Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoedd Llesol Abertawe

Lleoedd yn Abertawe sy'n cynnig croeso cynnes i breswylwyr.

Rydym wedi rhestru'r lleoliadau yn Abertawe a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ymweld â nhw. Ni fydd angen i chi roi rheswm dros eich ymweliad, dewch i fwynhau'r hyn sydd ar gynnig mewn lle diogel, cynnes a chroesawgar.

Cofiwch wirio'r hyn sydd ar gynnig yn eich archfarchnadoedd a'ch caffis lleol hefyd.

Gallwch ddod o hyd i sgoriau hylendid bwyd ar gyfer sefydliadau sy'n darparu bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Cyngor Abertawe'n darparu'r wybodaeth a restrir yng nghyfeiriadur 'Lleoedd Llesol Abertawe' at ddibenion gwybodaeth yn unig, i roi gwybod i'r cyhoedd am leoedd sydd ar agor y gaeaf hwn. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid yw Cyngor Abertawe'n gwneud unrhyw warant, yn ddatganedig neu'n ymhlyg, am gyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd nac argaeledd yr wybodaeth yn y cyfeiriadur hwn, y nwyddau neu'r gwasanaethau yn 'Lleoedd Llesol Abertawe'. Rydych yn mynd i unrhyw 'Leoedd Llesol Abertawe' sy'n cael eu rheoli neu eu gweithredu gan unrhyw sefydliad arall ar eich menter eich hun.

Map o Leoedd Llesol Abertawe

 

Rhestr o Leoedd Llesol Abertawe a'r hyn sydd ar gynnig

Cliciwch ar yr ardaloedd ward isod i weld y Lleoedd Llesol Abertawe unigol a'u manylion, gan gynnwys oriau agor.

Canolog

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Y Castell, Townhill, Uplands, Glannau.

Dwyrain

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Bon-y-maen, Clydach, Llangyfelach, Llansamlet, Treforys, St Thomas.

Gogledd

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Y Cocyd, Cwmbwrla, Glandŵr, Mynyddbach, Penderi.

Gogledd-orllewin

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Tregŵyr, Gorseinon a Phenyrheol, Llwchwr, Penllergaer, Pontlliw a Thircoed, Pontarddulais, Waunarlwydd.

Gorllewin

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Dyfnant a Chilâ, Fairwood, Mayals, Sgeti.

Gŵyr

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Llandeilo Ferwallt, Gŵyr, Y Mwmbwls, Penclawdd, Pennard, West Cross.

Gweithgareddau heneiddio'n dda

Cyfleoedd i aros yn heini a chwrdd â phobl newydd yn Abertawe.

Sesiynau a Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd

Mae Chwaraeon ac Iechyd yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Ionawr 2025