Toglo gwelededd dewislen symudol

CCLIA - Cyfansoddiad y Gymdeithas

Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe - Cyfansoddiad y Gymdeithas.

1. Teitl

Enw'r grŵp hwn fydd 'Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe (CCLIA)'

2. Amcanion y Gymdeithas

a)  Hyrwyddo arfer gorau o ran llywodraethu ysgolion ar draws yr holl gyrff llywodraethu yn awdurdod lleol Abertawe;

b)  Hyrwyddo partneriaethau ymysg cyrff llywodraethu ar draws yr ALI;

c)  Cynrychioli barn llywodraethwyr am faterion mewn perthynas â llywodraethu a rheoli ysgolion a darparu adnoddau iddynt i awdurdodau a sefydliadau perthnasol;

ch)  Gweithio'n agos gydag Uned Cefnogi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol i hyrwyddo gallu ac effeithiolrwydd llywodraethwyr, hwyluso'r broses o rannu syniadau a darparu cyfleoedd ar gyfer rhannu profiadau cyffredin;

d)  Cael gwell dealltwriaeth a gwybodaeth y tu hwnt i ffin yr AL;

dd)  Defnyddio'r gymdeithas fel cynrychiolydd yn holl gynulliadau Cymru.

3. Gweithgareddau

Er hyrwyddio'i hamcanion, bydd Cymdeithas y Llywodraethwyr yn:

a)  Cynnal o leiaf dau gyfarfod fesul blwyddyn academaidd; un ohonynt fydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) a fydd fel arfer yn cael ei gynnal yn nhymor yr hydref;

b)  Cydgysylltu â swyddogion yr awdurdod lleol ar bob mater sy'n ymwneud ag amcanion y gymdeithas a'r materion hynny sy'n effeithio ar lywodraethu ysgolion;

c)  Hyrwyddo ac yn annog hyfforddiant llywodraethwyr a drefnwyd gan yr ALI ac eraill;

ch)  Ymateb i unrhyw ddogfennau ymgynghori a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar faterion sy'n effeithio ar lywodraethu ysgolion;

d)  Annog cynrychiolaeth ar Gymdeithas y Llywodraethwyr gan bob corff llywodraethu ysgol o fewn yr awdurdod;

dd)  Rhwydweithio gyda Chymdeithasau Llywodraethwyr eraill i rannu arfer da;

e)  Cyfethol aelodau o bryd i'w gilydd (heb bwerau pleidleisio), y mae'r aelodau'n tybio eu bod yn angenrheidiol, er mwyn i'r Gymdeithas gyflawni'i rôl yn effeithiol;

f)  Gwahodd siaradwyr o'r awdurdod lleol a mannau eraill i hysbysu'r aelodau o faterion sy'n berthnasol i lywodraethu ysgolion ac annog cyfathrebu ar y materion hyn; ac

ff)  Ymgymryd ag unrhyw weithgareddau eraill sy'n gyson â'r amcanion sydd o fudd i lywodraethu ysgolion ledled Abertawe.

4. Aelodaeth

Bydd aelodaeth o Gymdeithas y Llywodraethwyr ar gael i gorff llywodraethu pob ysgol yn Abertawe. Dylai cyrff llywodraethu enwebu un o'u nifer (heb gynnwys y pennaeth) i'w cynrychioli yng nghyfarfodydd y Gymdeithas.

Bydd gan y Cyfarwyddwr Addysg, neu ei gynrychiolydd, wahoddiad sefydlog i fynychu holl gyfarfodydd y Gymdeithas.

Mae cyrff llywodraethu sy'n aelodau o'r Gymdeithas yn cytuno i dalu swm enwol y flwyddyn fel ffi aelodaeth. Y ffi ar hyn o bryd yw £10 fesul pob corff llywodraethu'r flwyddyn. Bydd y ffi hon yn cael ei debydu o gyllideb yr ysgol unigol gan yr ALI a'i hadneuo'n uniongyrchol i gyfrif banc Cymdeithas y Llywodraethwyr ei hun. Ystyrir cynnal adolygiad o'r ffi aelodaeth yn flynyddol yn y CCB.

5. Swyddoglion

a)  Cadeirydd ac Is-gadeirydd

Yn y CCB, penderfynir ar swyddogaeth Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cymdeithas y Llywodraethwyr gan yr aelodau hynny sy'n bresennol yn bersonol. Bydd cyfnod y swydd ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn ddwy flynedd o ddyddiad y CCB.

b)  Trysorydd

Bydd Trysorydd y Gymdeithas yn cael ei ethol yn y CCB. Rhaid i'r Trysorydd fod yn aelod mewn gwasanaeth o Gmdeithas y Llywodraethwyr.

c)  Ysgrifennydd

Bydd Ysgrifennydd y Gymdeithas yn cael ei benodi gan y Pwyllgor Rheoli. Darperir taliad honorariwm / treuliau ar gyfer ymgymryd â'r rôl hon.

ch)  Gweinyddu

Bydd yr ALI yn darparu cymorth gweinyddol o ran lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd, dosbarthu agendâu a chofnodion etc. tan y cyfryw amser ag y mae Cymdeithas y Llywodraethwyr yn dymuno newid y trefniant hwnnw.

6. Cworwm o phleidleisio ar gyfer cyfarfodydd Cymdeithas y Llywodraethwyr

Bydd y cworwm sy'n angenrheidiol yng nghyfarfodydd Cymdeithas y Llywodraethwyr er mwyn i benderfyniadau a wneir fod yn ddilys yn gynrychiolaeth o ddim llai na DEG AR HUGAIN o gyrff llywodraethu. Lle bo llywodraethwr unigol yn eistedd ar fwy nag un corff llywodraethwr, ac ar yr amod bod cyrff llywodraethu unigol wedi enwebu'r llywodraethwr hwnnw i'w cynrychioli, gall y llywodraethwr hwnnw gynrychioli'r ddau gorff llywodraethu ar yr un pryd yng nghyfarfodydd y Gymdeithas a bod yn gymwys i bleidleisio fesul corff llywodraethu.

Bydd y gofyniad am unrhyw bledlais yn cael ei ddangos drwy bleidlais gyhoeddus yn unig (h.y. y sawl sy'n bresennol yn codi dwylo). Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn cael pleidleisio ynghyd ag aelodau eraill. Os bydd nifer cyfartal o bleidleisiau, bydd gan y Cadeirydd bleidlais fwrw pellach.

7. Ethol swyddogion yn flynyddol

Gofynnir am enwebiadau ar gyfer swydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd cyn y CCB a bydd dyddiad cau yn cael ei roi ar gyfer derbyn enwebiadau. Bydd hawl gan bob aelod o'r Gymdeithas enwebu ei hunan. Lle mae mwy nag un enwebiad, bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn unol â phwynt 6 uchod. Bydd aelodau a etholwyd wedi hynny'n cymryd y swydd am y cyfnod rhagnodedig.

8. Newidiadau i'r Cyfansoddiad

Dim ond mewn cyfarfod o Gymdeithas y Llywodraethwyr y gellir gwneud newidiadau i'r Cyfansoddiad lle mae'r eitem wedi'i gosod yn glir ar yr agenda a'i dosbarthu i'r holl Gadeiryddion Llywodraethwyr o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg cyn y cyfarfod.

9. Rôl y Cadeirydd

a)  Sicrhau y glynir wrth gyfansoddiad Cymdeithas y Llywodraethwyr;

b)  Cysylltu â swyddogion yr ALI a chymeradwyo'r agenda ar gyfer pob cyfarfod;

c)  Sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol;

ch)  Gweithredu fel llefarydd, pan fo angen, ar ran Cymdeithas y Llywodraethwyr;

d)  Sicrhau bod dogfennau a gwybodaeth berthnasol sy'n effeithio ar effeithiolrwydd y Gymdeithas yn cael eu rhannu â'r aelodau mewn da bryd;

dd)  Gweithio gydag aelodau eraill o'r Gymdeithas a swyddogion yr ALI i sicrhau parhad ac effeithiolrwydd y Gymdeithas; a

10. Rôl yr Is-gadeirydd

a)  Cefnogi'r cadeirydd wrth hwyluso cyfarfodydd;

b)  Helpu'r cadeirydd mewn unrhyw gamau gweithredu dilynol y cytunwyd arnynt mewn cyfarfodydd;

c)  Ymgynghori â'r cadeirydd a swyddogion yr ALI ynghylch unrhyw faterion sy'n effeithio ar effeithiolrwydd y Gymdeithas; a

ch)  Rheoli cyfarfodydd yn effeithiol ac yn effeithlon yn absenoldeb y cadeirydd.

11. Rôl yr Ysgrifennydd

a)  Cynorthwyo'r cadeirydd neu, yn absenoldeb y cadeirydd, yr is-gadeirydd i reoli'r gwaith o baratoi a dosbarthu dogfennau a gwybodaeth sy'n berthnasol i gyfarfodydd y gymdeithas mewn pryd, o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg cyn pob cyfarfod; a

b)  Chofnodi cofnodion cyfarfodydd yn gywir a sichrau eu bod yn cael eu dosbarthu i'r sawl sy'n dod i gyfarfodydd mewn pryd.

12. Rôl y Trysorydd

a)  Rheoli unrhyw arian sy'n ddyledus gan neu'n ddyledus i bleidiau eraill yn effeithlon ac yn effeithiol;

b)  Rhoi sieciau ar ran y Gymdeithas. Rhaid i bob siec gynnwys dau lofnodwr awdurdodedig y Gymdeithas; a

c)  Llunio adroddiad ariannol i'w gyflwyno yn y CCB a'r balans arian sy'n eiddo i gymdeithas y Llywodraethwyr neu'n ddyledus iddi.

13. Pwyllgor Rheoli

a)  Yn y CCB bydd Pwyllgor Rheoli'n cael ei benodi sy'n cynnwys naw aelod o Gymdeithas y Llywodraethwyr;

b)  Bydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd a Thrysorydd Cymdeithas y Llywodraethwyr yn aelod o'r Pwyllgor Rheoli'n awtomatig a dyma dair o'r naw swydd. Cadeirydd y Gymdeithas hefyd fydd Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli;

c)  Bydd y Pwyllgor Rheoli'n helpu i benderfynu eitemau addas ar yr agenda ar gyfer prif gyfarfodydd y Gymdeithas; bydd yn dyfeisio strategaethau a gweithgareddau i ddatblygu nodau'r Gymdeithas ac yn sicrhau y cyfathrebir yn effeithiol ac yn effeithlon â chyrff llywodraethu unigol drwy eu haelod enwebedig o'r Gymdeithas;

ch)  Bydd y Pwyllgor Rheoli yn penderfynu ar ba mor aml y cynhelir ei gyfarfodydd ei hun, fodd bynnag, yn gyffredinol bydd dau gyfarfod y flwyddyn; a

d)  Bydd y cworwum sy'n angenrheidiol yn y Pwyllgor Rheoli'n isafswm o bum aelod.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Ionawr 2023