o ddiddordeb (EOI) (link to form) a cham 2 yw'r cais llawn. Yn dilyn adolygiad ar y cam EOI, gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gwblhau a chyflwyno cais llawn. Mae arweiniad ar gyfer cam 2, sef y ffurflen gais lawn, yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael cyn bo hir.
Ymgymerir â phroses diwydrwydd dyladwy gadarn i sicrhau yr ystyrir yr holl wybodaeth berthnasol am yr ymgeisydd a'r cynnig, a fydd yn cynnwys asesu risg credyd ac a yw'r cynnig yn gymwys ac yn ddichonadwy.
Hefyd, bydd angen gosod tâl cyfreithiol ar eiddo neu dir y mae'r ymgeisydd yn berchen arno sydd gyfwerth â gwerth y benthyciad cymeradwy ar ôl dilysu ecwiti cyn i'r benthyciad gael ei roi. Gellir ystyried gwarantau personol hefyd. Mae rheolau cymorth gwladwriaethol yn berthnasol a bydd gofyn i'r awdurdod ddangos y cydymffurfir â hwy.
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yr ystyrir derbynwyr grantiau eiddo HAS neu PEDG ar gyfer y gronfa benthyciadau.
Gellir cael mwy o wybodaeth a chyflwyno ffurflenni cais drwy e-bostio busnes@abertawe.gov.uk.