Toglo gwelededd dewislen symudol

Opsiynau Tai

Rydym yn ceisio atal digartrefedd lle bo'n bosib. Gallwn wneud hyn drwy'ch helpu i aros lle'r ydych yn y tymor hir neu drwy'ch helpu i aros lle'r ydych nes i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw.

Po gynharaf yr ydych chi'n rhoi gwybod i ni am eich problem tai, mwyaf y byddwn ni'n gallu ei wneud i'ch helpu.

Gall ein hymgynghorwyr eich helpu drwy wneud y canlynol:

  • siarad â pherthnasau a ffrindiau am adael i chi aros yn eu llety nes y gallwch ddod o hyd i rywle mwy addas
  • ymdrin â rhybuddion gadael a gweithredu gan landlordiaid neu fenthycwyr morgeisi, gan gynnwys cynrychiolaeth yn y llys
  • esbonio'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau cyfreithiol
  • ymdrin â'ch amodau tai gwael
  • ôl-ddyledion rhent, problemau gyda'ch cyfrif rhent a hawlio budd-daliadau
  • cyngor ariannol gan gynnwys eich helpu i ad-drefnu'ch incwm fel y gallwch wneud taliadau fforddiadwy i leihau eich dyledion
  • gwella diogelwch eich cartref os ydych mewn perygl o drais
  • trefnu cymorth ymarferol os oes angen unrhyw help arnoch i aros yn eich cartref e.e. llenwi ffurflenni, delio ag asiantaethau eraill fel y ganolfan byd gwaith, cwmnïau cyfleustodau
  • dod o hyd i rywle arall i chi fyw
  • blaendaliadau a bondiau rhent
  • mewn llawer o achosion gallwn helpu pobl i gadw eu cartref a'n nod yw gweithredu mor gynnar â phosib cyn i'r broblem waethygu

Cysylltu ag Opsiynau Tai ar-lein Cysylltu ag Opsiynau Tai ar-lein

Rhif ffôn: 01792 533100

Swyddfa Opsiynau Tai

17-19 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1LF.

Amserau agor y swyddfa
DyddOriau agor
Dydd Llun10.00am - 4.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 5.00pm)
Dydd Mawrth10.00am - 4.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 5.00pm)
Dydd Mercher10.00am - 4.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 5.00pm)
Dydd Gwener10.00am - 4.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 5.00pm)
Dydd Iau10.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)

Cyrraedd y swyddfa

Cysylltu ag Opsiynau Tai ar-lein

Cysylltwch â ni os oes angen help arnoch i aros yn eich llety presennol neu os oes angen help arnoch i ddod o hyd i rywle newydd i fyw.

Ffi am lety gwely a brecwast dros dro Opsiynau Tai

Os ydych yn byw mewn llety dros dro a ddarperir gan Opsiynau Tai Abertawe, gallwch dalu eich ffi am lety dros dro gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mehefin 2024