Rhaglen Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2025 / 2026 - Cais am gerbyd
Arweiniad ynghylch gwneud cais am gerbyd ac amodau'r grant
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y rhoddir cyfraniad ar gyfer cerbyd. Gellir dyfarnu hyd at £10,000 (£5,000 ar gyfer gwarchodwyr plant) ar gyfer prynu cerbyd os yw ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac yn gallu dangos tystiolaeth ar gyfer y cais. Dyfernir arian ar gyfer talu am y cerbyd yn llawn yn unig. Ni ellir defnyddio'r arian tuag at gytundebau talu fesul tipyn / prydlesu.
Meini prawf cymhwysedd
- Caiff ceisiadau am gerbydau eu hystyried ar yr amod mai gweithgareddau sy'n ymwuned â gofal plant yw'r prif reswm am y cais.
- Caiff ceisiadau am gerbydau eu hystyried ar yr amod eu bod mewn perthynas â gweithgareddau y codir tâl amdanynt yn bennaf e.e. casglu plant o'r ysgol neu eu gollwng yno.
- Caiff ceisiadau am gerbydau eu hystyried os oes angen cerbyd i ehangu neu gadw gwasanaethau sefydledig yn unit. (Bydd angen i ymgeiswyr gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am o leiaf 12 mis).
- Rhoddir ystyriaeth i geisiadau am gerbydau nad ydynt yn cale eu defnyddio am o leiaf 60% o'r wythnos dan amgylchiadau eithriadol yn unig.
Amgylchiadau eithriadol
- Caiff ceisiadau am gerbydau eu hystyried os yw'r gweithgareddau gofal plant y codir tâl amdanynt yn cynnwys plentyn ag angen dysgu ychwanegol sy'n cael ei gefnogi gan Gynllun Datblygu Unigol.
- Rhoddir ystyriaeth i geisiadau lle mae ymgeiswyr yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig.
Caiff yr holl geisiadau eu hystyried ar sail unigol. Mae penderfyniad y panel yn derfynol.
Arweiniad ychwanegol
- Gellir defnyddio arian grant a ddyfernir ar gyfer cerbydau sy'n addas ar gyfer diwallu anghenion mewn perthynas â gofal plant (e.e. nifer y seddi i blant, nodweddion diogelwch).
- Gellir defnyddio arian grant a ddyfernir ar gyfer cerbydau sydd wedi bod yn destun gwiriadau diogelwch ac / neu y mae ganddynt gyfnod gwarantiad sy'n briodol ar gyfer amodau'r grant.
- Dylid hysbysu gwasanaethau gofal plant ar y cerbydau lle y bo'n briodol.
- Ni ellir gwneud cais am gyllid ar gyfer costau prydlesu na chostau cynnal fel yswiriant, petrol, gwaith atgyweirio, etc.
Ffurflen cais am gerbyd
Gwneud cais ar-lein.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2025