Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025
Rydym bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025.
Rydym yn chwilio am geisiadau gan sefydliadau presennol sydd wedi ymrwymo i ddarparu darpariaeth Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar o safon yn barhaus ledled Sir Abertawe.
Gwybodaeth am y gronfa
Mae'r cynllun Grantiau Cyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn cael ei roi ar waith o 2022 / 2023 hyd at ddiwedd 2024 / 2025. Ei ddiben yw cefnogi, cynnal a gwella'r seilwaith gofal plant presennol. Bydd yn agored i bob darparwr gofal plant cofrestredig, a'r rhai sy'n gweithio tuag at gofrestriad AGC, gyda'r nod o sicrhau bod y sector gofal plant yn cael ei gryfhau a'i gefnogi ledled Abertawe.
Argaeledd cyllid
Yr uchafswm y gall unrhyw ddarpariaeth unigol wneud cais amdano yn ystod blwyddyn ariannol 2024 / 2025 yw £20,000. Ar gyfer Gwarchodwyr Plant cofrestredig, yr uchafswm yw £5,000. Bydd swm y grant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a chyfiawnhad o'i angen. Dan amgylchiadau eithriadol yn unig y dyfernir symiau dros y swm hwn. Gellir defnyddio Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025 ar gyfer gwaith cyfalaf hanfodol bach a / neu ar gyfer prynu cyfarpar cyfalaf. Rhaid i'r holl waith a'r cyllid y cyflwynwyd cais amdano gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2025. Mae swm cyfyngedig o gyllid ar gael. Nid yw ceisiadau wedi'u gwarantu a chânt eu blaenoriaeth yn erbyn meini prawf a bennir gan y Llywodraeth.
Manylion y cais
Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl wybodaeth ganlynol cyn cyflwyno ceisiadau.
Canllawiau Cais am Grant Cyfalaf
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Gallwch gysylltu â Swyddog Cynllunio a Gweithredu Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar drwy e-bostio fis@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio. Rhif cyswllt: 01792 517222