Cymorth ariannol ar gyfer busnesau
Gall mynediad at gyllid fod yn agwedd bwysig ar ddechrau a datblygu'ch busnes. Rydym yn gweithio'n agos ochr yn ochr ag amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu mynediad at gymorth ariannol.
Gall argaeledd cyllid newid yn rheolaidd felly cadwch lygad ar y dudalen hon i gael diweddariadau rheolaidd.
- Grantiau a benthyciadau gan Gyngor Abertawe
- Cynlluniau cymorth ariannol rhanbarthol a lleol
- Rhaglenni cymorth cenedlaethol
- Chwiliad cyllid a chymorth ar gyfer eich busnes (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)
Grantiau a benthyciadau gan Gyngor Abertawe
Cynlluniau Grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Diweddariad pwysig ar raglen grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (Gorffennaf 2025)
Gan fod y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026 bellach wedi'i dyrannu'n llawn, nid ydym bellach yn prosesu ffurflenni cais ar gyfer rhaglen grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rydym yn deall y gall hyn fod yn siomedig, ac rydym yn diolch i bob busnes am ei ddiddordeb a'i ymgysylltiad.
Gwiriwch am ragor o ddiweddariadau neu gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i gyflwyno ein gweithdai cymorth busnes a byddwn yn hyrwyddo'r rhain, ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau ariannol, drwy ein sianeli arferol: Tîm Cymorth Busnes
Os oes angen unrhyw gymorth busnes un i un arnoch, e-bostiwch ein sefydliad partner yn swansea@focusfutures.co.uk a gofynnwch am ffurflen atgyfeirio.
Hyfforddiant Tuag at Garbon sero-net
Wrth i'r byd ganolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, mae gan fusnesau rôl bwysig i'w chwarae wrth gyrraedd nodau hinsawdd byd-eang. Mae ein cwrs hyfforddi'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fusnesau bach a chanolig er mwyn iddynt gyflawni niwtralrwydd carbon, meithrin y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a phrisiau ynni cynyddol, a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.
Yn ystod y cwrs hyfforddi, bydd cyfranogwyr yn dysgu am hanfodion lleihau carbon a'r llwybr i allyriadau sero net. Byddwn yn cynnwys pynciau fel effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cludiant cynaliadwy, lleihau gwastraff a mwy. Yn ogystal, byddwn hefyd yn darparu gweithgareddau ymarferol ac astudiaethau achos i helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddefnyddio'r cysyniadau hyn yn eu busnesau eu hunain.
Mae'r cwrs hwn yn orfodol ar gyfer unrhyw fusnes sydd am gael mynediad at y Grant Lleihau Carbon.
Grant UK Steel Enterprise
Cynllun grant mewn partneriaeth â UK Steel Enterprise Ltd sy'n cynnig hyd at £1,000 i fusnesau newydd neu fusnesau dan 2 flwydd oed yn ardal Cyngor Abertawe. Fodd bynnag, dim ond 50% o gostau cymwys y prosiect y bydd y grant yn eu talu a'r isafswm grant sy'n daladwy yw £250.
Mae cyllid grant yn cynnwys eitemau fel cyfarpar, cymwysterau, cyfrifeg, meddalwedd, datblygu gwefannau ac offer.
Nid oes llawer o arian ar gael a chaiff y gronfa ei dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. I gael rhagor o fanylion, e-bostiwch grantsefydlu@abertawe.gov.uk.
Cronfa Benthyciadau Canol Trefi
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cronfa benthyciadau gwerth £2,000,000 i ni i'w gweinyddu fel rhan o'r cynllun Benthyciadau Canol Trefi.
Mae canol dinas Abertawe a chanol tref Treforys ymysg yr ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun.
Trawsnewid Trefi: Grantiau Creu Lleoedd
Lansiwyd Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020 i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn canol trefi a dinasoedd a'r gostyngiad yn y galw am fanwerthu ar y stryd fawr. Ffocws y rhaglen yw twf cynaliadwy ein trefi a'n dinasoedd, a'u trawsnewid yn lleoedd ar gyfer byw, gweithio, dysgu a hamdden.
Rhagor o wybodaeth am Trawsnewid Trefi Trawsnewid Trefi: Grantiau Creu Lleoedd
Cynlluniau cymorth ariannol rhanbarthol a lleol
Banc Datblygu Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid y mae ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae'r cyllid sydd ar gael yn amrywio o £1,000 i £5m ac mae ar gael i fusnesau newydd ac i fyny. Bydd cyfraddau llog yn amrywio rhwng 4-12% ond maent yn sefydlog ar gyfer tymor eich trefniant.
Ymddiriedolaeth y Tywysog (Yn agor ffenestr newydd)
Mae rhaglen entrepreneur Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gymwys i entrepreneuriaid ifanc newydd 18-30 oed. Mae'r rhaglen yn darparu mynediad i weithdy rhyngweithiol, mentora busnes a'r cyfle i wneud cais am grant sefydlu o £750 a mynediad uniongyrchol at fenthyciad cychwyn busnes o £500 - £5000.
Rhaglenni cymorth cenedlaethol
Banc Busnes Prydain (Yn agor ffenestr newydd)
Mae Banc Busnes Prydain yn cynnig benthyciadau o hyd at £25,000 ar gyfer dechrau prosiectau twf busnes. Mae benthyciadau ar gyfradd llog sefydlog o 6% y flwyddyn gyda chyfnodau ad-dalu o rhwng 1 a 5 mlynedd. Cefnogir y cynllun hwn gan Lywodraeth y DU ac mae'n cynnwys 12 mis o fentora am ddim.
Cystadlaethau Innovate UK (Yn agor ffenestr newydd)
Cyllid ar gael i fusnesau bach a chanolig sy'n ymgymryd â phrosiectau Ymchwil a Datblygu. Mae gan Innovate UK amrywiaeth o gystadlaethau arloesedd ar gael i brosiectau priodol.
Innovate UK - chwilio am gystadleuaeth (Yn agor ffenestr newydd)
UK Steel Enterprise (UKSE) (Yn agor ffenestr newydd)
Gall UKSE fuddsoddi mewn prosiectau sy'n werth dros £25,000 gyda benthyciadau heb eu sicrhau neu gyllid ecwiti ar gyfer prosiectau gwerth dros £100,000, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hanelu at ynni a gweithgynhyrchu.
UnLtd (Yn agor ffenestr newydd)
Mae UnLtd yn darganfod, yn ariannu ac yn cefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol - pobl fentrus gydag atebion sy'n newid cymdeithas er gwell. Gall mentrau newydd fod yn gymwys i gael dyfarniadau o rhwng £500 a £5000, efallai y bydd mentrau cymdeithasol sy'n ceisio tyfu yn gallu gwneud cais am hyd at £15,000.