Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg - Adroddiad Blynyddol 2023-2024
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Addysg Grefyddol (CYSAG) yn ei ardal leol. Yn dilyn lansiad y Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol ffurfio Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYSCGM) yn eu hardal leol.
Cynnwys
Adran 1
Gwybodaeth am CYSAG
1.1 Dyletswydd i sefydlu CYSAG
1.2 Cyfansoddiad CYSAG
1.3 Aelodaeth CYSAG
1.4 Swyddogaethau a dyletswyddau CYSAG
1.5 Cyfarfodydd
1.6 Cynllun datblygu 2024 - 2027
1.7 Dosbarthu'r adroddiad
Adran 2
Cyngor ar Addysg Grefyddol (AG) / Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM)
2.1 Y maes llafur y cytunwyd arno'n lleol
2.2 Safonau mewn AG / CGM
2.2.1 Adroddiadau arolygiadau ysgolion
2.2.2 Canlyniadau arholiadau
2.3 Dulliau Addysgu, Deunyddiau Athrawon a Hyfforddiant Athrawon
Adran 3
Cyngor ar addoli ar y cyd
3.1 Adroddiadau arolygiadau ysgolion
3.2 Ceisiadau i benderfynu arnynt
3.3 Ymweliadau ysgol
Adran 4
Materion eraill
4.1 Cyfansoddiad
4.2 Diwrnod cofio'r Holocost 2024
4.3 Hyfforddiant aelodau CYSAG
4.4 Aelodaeth CYSAG / CYSCGM
4.5 Partneriaid cenedlaethol
4.6 Panel craffu addysg
4.7 Rhannu gwaith CYSAG / CYSCGM Abertawe
Atodiadau
Atodiad 1 - Aelodaeth CYSAG / CYSCGM Abertawe 2023 - 2024
Atodiad 2 - Amserlen cyfarfodydd ac eitemau'r agenda
Atodiad 3 - Blaenoriaethau CYSAG / CYSCGM Abertawe 2024 - 2027
Atodiad 4
Adran 1
Gwybodaeth am CYSAG / CYSCGM
1.1. Dyletswydd i sefydlu CYSAG
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Addysg Grefyddol (CYSAG) yn ei ardal leol. Yn dilyn lansiad y Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol ffurfio Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYSCGM) yn eu hardal leol. Cytunwyd y bydd y ddau gyngor ymgynghorol sefydlog yn rhannu aelodaeth o fewn Abertawe ac yn cael eu cynnal ar y cyd â'i gilydd dros y pedair blynedd nesaf. Mae ganddyn nhw gyfansoddiadau ar wahân. Bydd yr adroddiad yn cyfeirio at CYSAG, ond mae'r gwaith yn cyfirio at CYSAG a CYSCGM.
1.2 Cyfansoddiad CYSAG / CYSCGM
Mae angen cynrychiolaeth gan y aelodau canlynol o fewn CYSAG:
- yr enwadau Cristnogol a chrefyddol eraill a fydd, ym marn yr awdurdod lleol, yn adlewyrchu'n briodol y prif draddodiadau crefyddol yn yr ardal;
- cymdeithasau sy'n cynrychioli athrawon; a'r
- awdurdod lleol.
1.3 Aelodaeth o CYSAG / CYSCGM
Nodir rhestr aelodau CYSAG / CYSCGM Abertawe yn Atodiad 1.
- Cynghori'r awdurdod lleol ar addoli a'r addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg i'w rhoi yn unol â'r maes llafur cytunedig gan gynnwys dulliau addysgu, cyngor ar ddeunyddiau a'r hyfforddiant i'w ddarparu i athrawon;
- Ystyried a ddylid argymell i'r awdurdod lleol y dylai ei faes llafur cytunedig presennol gael ei faes llafur cytunedig presennol gael ei adolygu trwy gynnal Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig;
- Ystyried a ddylai'r gofyniad y dylai addoli ar y cyd yn ysgolion y sir fod yn 'Gristnogol ei natur yn fras' neu a ddylai fod yn amrywiol (penderfyniadau);
- Adrodd i'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru ar ei weithgareddau yn flynyddol.
1.5 Cyfarfodydd CYSAG / CYSCGM
Cyfarfu CYSAG deirgwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2023 - 2024. Gellir dod o hyd i'r agenda ar gyfer pob cyfarfod yn Atodiad 2. Cynhaliwyd pob cyfarfod fel cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
- 16 Tachwedd - Canolfan Ddinesig, Abertawe
- 6 Mawrth - Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf
- 26 Mehefin - Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
1.6 Cynllun Datblygu 2024 - 2027
Gellir gweld y cynllun datblygu tair blynedd ar gyfer y Pwyllgor yn Atodiad 3.
Ceir rhestr lawn o'r sefydliadau sy'n derbyn yr adroddiad yn Atodiad 4.
Adran 2
Cyngor ar Addysg Grefyddol / Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
2.1 Y maes llafur cytunedig lleol
Yn dilyn mabwysiadu maes llafur ar gyfer Addysg Grefyddol (AG) a gytunwyd yn Abertawe yn 2008, a'i hail-fabwysiadu bob pum mlynedd, cyhoeddodd Abertawe ei maes llafur cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn 2022.
Roedd y broses o ddatblygu'r maes llafur y cytunwyd arno ar gyfer CGM yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys dysgwyr, athrawon, aelodau CYSAG a'r tîm cyfreithiol yng nghyngor Abertawe.
Mae CYSAG / CYSCGM Abertawe'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn cael eu cefnogi i ddarparu AG / CGM o ansawdd uchel i'w dysgwyr sydd nid yn unig yn cyflawni eu dyletswyddau statudol ond sydd hefyd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu llythrennedd crefyddol a'u bydolygon, sy'n hanfodol ar gyfer dinasyddiaeth ym myd amrywiol, amlddiwylliannol ac aml-seciwlar heddiw.
2.2 Safonau mewn Addysg Grefyddol
Mae CYSAG wedi mabwysiadu nifer o strategaethau ar gyfer monitro'r safonau sy'n cael eu cyflawni mewn addysg grefyddol yn ysgolion yr awdurdod sy'n cynnwys y canlynol:
2.2.1 Adroddiadau arolygu ysgolion
Mae CYSAG wedi archwilio adrannau perthnasol adroddiadau arolygu ysgolion yr awdurdod lleol. Yn ystod blwyddyn academaidd Medi 2023 - Medi 2024, arolygwyd deunaw o ysgolion yn Abertawe, gan gynnwys pedair ar ddeg o ysgolion cynradd a phedair ysgol uwchradd. Hefyd, trefnodd Estyn ymweliadau dilynol â thair ysgol. Os daw unrhyw faterion i'r amlwg ynghylch Addysg Grefyddol, megis peidio â bodloni gofynion statudol, yna bydd yr awdurdod lleol yn mynd ar drywydd hyn drwy ofyn am gynllun gweithredu ac adroddiad cynnydd. Ni chodwyd unrhyw faterion ynghylch AG o fewn yr adroddiadau. Caiff y trosolwg llawn gan Estyn ei rannu ag aelodau CYSAG yng nghyfarfod hydref 2024.
Roedd llawer o sylwadau cadarnhaol ynghylch darparu AG ac CGM yn yr ysgolion a arolygwyd.
Mae sesiynau crefydd, gwerthoedd a moeseg yn ennyn diddordeb a chwilfrydedd bron pob disgybl yn dda. Mae disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i ddysgu am arferion gwyliau megis Y Nadolig, Diwali a Hannukah, a'u cymharu. Mae hyn yn datblygu eu dealltwriaeth o amrywiaeth o grefyddau yn effeithiol (Ysgol Gymraeg y Cwm - Chwefror 2024).
Mae'r ysgol yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu gwerthoedd ac i archwilio'u credoau ysbrydol a moesegol. Mae disgyblion yn dysgu am amrywiaeth o grefyddau'r byd. Mae'r ysgol yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio gwyliau crefyddol yn bwrpasol (Ysgol Gynradd Hendrefoilan - Mawrth 2024)
Mae canlyniadau arholiadau ar gyfer TGAU a TAG Lefel Uwch a gyflawnwyd gan ddisgyblion yn y pedair ar ddeg o ysgolion uwchradd o fewn yr awdurdod lleol wedi'u dadansoddi a'u hystyried. Cafodd y ffigurau sy'n ymwneud â chanlyniadau dro y pum mlynedd diwethaf eu dadansoddi i nodi'r tueddiadau mewn perfformiad. Caiff canlyniadau'r arholiadau eu cymharu â ffigurau Cymru Gyfan, lle bo hynny'n bosib. Rhannwyd y data ag aelodau CYSAG yng nghyfarfod hydref 2023.
Nodir bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y cofrestriadau ar gyfer cyrsiau Safon Uwch a chyrsiau byr TGAU ar draws yr awdurdod lleol. Mae'n ymddangos bod tair ysgol yn gweithredu ar gais carfan lawn ar gyfer TGAU, ac mae pedair ysgol heb gofrestriad TGAU ar gyfer AG. Mae pedair ysgol arall yn Abertawe'n cynnig cymwysterau heblaw am TGAU i gyflawni eu dyletswyddau statudol ar gyfer AG.
Rhannwyd dadansoddiad data llawn ar gyfer holl ysgolion Abertawe yng nghyfarfod hydref 2024.
Mae CYSAG Abertawe wedi dechrau sgwrs ynghylch pwysigrwydd defnyddio tri math gwahanol o dystiolaeth yn ystod y broses fonitro, gan ddefnyddio offer hunanwerthuso mewnol a gwaith y tîm gwella ysgolion. Mae'r gwaith hwn yn parhau ac yn rhan o'n cynllun datblygu.
2.3 Dulliau Addysgu, Deunyddiau Athrawon a Hyfforddiant Athrawon
Dysgu Proffesiynol
Mae cynnig dysgu proffesiynol helaeth wedi'i rannu ag ysgolion ar draws Abertawe er mwyn cynnwys sesiynau ar gyfer y rhanddeiliaid canlynol:
- Penaethiaid
- Llywodraethwyr Ysgol
- Aelodau CYSAG
- Arweinwyr CGM uwchradd
- Arweinwyr CGM cynradd / Y Dyniaethau
- Cynhadledd CGM Abertawe
- Seminarau gwybodaeth sylweddol gyda'r hwyr
- Athrawon Newydd Gymhwyso
- Geithgor CGM (datblygu arweinyddiaeth mewn CGM)
- Cefnogaeth bwrpasol i ysgolion unigol
- Cefnogaeth clwstwr ar gyfer CGM
- Digwyddiad Rhyng-ffydd
Cynigiwyd yr holl ddysgu proffesiynol yn dilyn prosesau cynllunio a sicrhau ansawdd trylwyr a gwerthuso helaeth, a rhannwyd adborth o'r sesiynau â'r arweinydd gwella ysgolion ac aelodau CYSAG.
Roedd datganiadau effaith o'r sesiynau dysgu proffesiynol yn cynnwys y canlynol:
Rwy'n fwy gwybodus fel athro, ac rwy'n gallu siarad yn hyderus am ddatblygiadau ym myd CGM yn fy Maes Dysgu a Phrofiad (arweinydd CGM uwchradd)
Mae'r hyfforddiant rydych yn ei ddarparu yn wych. Rydych yn rhoi llawer o wybodaeth, ond mae ar gael i bawb. Mae gan athrawon gymaint i'w wneud ac mae darllen drwy'r holl ddogfennau'n llethol. Rwy'n hoffi'r ffordd rydych yn dewis y pethau pwysig ac yn esbonio'r rhain yn glir (rhwydwaith Cynradd)
Roedd yn fraint gweld y panel heddiw, ac yn brofiad arbennig iawn. Dywedodd fy nghydweithiwr a oedd yn eistedd wrth fy ochr yr un peth. Roedd aelodau'r panel mor oddefgar a pharchus, ac roeddent yn annog ei gilydd. Roeddwn i hefyd wedi mwynhau clywed gan yr holl gynrychiolwyr, ac am eu hanes a'u bydolygon (Cynhadledd CGM)
Hoffwn ddweud fy mod i wedi mwynhau'r gynhadledd CGM yn fawr - roedd llawer o syniadau gwych ac roedd yn braf cael y cyfle i siarad ag eraill, a gofyn am eu profiadau nhw o addysg CGM! (Cynhadledd CGM)
Roedd y sesiwn wedi fy helpu i wneud y pwnc yn fwy dealladwy a pherthnasol i bawb. Roedd yn pwysleisio pwysigrwydd CGM yn y cwricwlwm mewn ffordd sy'n ddefnyddiol i'w rhannu â'r ysgol, oherwydd mae'r pwnc yn aml yn cael ei ystyried fel pwnc uwchradd. Hefyd, yr amrywiaeth o syniadau a rannwyd ar gyfer cynllunio gweithgareddau/gwersi (ANG)
Cyngor ymarferol a sesiynau gwych heddiw. Diolch! (gwaith Clwstwr CGM)
Mae'r amser hwn wedi cael effaith amhrisiadwy arnaf fi a fy nghydweithwyr fel arweinwyr CGM. Yn bennaf, mae gweld y darlun mwy wedi gwella cynllunio strategol yn unol â myfyrdod Rwyf wedi mwynhau cael mewnbwn uniongyrchol gan Jennifer a'r gweithgor, ac mae'r cyngor maent wedi'i roi, ynghyd â chymorth ynghylch adnoddau ymchwil, wedi fy helpu fel arweinydd CGM, a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar staff a disgyblion am amser hir i ddod. Mae CGM wedi cael effaith fawr ar helpu'n disgyblion i fodloni'r pedwar diben, gan wella'u sgiliau datrys problemau, datblygu eu hempathi, a gwella'u dealltwriaeth o amrywiaeth i'r fath raddau y mae unrhyw welliant sylweddol yn y ffordd rydym yn cyflwyno'r pwnc yn cael effaith fawr (gweithgor CGM)
Hoffwn ddiolch i chi i gyd am bopeth rydych chi wedi'i wneud, a phopeth rydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd i'n cefnogi i groesawu'r cwricwlwm CGM newydd a chynllunio ar ei gyfer. Nid wyf yn gallu dweud gormod, ond roeddwn i wedi llwyddo i ateb cwestiynau/llinell ymholi eithaf anodd yn hyderus yn ystod ein harolwg yr wythnos hon. Ni fyddwn wedi gallu gwneud hynny heb yr holl hyfforddiant gwych rydym wedi'i gael, felly diolch yn fawr. Roeddwn i wedi eich canmol! (Cefnogaeth bwrpasol)
Deunyddiau Addysgu
- Gan ddefnyddio'r grant o Westhill, mae Abertawe wedi gallu darparu adnoddau, addysgeg a hyfforddiant i ysgolion i'w cefnogi wrth gyflwyno CGM gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol.
- Gwahoddwyd pob darparwr sydd â darpariaeth chweched dosbarth i gofrestru dau fyfyriwr ar gyfer y prosiect Gwersi o Auschwitz, ac mae pob athro wedi derbyn gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi athrawon Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.
- Mae elfen CYSAG o wefan yr awdurdod lleol wedi'i diweddaru ac mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n werthfawr i ysgolion.
- Bydd pob cyfarfod CYSAG yn cynnwys agwedd ar ddysgu ac addysgu fel eitem ar yr agenda.
- Mae CYSAG Abertawe'n parhau i weithio'n agos gyda Phartneriaeth o ran sicrhau ymagwedd gydweithredol tuag at ddysgu proffesiynol.
- Mae CYSAG Abertawe wedi cyflwyno cais llwyddiannus am gyllid ychwanegol gan Westhill Endowment. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu adnoddau dysgu ac addysgyu er mwyn cefnogi darpariaeth CGM yn y blynyddoedd cynnar ac yng nghyfnod allweddol pedwar.
Adran 3
Cyngor ar addoli ar y cyd
3.1 Adroddiadau arolygiadau ysgolion
Mae CYSAG wedi archwilio'r adrannau perthnasol o adroddiadau arolygu ysgolion yr awdurdod lleol. Yn ystod blwyddyn academaidd Medi 2023 - Medi 2024, archwiliwyd deunaw o ysgolion.
Cyflwynwyd crynodeb o ganfyddiadau'r arolygiadau hyn i aelodau. Os daw unrhyw faterion i'r amlwg ynghylch addoli ar y cyd fel peidio â bodloni gofynion statudol, yna bydd yr awdurdod lleol yn mynd ar drywydd hyn drwy ofyn am gynllun gweithredu ac adroddiad cynnydd. Ni chafodd unrhyw broblemau eu hamlygu gan Estyn.
Roedd nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch y weithred ddyddiol o addoli ar y cyd yn yr ysgolion a arolygwyd.
"Mae cyfnodau o addoli ar y cyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau moesegol ac ysbrydol yn llwyddiannus. Mae'r cyfnodau hyn yn eu hannog i fyfyrio'n dawel ar agweddau ysbrydol a chrefyddol. Maent yn annog disgyblion i ystyried gwerthoedd pwysig, megis balchder, wrth ganu cân unigryw'r ysgol gydag angerdd yn ystod gwasanaeth y bore" (Ysgol Tan-y-lan: Ionawr 2024).
"Mae'r weithred ddyddiol o addoli ar y cyd yn gyfle pwysig i ddisgyblion ddod at ei gilydd a myfyrio ar faterion moesol a chymdeithasol pwysig. Mae staff yn cynllunio cyfleoedd gwerthfawr a pherthnasol i fynd i'r afael â materion pwysig megis parch, amrywiaeth, gonestrwydd a charedigrwydd. Mae staff yn sicrhau bod themâu yn gysylltiedig â dysgu blaenorol. Mae disgyblion yn cymryd rhan weithredol mewn addoli ar y cyd" (Ysgol Gynradd Plasmarl - Chwefror 2024).
3.2 Ceisiadau i benderfynu arnynt
Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau gan ysgolion ar gyfer penderfynu a ddylid codi'r gofynion i addoli ar y cyd fod yn Gristnogol yn bennaf neu'n gyfan gwbl.
Mae CYSAG yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd a roddir i aelodau arsylwi ar addoli ar y cyd mewn ysgolion. Ni arsylwyd ar weithredoedd addoli ar y cyd eleni.
Adran 4
Materion eraill
Yn dilyn cyfnod ymgynghori helaeth, yn 2022-2023 mabwysiadodd CYSAG Abertawe a CYSACGM Abertawe eu cyfansoddiadau newydd i gyd-fynd ad Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm i Gymru.
4.2 Diwrnod cofio'r Holocost 2024
Roedd naw ysgol o Abertawe, yn ogystal â sawl aelod o CYSAG, wedi cymryd rhan mewn digwyddiad byw i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Gwahoddwyd yr holl ysgolion ac aelodau CYSAG ar draws Abertawe i gymryd rhan, a chafodd yr eitemau eu recordio a'u rhannu o bell.
Dyma restr o'r ysgolion a oedd wedi cymryd rhan:
Ysgol yr Esgob Gore
Ysgol Gynradd Blaenymaes
Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
Ysgol Gynradd Gellionnen
Ysgol Gynradd Gwyrosydd
Ysgol yr Olchfa
Ysgol Pentrehafod
Ysgol Gatholig San Joseff
Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-Lan
Fel rhan o'i hyfforddiant i aelodau, mae CYSAG wedi ymrwymo i'r canlynol:
- Hysbysu aelodau ynghylch datblygiadau ym maes AG / CGM ac addoli ar y cyd drwy gyflwyniadau rheolaidd i aelodau CYSAG. Mae'r Ymgynghorydd AG / CGM yn rhoi diweddariadau tymhorol a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost.
- Bydd CYSAG / CYSCGM, lle bynnag y bo modd, yn cynnal cyfarfodydd mewn ysgolion yn Abertawe fel y gall aelodau ymgyfarwyddo ag AG ac addoli ar y cyd mewn ysgolion. Cynhaliwyd cyfarfod yr haf eleni gan Ysgol Gyfun Gynraeg Bryn Tawe.
- Bydd CYSAG lle bo'n bosib, yn cynnal cyfarfodydd mewn mannau addoli yn Abertawe fel y gall aelodau ymgyfarwyddo â'r cymunedau ffydd ac edrych ar y profiad y gellid ei gynnig i ysgolion drwy ymweliadau ysgol. Cynhaliwyd cyfarfod y gwanwyn eleni gan Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.
- Bydd pob cyfarfod yn cynnwys o leiaf un cyflwyniad sy'n ymwneud ag AG / CGM sy'n hysbysu aelodau CYSAG am ymarfer AG / CGM y tu mewn i amgylchedd yr ysgol a'r tu allan iddo. Yn 2023-2024, rhoddwyd y cyflwyniadau canlynol:
- Cyflwyniad am rôl ac ymchwil Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym Mhrifysgol Bangor, gan Dr Josh Andrews.
- Cyflwyniad am Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf gan Nora Jensen.
- Cyflwyniad gan arweinwyr GCM Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac Ysgolion Uwchradd Yr Esgob Vaughan a'r Olchfa.
Mae aelodau CYSAG yn werthfawrogol iawn o'r cyfleoedd a gynigir drwy ymweliadau a chyflwyniadau i ddod yn fwy gwybodus ynghylch materion yn ymwneud ag Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion a hoffent ddangos eu gwerthfawrogiad i bawb dan sylw.
Mae CYSAG / CYSCGM Abertawe yn ymfalchïo yn natur gynhwysol ei aelodaeth ac yn annog ei aelodau i fynegi amrywiaeth o safbwyntiau amrywiol ar y pwyllgor ac yn ystod cyfarfodydd. Mae'r aelodaeth yn gryf ac yn amrywiol ac mae'n rhoi adlewyrchiad go iawn o natur 'grefyddol a seciwlar' yr awdurdod lleol.
Ar hyn o bryd mae gan CYSAG Abertawe ddau aelod cyfetholedig ar y pwyllgor.
Erbyn hyn, mae gan y pwyllgor ddau uwch-arweinydd o ysgolion ar draws yr awdurdod yn ogystal â nifer o athrawon AG/CGM presennol.
Bu rhai newidiadau i'r aelodaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym yn ddiolchgar iawn o hyd i'r holl aelodau sy'n rhoi o'u hamser eu hunain i fod yn rhan o'r pwyllgor hwn. Bydd CYSAG Abertawe'n parhau i weithio i lenwi swyddi gwag y pwyllgor er mwyn sicrhau bod barn gynrychiolaidd ac amrywiol i symud y gwaith yn ei flaen.
Mae cynrychiolwyr CYSAG Abertawe'n ymroddedig i sicrhau bod gan holl ysgolion yr awdurdod lleol fynediad at AG/CGM o safon uchel, ac o ganlyniad maent yn cwrdd â phartneriaid cenedlaethol, megis Llywodraeth Cymru, Estyn, Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol sy'n bartneriaid, ac yn gweithio gyda nhw.
Cyflwynwyd a thrafodwyd papur briffio am gefnogi a datblygu CGM mewn ysgolion yn Abertawe yn ystod cyfarfod o'r Panel Craffu Perfformiad Addysg ar 18 Ebrill 2024. Cytunwyd ar bedwar pwynt gweithredu yn dilyn cyflwyno'r adroddiad:
1. Cydweithio â'r Tîm Dyniaethau yn y consortia rhanbarthol er mwyn sicrhau cysondeb o ran yr ymagwedd at ddysgu proffesiynol.
2. Cynnal ymchwil ar draws yr awdurdod lleol i gymharu â'r canfyddiadau cenedlaethol.
3. Trafodaethau ag Estyn i sicrhau bod CYSAG Abertawe'n cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
4. Gweithio mewn partneriaeth ag Addysg Gychwynnol i Athrawon yn Abertawe i gynnig cefnogaeth ynghylch CGM i hyfforddeion.
4.7 Rhannu gwaith CYSAG / CYSCGM Abertawe
Mae'r ymgynghorydd CGM/AG wedi cael ei wahodd i sawl cynhadledd i roi cyflwyniad am waith CGM/AG Abertawe.
Cynhaliwyd cynhadledd AREIAC (Y Gymdeithas Arolygwyr, Cynghorwyr ac Ymgynghorwyr Addysg Grefyddol ) ac AULRE (Y Gymdeithas Darlithwyr Prifysgol mewn Crefydd ac Addysg) yn haf 2024.
Teitl y cyflwyniad oedd:
'Finding the sweet spot'
Cefnogi a grymuso athrawon i ddod o hyd i'w ffordd drwy'r ymreolaeth a roddir gan y Cwricwlwm i Gymru gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sy'n hanfodol ar gyfer cefnogi eu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesol a gwybodus.
Y sail resymegol, y meddwl a'r diwydrwydd dyladwy manwl a ddefnyddiwyd i lunio'n maes llafur cytunedig CGM.
Prifysgol Goldsmith, Llundain, Cynhadledd a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2024.
Teitl y cyflwyniad oedd
'Engaging with Ethical veganism as a worldview. Refections and observations from the classroom.'
'Strictly RE - The National RE Conference' ym mis Ionawr 2024.
Teitl y cyflwyniad oedd
'Developing ethical and religiously informed citizens.'
Gwnaeth yr ymgynghorydd AG/CGM gyflwyno sesiwn dysgu proffesiynol ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru yng ngwanwyn 2024.
Teitl y cyflwyniad oedd
'Challenging and addressing antisemitism in education.'
Roedd yr ymgynghorydd AG/CGM hefyd wedi cyflwyno seminar dysgu proffesiynol ar gyfer DARPL (dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth) yn hydref 2023.
Teitl y cyflwyniad oedd
'Antisemitism & Education: the challenges and opportunities of the Curriculum for Wales.'
Mae'r ymgynghorydd AG/CGM hefyd wedi cyd-lunio blog gyda'r Athro Linda Woodhead MBE am rôl CGM yn y Cwricwlwm i Gymru.
Gwreiddio 'gwerthoedd' mewn AG
Atodiad 1: Aelodaeth CYSAG / CYSCGM Abertawe 2023-2024
Enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill (17)
Yr Eglwys yng Nghymru (3):
John Meredith, Cyfarwyddwr Addysg
Y Parch. Ian Folks, Tîm Gweinidogaeth Canol Abertawe
Y Parch. Dr Jonathon Wright, Offeiriad mewn Gofal, Bywoliaeth Abertawe San Pedr (y Cocyd)
Catholig (3):
Mr Paul White, Cyfarwyddwr Addysg
Adele Thomas, Adran AG, Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
Swydd wag
Anghydffurfwyr (3):
Mr Paul Davies
Mr Kevin Davies
Mr Brin Jones (Methodist)
Y Gymuned Hebreaidd (1):
Mrs Norma Glass
Y Gymuned Foslemaidd (2):
Moshen Elbeltagi
Sheikh Eunus Ali
Y Gymuned Hindŵaidd (1):
Dr Minkesh Sood
Y Gymuned Sicaidd (1):
Swydd wag
Y Gymuned Fwdhaidd (1):
Mr Roland Jones
Cymdeithas y Dyneiddwyr (1):
Greg James
Cynrychiolydd Bahaiaidd (1):
Rita Green
Cymdeithasau athrawon (7):
Cymdeithas y Prifathrawon Uwchradd (SHA) - Matthew Goulding
Yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) - Alison Lewis (Athro uwchradd)
NAS / UWT - Claire Foley (Athro cynradd)
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) - Rachel Bendall (Darlithydd AG Addysg Uwch)
NAHT - John Owen (Prif Athro Ysgol Cynradd)
VOICE - Mrs Heather Hansen (Pennaeth Adran uwchradd - ysgol ffydd)
Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) - Briony Knibbs (Darlithydd AG Addysg Bellach)
Awdurdod addysg lleol (5):
Y Cynghorydd Yvonne Jardine
Y Cynghorydd Lyndon Jones
Y Cynghorydd Mary Jones
Y Cynghorydd Jess Pritchard
Y Cynghorydd Sam Pritchard
Aelodaeth a gyfetholwyd:
Mrs Ruth Jenkins - cynrychiolydd addysg uwchradd
Mrs Tanya Long - Pennaeth adran AG sydd wedi ymddeol / prif arholwr CBAC
Mrs Carrie Richards - Ysgol Gynradd Gwyrosydd
Swyddogion CYSAG:
Mrs Jennifer Harding-Richards - Ymgynghorydd Addysg Grefyddol
Mrs Nikki Hill - Adran Addysg, Cyngor Abertawe
Ysgrifenyddes
Miss Agnieszka Majewska - Adran Addysg, Cyngor Abertawe.
Atodiad 2: Amserlen cyfarfodydd ac eitemau'r agenda
DS: Gwahoddir aelodau CYSAG i dri chyfarfod anffurfiol y flwyddyn a gynhelir ar ôl y cyfarfodydd ffurfiol. Diben y cyfarfodydd hyn yw rhoi cyfle i is-grwpiau weithio ar gamau gweithredu o'r cyfarfodydd ffurfiol.
Roedd y prif eitemau busnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd ffurfiol yn cynnwys:
16 Tachwedd 2023: Y Ganolfan Ddinesig, Abertawe
- Cyflwyniad a chroesawu aelodau newydd
- Ymddiheuriadau am absenoldeb
- Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac unrhyw faterion sy'n codi
- Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru; Prifysgol Bangor - Cyflwyniad
- Monitro AG/CGM
- Data arholiadau Abertawe 2023
- Adroddiadau Estyn 2022/23
- Diweddariadau gan ysgolion
- Cefnogi AG/CGM
- Cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru
- Deddfwriaeth
- Dysgu Proffesiynol
- Cynhadledd CGM Abertawe
- Dysgu Proffesiynol ar gyfer Aelodau
- Marc Ansawdd Addysg Grefyddol
- Adroddiad Blynyddol 2022 - 23
- Wythnos Rhyng-ffydd
- Diwrnod Coffáu'r Holocost 2024
- CYSAG/CYSCGM Ieuenctid; cynnwys dysgwyr
- Dyddiadau/lleoliadau cyfarfodydd 2023/24
6 Mawrth 2024: Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf
- Cyflwyniad a chroesawu aelodau newydd
- Ymddiheuriadau am absenoldeb
- Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi
- Cyflwyniad - Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf
- Adborth o'r cyfarfod anffurfiol - 19 Chwefror
- Cefnogi CGM mewn ysgolion yn Abertawe
- Monitro CGM mewn ysgolion yn Abertawe
- Datblygu gwaith CYSAG / blaenoriaethau
- Manylion cyfarfod yr haf
26 Mehefin 2024: Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn tawe, Abertawe
- Cyflwyniad a chroesawu aelodau newydd
- Ymddiheuriadau am absenoldeb
- Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi
- Cyflwyniadau
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
- Ysgol yr Olchfa
- Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
- Adborth o'r cyfarfod anffurfiol - 19 Chwefror
- Cefnogi CGM mewn ysgolion yn Abertawe
- Monitro CGM mewn ysgolion yn Abertawe
- Datblygu gwaith CYSAG / blaenoriaethau
- Manylion cyfarfod yr haf
Atodiad 3: Blaenoriaethau CYSAG / CYSCGM Abertawe 2024 - 2027
Cynllun Datblygu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Abertawe (2024-2027)
Datganiad o Genhadaeth:
Cefnogi, hyrwyddo a monitro datblygiad Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn holl ysgolion Abertawe, yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod gan bobl ifanc yr wybodaeth, y sgiliau, a'r ddealltwriaeth i ymgysylltu â chrefyddau, credoau a safbwyntiau moesegol amrywiol.
Blwyddyn 1 - 2024-2025: Sylfaen ac adolygiad
Amcan 1
Cryfhau fframwaith strategol CYSAG / CYSCGM Abertawe
Nod
Adolygu strwythur, polisïau, ac adnoddau presennol CYSAG/CYSCGM i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru newydd a gofynion statudol CGM.
Tasgau
Sefydlu is-bwyllgor i arwain yr adolygiad hwn.
Cynnal ymgynghoriadau gydag ysgolion, cynrychiolwyr ffydd a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg.
Asesu unrhyw fylchau ym meysydd cydymffurfio â'r Cwricwlwm i Gymru, yn benodol mewn perthynas â darpariaethau CGM.
Datblygu fframwaith strategol clir ar gyfer rôl CYSAG mewn cefnogi ysgolion.
Amcan 2
Adeiladu partneriaethau cydweithredol.
Nod
Cryfhau perthnasoedd gydag ysgolion lleol, grwpiau ffydd cymunedol, a chyrff CYSAG/CYSCGM eraill yng Nghymru er mwyn meithrin rhwydwaith partneriaeth gynhwysol ac effeithiol.
Tasgau
Trefnu symposiwm CYSAG/CYSCGM ledled Abertawe i ddod â rhanddeiliaid ynghyd.
Adeiladu cysylltiadau â rhwydweithiau rhyng-ffydd lleol i ymgysylltu â chymunedau crefyddol amrywiol a dysgu am fydolygon.
Ymgysylltu â'r CYSAGau/CYSCGMau rhanbarthol i rannu arfer effeithiol.
Amcan 3
Gwella datblygiad proffesiynol a dysgu ar gyfer athrawon.
Nod
Darparu adnoddau a hyfforddiant i athrawon am ofynion CGM y cwricwlwm newydd i sicrhau bod gan athrawon yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddarparu addysg CGM o safon.
Tasgau
Nodi bylchau presennol mewn hyfforddiant CGM.
Trefnu sesiynau dysgu proffesiynol gan ddefnyddio arbenigedd CYSAG/CYSCGM.
Darparu adnoddau CGM digidol a ffisegol wedi'u diweddaru i ysgolion.
Amcan 4
Sefydlu dulliau monitro.
Nod
Sefydlu systemau i fonitro ansawdd CGM mewn ysgolion yn Abertawe i sicrhau y cydymffurfir â'r Cwricwlwm i Gymru ac arweiniad/maes llafur cytunedig Abertawe ar gyfer CGM.
Tasgau
Datblygu fframwaith adrodd blynyddol ar gyfer ysgolion ynghylch CGM.
Creu offer hunanasesiad ar gyfer ysgolion fel y gallant werthuso eu darpariaeth CGM.
Dechrau casglu data ynghylch perfformiad CGM a nodi meysydd gwella.
Blwyddyn 2 - 2025-2026: Rhoi pethau ar waith a thwf
Amcan 1
Cefnogi'r gwaith o roi CGM ar waith mewn ysgolion.
Nod
Darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i ysgolion i wella'r ffordd y cyflwynir y cwricwlwm CGM i sicrhau bod ysgolion yn rhoi CGM ar waith yn effeithiol yn y cwricwlwm.
Tasgau
Cynnig ymgynghoriaeth bwrpasol i ysgolion y mae angen cymorth CGM ychwanegol arnynt.
Annog cydlynwyr CGM mewn ysgolion i rwydweithio a rhannu arferion gorau.
Cynnal arsylwadau dosbarth a chynnig adborth am wersi CGM.
Amcan 2
Datblygu adnoddau a chefnogaeth ar gyfer safbwyntiau amrywiol.
Nod
Creu adnoddau sy'n adlewyrchu safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol amrywiol i hyrwyddo cynwysoldeb a dealltwriaeth ehangach o gwmpas CGM.
Tasgau
Gweithio gydag arweinwyr ffydd a'r rheini sy'n arbenigo mewn bydolygon i ddatblygu deunyddiau dysgu cynhwysol.
Sicrhau bod deunyddiau'n adlewyrchu amrywiaeth Abertawe ac yn cynrychioli credoau crefyddol lleol a byd-eang a thraddodiadau bydolygon.
Datblygu adnoddau Cymraeg a Saesneg.
Amcan 3
Cryfhau, monitro a gwerthuso
Nod
Parhau â gwaith CYSAG o fonitro'r ddarpariaeth CGM mewn ysgolion a mireinio'r gwaith hwn er mwyn gwerthuso'r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn gyntaf a chynnig ymyriadau wedi'u targedu.
Tasgau
Cynnal ymweliadau ag ysgolion i asesu cydymffurfiaeth â CGM a'i ansawdd.
Dadansoddi data mewn perthynas â CGM ac amrywiaeth o ffynonellau.
Darparu adroddiadau adborth i ysgolion ac awgrymu strategaethau ar gyfer gwella.
Amcan 4
Hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o CGM.
Nod
Lansio ymgyrchoedd cyhoeddus a digwyddiadau ysgol sy'n canolbwyntio ar CGM a gwerth CGM er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CGM yn y gymuned.
Tasgau
Trefnu Wythnos CGM Abertawe flynyddol mewn ysgolion, er mwyn rhoi sylw i bwysigrwydd CGM.
Cydweithio â'r cyfryngau a'r llywodraeth leol i hyrwyddo CGM.
Annog ysgolion i gynnal digwyddiadau ar gyfer sgyrsiau rhyng-fydd a phrosiectau cymunedol.
Blwyddyn 3 - 2026-2027: Cyfuno a gweithredu
Amcan 1
Sicrhau cynaladwyedd tymor hir.
Nod
Gwreiddio cefnogaeth ac adnoddau CYSAG/CYSCGM yn systemau ysgolion ac isadeiledd addysgol i sicrhau bod gan ysgolion systemau cynaliadwy ar waith i gefnogi darpariaeth CGM o ansawdd uchel.
Tasgau
Annog ysgolion i benodi cydlynwyr CGM dynodedig i sicrhau dilyniant.
Creu llyfrgell ddigidol o adnoddau CGM sy'n hygyrch i'r holl ysgolion.
Datblygu cynllun olyniaeth ar gyfer aelodau CYSAG/CYSCGM, gan sicrhau bod arbenigedd ac ymgysylltu yn parhau.
Amcan 2
Ymgysylltu â'r gymuned yn fwy
Nod
Gwella'r ffordd y mae CYSAG/CYSCGM yn ymgysylltu â chymunedau crefyddol a seciwlar Abertawe er mwyn meithrin perchnogaeth gymunedol o CGM a gwella cyfranogiad cymunedol mewn bywyd ysgol.
Tasgau
Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau crefyddol lleol a grwpiau bydolwg i ddatblygu rhaglenni mentora i ddisgyblion.
Annog ysgolion i wahodd arweinwyr ffydd a chynrychiolwyr cymunedol i gymryd rhan mewn dosbarthiadau CGM.
Cynnal dathliad dysgu aml-ffydd i arddangos dealltwriaeth myfyrwyr o bynciau CGM.
Amcan 3
Cyhoeddi a Rhannu Arferion Gorau
Nod
Dogfennu a lledaenu strategaethau a chanlyniadau llwyddiannus o'r fenter CGM er mwyn rhannu gwaith CYSAG Abertawe â CYSAGau/CYSCGMau eraill a'r gymuned addysgol ehangach.
Tasgau
Llunio llawlyfr o waith CYSAG Abertawe.
Cyflwyno a rhannu gwaith CYSAG/CYSCGM Abertawe mewn cynadleddau cenedlaethol.
Cydweithio â CYSAGau/CYSCGMau sy'n bartneriaid er mwyn rhannu a datblygu gwaith.
Amcan 4
Gwerthuso Effaith a Chynllunio ar gyfer Datblygiad yn y Dyfodol
Nod
Cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith CYSAG/CYSCGM dros y cyfnod o dair blynedd er mwyn mesur effaith a gosod nodau ar gyfer y dyfodol ar gyfer CGM mewn ysgolion.
Tasgau
Ymgysylltu ag arfarnwr allanol i asesu effeithiolrwydd gwaith CYSAG/CYSCGM.
Casglu adborth gan ysgolion, athrawon, myfyrwyr a rhanddeiliaid cymunedol.
Datblygu cynllun strategol newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd a dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae cynllun 3 blynedd CYSAG Abertawe yn sicrhau ymagwedd strategol a chynhwysfawr at wreiddio a gwella Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ysgolion y ddinas. Drwy gefnogaeth barhaus, partneriaethau a rhoi ffocws ar gynwysoldeb, bydd CYSAG Abertawe'n helpu ysgolion i gyflawni cwricwlwm CGM cadarn sy'n paratoi myfyrwyr i fyw bywyd fel dinasyddion gwybodus mewn byd amrywiol.
Atodiad 4
Caiff copïau electronig eu hanfon at y cyrff perthnasol. Bydd yr adroddiad hwn ar gael ar wefan CCYSAGC i bawb sydd am ei lawrlwytho. Caiff hefyd ei lanlwytho i adran CYSAG / CYSCGM gwefan ALI Abertawe.
Awdurdod Addysg Dinas a Sir Abertawe
Pob aelod o CYSAG / CYSCGM
Penaethiaid a chyrff llywodraethu pob ysgol a choleg yn Ninas a Sir Abertawe
Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru