Canolfan Gymdeithasol Dyfnant
Lle Llesol Abertawe
Bob prynhawn Iau, 2.00pm - 4.00pm
Cynhelir sesiynau prynhawn Hwb Cynnes Lleoedd Llesol Abertawe bob prynhawn Iau (2.00pm - 4.00pm) o fis Rhagfyr 2024 i fis Chwefror 2025 yn gynhwysol, sy'n darparu cyfleuster i bobl gwrdd mewn lle cynnes a chael paned o de neu goffi, byrbrydau twym a sgwrs, a chyfle i ddarllen papur newydd a mwynhau cerddoriaeth, gemau bwrdd a gweithgareddau.
Ar gyfer rhai sesiynau, bydd cynrychiolydd gwasanaeth cyhoeddus (e.e. Ambiwlans, Diogelu rhag Tân, Cydlynydd Cymdeithasol Lleol, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Swyddog Safonau Masnach y Cyngor etc.) yn ymuno â ni am sgwrs a bwriedir cynnal sesiynau ioga/T'ai Chi ysgafnach.
- WiFi am ddim
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
- Mannau parcio ceir / parcio i'r anabl
- Gemau / gemau bwrdd
- Mae lluniaeth ar gael
- Dŵr yfed ar gael
- Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau / papurau newydd a chylchgronau