Byw'n annibynnol (tai lloches)
Bydd llety byw'n annibynnol yn darparu eiddo hunangynhwysol i chi i'ch galluogi i barhau i fyw'n annibynnol, ond gyda warden dynodedig y gallwch gysylltu ag ef drwy system intercom heb adael yr eiddo.
Mae gennym dros 980 o unedau llety ar gyfer byw'n annibynnol ar hyn o bryd sydd wedi'u rhannu rhwng 31 o gyfadeiladau ar draws ardal Abertawe, gyda phob un ohonynt yn darparu:
- gwasanaeth warden
- cyfleusterau cymunedol
- parcio i breswylwyr yn unig
- digwyddiadau cymdeithasol a grŵp
- rhent wythnosol gan gynnwys tâl gwasanaeth
- tenantiaeth ddiogel
- gwasanaeth atgyweirio brys 24 awr
- dulliau amrywiol o dalu'r rhent
- archwiliad diogelwch nwy cyn cychwyn tenantiaeth a blynyddol
- nid oes angen blaendal
Sut i wneud cais am lety byw'n annibynnol
I wneud cais am lety byw'n annibynnol, rhaid i chi fod dros 60 oed.
Os ydych yn denant y cyngor, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardalleol.
Os nad ydych yn denant y cyngor cysylltwch ag Opsiynau Tai.